Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau fath o grant nad oes angen i chi eu talu'n ôl.
Taliad Cymorth Brys
Grant i helpu i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio brys os ydych yn profi caledi ariannol eithafol, wedi colli eich swydd, wedi gwneud cais am fudd-daliadau a’ch bod chi’n aros am eich taliad cyntaf. Ni allwch ei ddefnyddio i dalu am filiau parhaus na allwch fforddio eu talu.
Taliad Cymorth Unigol
Grant i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano i fyw yn annibynnol yn eu cartref neu eiddo rydych chi neu nhw'n symud i mewn iddo.