Neidio i'r prif gynnwy

nVCC cynefin oddi ar y safle

Rydym am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i ni ddechrau cyfnod arall yn ein gwaith i ddatblygu Canolfan Ganser Felindre newydd.   

Rydym wedi bod yn paratoi'r safle gan gynnwys gwaith clirio llystyfiant hanfodol wedi'i dargedu sydd wedi'i gwblhau'n sylweddol. 

Gwnaed y gwaith hwn o dan drwydded Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel rhan o'r drwydded i baratoi'r safle, mae'n ofynnol i ni greu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt er mwyn gwella lefel y cynefin yn yr ardal ac alinio ag amcanion cadwraeth allweddol Cyfoeth Naturiol Cymru.  

Byddwn yn creu cynefinoedd newydd a gwella'r ardal bresennol o brysgwydd a choetir ar draws safleoedd cyfagos ac yn gwella cysylltedd cynefinoedd.    

Lle mae'r cynefinoedd yn cael eu creu?   

Byddant yn cael eu gwasgaru ar draws gwahanol ardaloedd gan gynnwys:  

 • dolydd a choetir i'r gogledd-orllewin o safle’r  ganolfan newydd gan gynnwys llethrau'r hen doriad rheilffordd  

 • tir a ddefnyddir ar hyn o bryd gan glwb pêl-droed AFC yr Eglwys Newydd ac o amgylch ffiniau'r cae criced  

 • Ardal y faenor o dir Ysbyty'r Eglwys Newydd.   

Rydym hefyd wedi bod yn gosod blychau nythu pathewod ar draws rhai o'r ardaloedd hyn. 

 

Delwedd o'r awyr o sut y bydd yr ardal a'r cynefin newydd yn edrych tua 20 mlynedd  

Beth mae'r clybiau chwaraeon yn ei ddweud?  

Rydym wedi bod yn trafod gyda'r holl glybiau chwaraeon perthnasol drwy gydol y broses, ac maent yn cefnogi ein cynlluniau. Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi bod yn bartneriaid allweddol yn y trafodaethau hyn hefyd.  

Pryd fydd y gwaith yn dechrau?  

Rydym yn bwriadu dechrau’r gwaith ym mis Ionawr. Mae disgwyl i'r gwaith ar y cae pêl-droed a chriced ddechrau wythnos 8 Ionawr.  

Byddwn hefyd yn dechrau gweithio yn yr hen doriad rheilffordd o 10 Ionawr. Bydd y cam hwn yn golygu torri coed ynn mawr sy’n dioddef o Ash Die Back yn y torri o'r bont sydd newydd ei hadeiladu i fyny tuag at a thu hwnt i bont McDonalds. Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd gennym marsialiaid i arwain cerddwyr dros dro yn ystod y cwympo. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i ni gau'r Hawl Tramwy Cyhoeddus.   

Ar 10 Ionawr, am un diwrnod, bydd goleuadau pedair ffordd dros dro yn cael eu gosod ar Ffordd Pendwyallt wrth fynedfa Lady Cory Field i gludo offer yn ddiogel i ardal toriad yr hen rheilffordd.     

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi drwy gydol y broses ac yn rhoi gwybod i chi am ddyddiadau allweddol sydd i ddod. 

Pam bod hyn yn rhan o'r prosiect i adeiladu canolfan ganser newydd?   

Mae datblygu'r ganolfan ganser newydd yn y ffordd fwyaf cynaliadwy posibl a lliniaru ein heffaith ar yr amgylchedd wedi, ac yn parhau i fod, yn flaenoriaethau allweddol ar bob cam o'n proses. Rydym wedi gwneud sawl penderfyniad sy'n adlewyrchu hyn, gan gynnwys ein hymrwymiad i gadw 60% o'r safle datblygu fel tirwedd gydag ôl troed adeiledig o 40%.  

Sut fydd yn edrych?   

 

 

Mae ein tîm wedi comisiynu'r delweddau hyn i roi syniad i chi o sut olwg fydd ar y cynefin. Dyma frasamcan yn unig o sut olwg fydd ar y cynefin unwaith y bydd y cynefin wedi datblygu dros gyfnod hwy o hyd at 20 mlynedd.  

Byddwn yn cynnal ein cyfarfod preswyl rheolaidd ym mis Ionawr lle bydd y tîm wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni ar cysylltu.felindre@wales.nhs.uk  

Diolch am eich cydweithrediad wrth i ni weithio i ddatblygu’r Ganolfan Ganser Felindre newydd.