Neidio i'r prif gynnwy

Rhagor o wybodaeth am ein ceisiadau cynllunio

People meeting round a table

SESIWN 18 MAWRTH – WEDI’I GANSLO

Mae’r sesiynau isod ar ddydd Iau 19, dydd Gwener 20 a dydd Sadwrn 21 Mawrth yn cael eu canslo, yn dilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Coronafeirws..

Gallwch weld ein cynlluniau ar gyfer mynediad i Ganolfan Ganser newydd Felindre ar wefan The Urbanists.

Gallwch weld ein cynlluniau hefyd drwy ymweld â Llyfrgell Rhiwbeina neu Hyb Gogledd Llandaf/Gabalfa. Mae Llyfrgell yr Eglwys newydd ar gau ar hyn o bryd i’w hadnewyddu.

Gallwch weld a thrafod ein cynlluniau gyda staff Felindre yng Nghlwb Rygbi’r Eglwys Newydd ar y dyddiau a’r amseroedd canlynol:

  • Dydd Llun 9 Mawrth – rhwng 11am a 7.30 pm
  • Dydd Mawrth 10 Mawrth – rhwng 11am a 7.30 pm
  • Dydd Mercher 11 Mawrth – rhwng 11am a 7.30 pm
  • Wedi’i Ganslo – Dydd Iau 19 Mawrth – rhwng 11am a 7.30 pm
  • Wedi’i Ganslo – Dydd Gwener 20 Mawrth – rhwng 11am a 7.30 pm
  • Wedi’i Ganslo – Dydd Sadwrn 21 Mawrth rhwng 11am a 7.30 pm

Gallwch wneud sylwadau ar ein cynlluniau ar gyfer y brif fynedfa yn Asda erbyn dydd Sul 22 Mawrth, drwy e-bostio info@theurbanists.net neu drwy ysgrifennu at The Urbanists, The Creative Quarter, 8a Morgan Arcade, Caerdydd, CF10 1AF.

Gallwch wneud sylwadau ar ein cynlluniau ar gyfer y ffordd mynediad dros dro i draffig adeiladu ar safle Ysbyty’r Eglwys Newydd drwy e-bostio Cysylltu.Felindre@wales.nhs.uk neu drwy ysgrifennu at Brosiect Newydd Canolfan Ganser Felindre, Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL.