Mae’r animeiddiad yn darparu gwybodaeth i gleifion sy’n dechrau eu triniaeth am ganser gydag atalydd cinasau tyrosin. Yr enw mwy cyffredin ar hwn yw TKI ac fel arfer mae enw’r gwahanol fathau o’r moddion hwn yn gorffen gyda -nib.
Mae Ward y Llawr Cyntaf yn y Ganolfan Ganser wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Student Nursing Times yng nghategori ‘lleoliad y flwyddyn i fyfyrwyr: ysbyty’ ar gyfer model ‘prif ganolfan a lloerennau’ yn y maes dysgu.
Yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae ein sefydliad a’n gweithwyr yn elwa o brentisiaethau. Mae Gradd-brentisiaethau Digidol yn helpu i uwchsgilio staff presennol, gan wella eu gwybodaeth i ddod â safbwyntiau newydd a sgiliau sy’n barod ar gyfer y dyfodol i’r gweithle.
Gall mwy o bobl nag erioed o'r blaen ymuno â chofrestr mêr esgyrn Gwasanaeth Gwaed Cymru i helpu cleifion i oresgyn canserau gwaed ac anhwylderau gwaed, mewn newidiadau a gyflwynwyd i nodi Diwrnod Canser y Byd.
Bu Isabel Dockings, 17 oed o Gasnewydd, yn derbyn diagnosis o Sarcoma Ewing Metastatig, math prin o ganser yr asgwrn a oedd wedi lledaenu ar ben ei glun yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Mae hi bellach yn nodi blwyddyn ers iddi gael diagnosis ar 6 Chwefror 2023 a 3 mis heb ganser.
Mae'n bleser gan y Tîm Gwella Gwasanaeth gyhoeddi enillwyr Gwobr 5 munud o Welliant y Mis Rhagfyr.