Neidio i'r prif gynnwy

Zometa Early breast cancer A1057

A1057           

Taflen wybodaeth ar asid zoledronig (Zometa) mewn Canser y Fron Cynnar

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth ar gyfer cleifion â Chanser y Fron cynnar o'r enw asid zoledronig.  Gelwir hyn fel arfer yn Zometa.  Bydd y daflen yn egluro beth yw hwn, pam y caiff ei roi a sut y caiff ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen.

 

Beth yw Zometa?

Mae Zometa yn gyffur sy'n helpu i gryfhau ac atgyweirio niwed i’r esgyrn.  Nid cyffur cemotherapi mohono.  Mae'n un o grŵp o gyffuriau a elwir yn bisffosffonadau.  Fe'i rhoddir fel arllwysiad trwy ddiferydd.

 

Pam ydw i'n cael Zometa?

Mae eich ymgynghorydd wedi rhagnodi Zometa oherwydd bod treialon ymchwil newydd wedi dangos y gall Asid Zoledronic helpu i atal canser y fron rhag dychwelyd mewn menywod sydd wedi bod drwy’r menopos nad oes ganddynt unrhyw glefyd, h.y. ar ôl llawdriniaeth/radiotherapi a chemotherapi ar gyfer canser y fron cynnar.

 

Sut bydd Zometa yn cael ei roi?

Rhoddir Zometa trwy ddiferydd i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. 

 

 

Ble bydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?

Bydd Zometa yn cael ei roi naill ai yng Nghanolfan Ganser Felindre, clinig Allgymorth Felindre mewn ysbyty lleol neu yn yr uned cemotherapi symudol.

 

 

Pa mor hir fydd fy apwyntiad yn ei gymryd?

Bydd y driniaeth Zometa yn cymryd tua hanner awr. Byddech fel arfer yn cael prawf gwaed 7-10 diwrnod cyn eich Zometa a byddwch yn cael eich asesu gan y staff nyrsio yn yr uned.

 

A allaf ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth.  Mae lle yn gyfyngedig yn y mannau aros a'r ystafell driniaeth felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Pa mor aml y byddaf yn cael triniaeth?

Byddwch yn cael cyfanswm o 6 arllwysiad bob 6 mis. Os ydych chi'n cael cemotherapi, bydd yr arllwysiad cyntaf yn cael ei roi gydag un o'ch cylchoedd triniaeth.  Bydd y driniaeth yn para am gyfanswm o 3 blynedd.

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae'r driniaeth hon fel arfer yn cael ei goddef yn dda ond mae rhai sgil-effeithiau posibl y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.  Gall y meddygon, y nyrsys a’r tîm fferylliaeth roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Symptomau tebyg i ffliw

Gall Zometa achosi symptomau tebyg i ffliw fel twymyn, blinder, gwendid, cysgadrwydd, cur pen, oerfel a dolur yn eich cyhyrau, cymalau ac esgyrn.  Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen unrhyw driniaeth benodol arnoch, a dylai'r symptomau wella ar ôl ychydig ddyddiau.  Fodd bynnag, gall cymryd parasetamol fod yn ddefnyddiol.

 

Cyfog a chwydu, diffyg archwaeth

Mae difrifoldeb hyn yn amrywio o berson i berson ond nid oes gan y rhan fwyaf o bobl broblem gyda chyfog a chwydu.  Os oes gennych y symptomau hyn dywedwch wrth eich meddyg neu’ch

nyrs.  Gall roi meddyginiaeth gwrth-salwch i chi i’w gymryd gartref.

 

Adweithiau ar y croen

Nid yw adwaith ar y croen yn gyffredin iawn.  Fodd bynnag, weithiau gall y croen o amgylch safle'r arllwysiad fynd yn goch a chwyddedig.  Gall rhai pobl ddatblygu brech a chosi.  Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs.

