Neidio i'r prif gynnwy

Vinorelbine

Taflen wybodaeth am gapsiwlau vinorelbine

 

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs triniaeth o’r enw cemotherapi vinorelbine. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am vinorelbine ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

 

Beth yw cemotherapi vinorelbine?

Triniaeth cemotherapi sy’n cael ei rhoi ar ffurf capsiwlau.

 

 

Pam ydw i’n cael cemotherapi vinorelbine?

Mae eich meddyg wedi argymell y cemotherapi hwn gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

 

 

 

 

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Bydd angen i chi gymryd capsiwlau vinorelbine unwaith yr wythnos. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer yr wythnosau o driniaeth y byddwch yn eu cael.

 

Bydd angen i chi gael prawf gwaed bob wythnos. Mae’n bosibl y byddwch yn cael eich capsiwlau o flaen llaw. Mae’n bwysig i chi beidio â chymryd y capsiwlau hyd nes i’ch meddyg neu nyrs ddweud wrthoch chi bod eich canlyniadau gwaed yn foddhaol.

 

Bydd eich meddyg neu nyrs yn esbonio’r trefniadau ar gyfer cymryd eich gwaed a sut y byddwch yn cael gwybod y canlyniadau.

 

 

Sut ddylwn i gymryd y capsiwlau vinorelbine?

Dylid cymryd capsiwlau vinorelbine unwaith yr wythnos ar yr un diwrnod bob wythnos. Mae’n rhaid i chi gymryd eich meddyginiaeth wrthgyfog awr cyn i chi gymryd eich capsiwlau vinorelbine. Dylid cymryd y capsiwlau yn syth ar ôl byrbryd ysgafn a gwydraid o ddŵr. Mae’n rhaid eu llyncu’n gyfan. Peidiwch â’u cnoi neu eu malu.

 

I agor y pecyn diogel i blant:

  • torrwch y swigen ar hyd y llinell ddu doredig
  • pliciwch y ffoil plastig meddal i ffwrdd
  • gwthiwch y capsiwl trwy’r ffoil alwminiwm.

 

Peidiwch â chymryd unrhyw gapsiwlau sydd wedi’u difrodi neu sy’n gollwng oherwydd gallent lidio eich ceg. Dylech eu gosod mewn bag neu gynhwysydd sy'n dal dŵr a'u dychwelyd i'r ysbyty.

 

Mae’n bwysig eich bod chi’n golchi’ch dwylo’n drylwyr ar ôl trafod eich capsiwlau.

 

Sut ddylwn i storio capsiwlau vinorelbine?

Dylech storio eich capsiwlau yn yr oergell yn eu pecyn gwreiddiol. Maen nhw mewn gorchudd diogel i blant ond mae’n bwysig eu cadw i ffwrdd rhag plant.

 

Dylech ddychwelyd unrhyw gapsiwlau nas defnyddiwyd i fferyllfa’r ysbyty neu eich fferyllfa leol er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.

 

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

 

Colli gwallt

Ni ddylai’r cemotherapi hwn achosi i chi golli eich gwallt. Er hynny, mae’n bosibl y bydd gwallt nifer fach o bobl yn teneuo rhywfaint.

 

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7 y daflen hon.

 

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

Effeithiau ar eich nerfau

Yn bur anaml, gall fod effaith ar y nerfau yn eich bysedd a’ch bysedd traed. Bydd hyn yn arwain at deimlo fferdod neu binnau bach. Gall fod effaith i’r nerfau yn eich perfedd hefyd. Gallai hyn arwain at fod yn rhwym. Os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r problemau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig.

 

 

Sgîl-effeithiau eraill

Ni ddylai cleifion sydd ag anoddefiad ffrwctos gymryd capsiwlau vinorelbine oherwydd eu bod yn cynnwys sorbitol.

 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn oherwydd gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Bod gennych ddolur rhydd

 

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.