Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Llyfrgell: Sut i .......

 

Isod ceir gwybodaeth, canllawiau a fideos ar sut i ddefnyddio neu ofyn am wahanol wasanaethau llyfrgell.
I gael cyflwyniad byr i'n gwasanaethau, edrychwch ar ein sesiwn sefydlu ar-lein, neu lawrlwythwch ein pecyn cynefino.

 

Ymuno â'r Llyfrgell

 

 

Mae gan holl staff Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, GGC a sefydliadau eraill a gynhelir yr hawl i fod yn aelod o’r llyfrgell. Fel aelod o Lyfrgell Felindre, rydych yn dod yn aelod o Lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd yn awtomatig, ac yn gallu cael mynediad i’w casgliadau caled.
Cliciwch ar y botwm ar y chwith i lenwi'r ffurflen aelodaeth ar-lein neu, lawrlwytho ffurflen.

 

 

Ddefnyddio Cyfleuster Chwilio Llyfrgell GIG Cymru…

 

Cyfleuster Chwilio Llyfrgell GIG Cymru yw'r catalog llyfrgell sy'n eich galluogi i chwilio a dod o hyd i lyfrau a chyfnodolion caled neu electronig sydd yn cael eu cadw yn ein llyfrgell, mewn llyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd ac yn holl lyfrgelloedd GIG Cymru. Yn ogystal, gallwch gyrchu, gweld a diwygio manylion personol ar eich cyfrif llyfrgell.
Edrychwch ar y ddau fideo isod i weld cyflwyniadau byr ar sut i gael mynediad i'ch cyfrif llyfrgell ac i chwilio am eitemau.

 

 

Ofyn am Erthyglau neu Lyfrau

 

Os ydych chi angen llyfrau neu gyfnodolion sydd ddim yn cael eu cadw gennym, yna peidiwch â phoeni, gallwn ofyn amdanynt o lyfrgell arall i chi! Cliciwch ar y ddolen isod i lenwi a chyflwyno cais, neu e-bostiwch restr atom os oes sawl un. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys cymaint o fanylion ag y gallwch.

 

Chwilio am Lenyddiaeth – Gwneud Cais

 

Ydych chi angen dod o hyd i wybodaeth a dim yn siŵr ble i edrych, neu ydych chi ei hangen yn gyflym a dim gyda’r amser i chwilio'n drylwyr? Gallwn chwilio am lenyddiaeth ar eich rhan, sy'n ymdrin â phob math o gwestiynau sy'n ymwneud ag iechyd mewn sawl cronfa ddata wahanol, ac e-bostio'r canlyniadau yn uniongyrchol atoch chi. E-bostiwch ni gyda'r manylion, neu lawrlwythwch a llenwch ein ffurflen gais a'i hanfon atom.

Fel arall, os hoffech wybod sut i wneud hynny eich hun, rydym yn cynnig hyfforddiant ar chwilio am lenyddiaeth - cysylltwch â ni i drefnu sesiwn.

 

Cofrestru ar gyfer OpenAthens

 

Mae OpenAthens yn cael ei ddefnyddio i gael mynediad at amrywiaeth o adnoddau electronig. Nawr, gallwch ddefnyddio'ch cyfrinair E-bost GIG Cymru a (Nadex) wrth fewngofnodi trwy OpenAthens. Os nad oes gennych chi e-bost GIG Cymru, yna gallwch gofrestru i agor cyfrif OpenAthens yma.

Darllenwch ein Cyfarwyddiadau OpenAthens am fanylion pellach. Dylai staff Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, staff Gwasanaeth Gwaed Cymru a sefydliadau a gynhelir gyfeirio unrhyw ymholiadau OpenAthens atom.

 

 

Os oes angen help arnoch chi, cysylltwch!

 


Llyfrgell Felindre
Cardiff University. Canolfan Ganser Felindre An icon of a book.
Heol Felindre
Caerdydd
Ffôn: 029 20316291
E-bost: Library.velindre@wales.nhs.uk
@VCCLibrary