Neidio i'r prif gynnwy

Cip cyntaf ar animeiddiad newydd sy'n rhoi gwybodaeth i gleifion

19 Chwefror 2024

Mae fideo gwybodaeth newydd gyda Thîm Fferylliaeth Felindre wedi ei lansio heddiw.

Mae’r animeiddiad yn darparu gwybodaeth i gleifion sy’n dechrau eu triniaeth am ganser gydag atalydd cinasau tyrosin. Yr enw mwy cyffredin ar hwn yw TKI ac fel arfer mae enw’r gwahanol fathau o’r moddion hwn yn gorffen gyda -nib.

Math o therapi wedi ei dargedu yw moddion TKI sy’n cael ei roi i gleifion ar ffurf tabled neu gapsiwl i drin gwahanol fathau o ganser. Ar hyn o bryd, mae mwy na 25 o wahanol fathau o TKI yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn i gleifion yn rhan o’u triniaeth.

Mae moddion TKI yn cael ei ddefnyddio’n fwyfwy aml i drin nifer o fathau o ganser, gan gynnwys canser yr arennau, canser yr ysgyfaint a melanoma, ac maent yn parhau i ehangu i fathau eraill o ganser.

Ar hyn o bryd, mae’r Tîm Addysg i Gleifion yn cynnal ymgynghoriadau arbennig gyda chleifion yn yr Adran Fferylliaeth i’w helpu i ddeall sut i gymryd eu moddion, sut i drin unrhyw sgil-effeithiau mewn modd diogel a phryd i ffonio’r Llinell Gymorth am Driniaeth am gyngor.

Wrth i nifer y mathau o foddion TKI barhau i gynyddu, penderfynodd y tîm fod angen dull mwy cynaliadwy o ddarparu addysg i gleifion.

Sarah Goman yw Arweinydd Tîm Addysg i Gleifion yr Adran Fferylliaeth a hi yw un o’r cymeriadau sy’n ymddangos yn y fideo. Meddai hi: “Roeddem yn awyddus i gyrraedd mwy o gleifion er mwyn darparu gwybodaeth ynglŷn â’u triniaeth, a sut i drin rhai o’r sgil-effeithiau cyffredin a llai difrifol.

“Nod y fideo hwn yw galluogi cleifion a’u gofalwyr i deimlo’n hyderus wrth ymdopi â’u triniaeth ac aros yn iach yn eu cartref.”