 

Llid yr amrannau

Os byddwch chi'n datblygu llygaid coch, dolurus a choslyd, siaradwch â'ch meddyg.

 

Newidiadau yng ngweithrediad yr arennau

Byddwch yn cael prawf gwaed cyn pob dos.  Pwrpas y prawf hwn yw sicrhau bod gweithrediad eich arennau'n normal. 

 

Sbasmau/gwingiadau yn y cyhyrau

Os oes gennych unrhyw grampiau / sbasmau / gwingiadau anarferol, rhowch wybod i'ch meddyg neu’ch nyrs arbenigol oherwydd gallai fod oherwydd lefelau isel o fwynau penodol yn eich gwaed; gallwn drin hyn gydag atchwanegiadau os oes angen.

 

Sgil-effeithiau anghyffredin

 

Yn achlysurol iawn, gall sgil-effaith anghyffredin ddigwydd gyda Zometa, pan fydd asgwrn yr ên yn torri i lawr.  Fe'i gelwir yn osteonecrosis yr ên a gall fod yn gyflwr difrifol. Gall hyn ddigwydd hefyd ar ôl rhoi'r gorau i driniaeth.

 

Rhai o'r symptomau yw:

 

·       poen, chwydd neu haint yn y deintgig

·       y dannedd yn llacio

·       y deintgig yn iachau’n wael

·       diffyg teimlad neu deimlad o drymder yn yr ên

 

Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau a restrir uchod neu unrhyw broblemau deintyddol eraill, trefnwch adolygiad gyda'ch deintydd cyn gynted â phosibl.

 

 

Rydym yn argymell eich bod yn ymweld â'ch deintydd i sicrhau bod unrhyw waith deintyddol brys yn cael ei gwblhau cyn i chi ddechrau Zometa.  Dylech bob amser ddweud wrth eich deintydd eich bod yn cael triniaeth bisffosffonad.

 

Iechyd deintyddol

Ceisiwch gadw'ch ceg yn lân ac yn iach bob amser a sicrhewch fod eich dannedd gosod yn ffitio'n gywir. Gallwch barhau i weld eich deintydd ar gyfer eich archwiliadau a'ch glanhau arferol. Os oes angen unrhyw waith deintyddol ymwthiol arnoch (Sianel y Gwreiddyn neu Echdyniadau) drwy gydol eich triniaeth, rhaid gwneud hyn 6-8 wythnos cyn dyddiad eich triniaeth neu ar ei ôl. Rhowch wybod i'r Tîm Bisffosffonadau os oes angen unrhyw waith. Sylwch, os byddwch yn cael unrhyw waith deintyddol yn agos at amser eich apwyntiad, ni fydd eich triniaeth yn cael ei rhoi.

 

Argymhellir eich bod yn ymweld â'ch hylenydd deintyddol; dangoswch y daflen hon iddo, gan ei bod yn bwysig bod y deintydd a'r hylenydd yn gwybod eich bod yn cael Triniaeth Zometa.

 

 

A yw'n iawn cymryd meddyginiaethau eraill?

Os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill, rhowch wybod i'ch meddyg, nyrs neu fferyllydd. 

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin a chyffredin iawn: am ragor o wybodaeth am y sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, a geir o fferyllfa Felindre a/neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Am gyngor brys ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, gofynnwch

am y Llinell Gymorth Driniaeth.

 

Manylion Cyswllt Gwasanaeth Bisffosffonatdau Cynorthwyol ar gyfer Ymholiadau Difrys neu Weinyddol:

 

E-bost: VCCAdjuvant.Bisphosphonates@wales.nhs.uk

 

Rhif Ffôn: 029 2061 5888 est 6706

 

 

 

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Rhadffôn Tenovus                  0808 808 1010

llinell gymorth canser

7 diwrnod yr wythnos 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ganser

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Mae'n cael ei hadolygu a'i diweddaru'n flynyddol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Gorffennaf 2018