Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd Gwelliant 5 Munud y Mis | Rhagfyr 2023

2 Chwefror 2024

Mae'n bleser gan y Tîm Gwella Gwasanaeth gyhoeddi mai'r rheiny sydd wedi ennill Gwobr 5 munud o Welliant y Mis Rhagfyr yw Tracy Morris, Christy Ringsell a Tiffany Bowen o'r Gwasanaethau Labordy. Llongyfarchiadau i chi gyd!!

Creodd y tîm stampiau ar gyfer Swyddfa Weinyddol y Lab sy'n cael eu defnyddio ar ddogfennau y mae angen eu rhoi ar ESR, Q-Pulse ac ati. Mae hyn yn golygu pan fydd y ddogfen yn mynd yn ôl i'r Labordai, gall staff fod yn hyderus fod y gwaith gweinyddol angenrheidiol wedi'i gwblhau. Mae'r stamp yn darparu cymorth gweledol ac yn arbed amser (Amserol), ymdrech (Effeithlon) ac ymyriadau (Canolbwyntio ar yr Unigolyn) trwy ddileu'r angen i wirio ddwywaith gyda'r swyddfa i weld a yw ffurflenni wedi'u prosesu ai peidio.

Sgoriwyd yr holl geisiadau am 5 Munud o Welliant ym mis Rhagfyr yn erbyn y meini prawf a osodwyd ymlaen llaw isod. Yna cyflwynwyd y gwelliannau a sgoriodd uchaf i'r Uwch Dîm Rheoli i bleidleisio ar yr enillydd. Cawsom ddeg gwelliant gwych y mis hwn ac mae'r gystadleuaeth yn mynd yn gryfach ac yn gryfach - roedd 5 o'r rheini ar restr fer yr Uwch Dîm Rheoli!

Llongyfarchiadau hefyd i'r rhai a ddaeth yn ail am y mis hwn:

  • RCI – Collette Harris a Heather Davies am eu gwelliant o ran 'Templed adborth o gyfarfodydd allanol'
  • Busnes a Chydymffurfiaeth – Amy Hancock am ei gwelliant o ran 'Crynhoi memos ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau'
  • Busnes a Chydymffurfiaeth - Amy Hancock am ei gwelliant o ran 'Templed tudalen flaen i hwyluso'r gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer EFI'
  • Cynllunio – Jessica Lee, Tracey Button a Jayne Narbeth am eu gwelliant o ran 'Ffurflen asesu trafnidiaeth'