Neidio i'r prif gynnwy

Weekly 5FU

Taflen wybodaeth am gemotherapi 5-fluorouracil

(5-FU) wythnosol

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw 5-fluorouracil (5-FU) wythnosol. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

Beth yw cemotherapi 5-FU wythnosol?

Triniaeth cemotherapi sy’n cynnwys dau gyffur yw hon. Mae un ohonynt yn gyffur cemotherapi o’r enw 5-fluorouracil. Asid ffolinig yw’r cyffur arall. Nid cyffur cemotherapi mo hwn ond caiff ei roi er mwyn helpu’r 5-FU i weithio’n well.

 

Pam ydw i’n cael 5-FU wythnosol?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

 

 

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi bob wythnos am 24 wythnos. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi am ba hyd y byddwch yn cael eich cemotherapi.

 

 

Sut caiff fy 5-FU wythnosol ei roi?

Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn barhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn yn fanylach gyda chi.

 

Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

Byddwn yn atodi drip i’r nodwydd neu’r llinyn PICC a chaiff y ddau gyffur eu chwistrellu i’r drip. Caiff yr asid ffolinig ei roi yn gyntaf cyn y 5-FU.

 

 

Ble mae hyn i gyd yn digwydd?

Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi ble y byddwch yn cael eich triniaeth. Gallai fod yn un neu ddau le:

 

  • Yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd yng Nghanolfan Ganser Felindre
  • Mewn clinig cemotherapi yn agos at eich cartref.

 

 

 

 

 

Am ba hyd fyddaf yn yr ysbyty?

Bydd pob ymweliad wythnosol yn cymryd rhyw 30 munud. Dylech ganiatáu 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

 

 

A fyddaf yn gweld meddyg ar bob ymweliad wythnosol?

Na, ddim o reidrwydd. Bydd eich meddyg yn esbonio pa mor aml mae angen iddo eich gweld. Rhwng eich ymweliadau â’r meddyg, bydd nyrs cemotherapi’n eich gweld. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn fel y gallwn wirio sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi.

 

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl sy’n gysylltiedig â chemotherapi 5-FU wythnosol?

Nid yw’r math hwn o gemotherapi yn orlethol fel arfer ac nid yw’r rhan fwyaf o gleifion yn cael llawer o sgîl-effeithiau. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Colli gwallt

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd gwallt nifer fach o gleifion yn teneuo rywfaint.

 

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r cemotherapi hwn. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

Dolur i’ch dwylo a’ch traed

Mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn, cochni a chwyddo i’ch dwylo neu’ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, argymhellwn eich bod yn defnyddio eli neu drochdrwyth di-bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn boenus.

 

 

Sgîl-effeithiau eraill a gwybodaeth

Yn bur anaml, mae rhai pobl sy’n cael y cemotherapi hwn yn cael problemau ar y galon fel angina neu grychguriadau ar y galon. Os oes gennych gyflwr sy’n effeithio ar y galon neu’ch bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau cemotherapi. Os byddwch am drafod hyn ymhellach, siaradwch â’ch meddyg.

 

Mae rhai cleifion yn cael llygaid dolurus neu ddyfrllyd. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn eich apwyntiad nesaf yn y clinig.

 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael y driniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

 

 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

      

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych ddwylo neu draed dolurus iawn

 

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.