Neidio i'r prif gynnwy

VIDE

Taflen wybodaeth am gemotherapi VIDE

 

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw VIDE. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am VIDE ar ddiwedd y llyfryn hwn.

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

Beth yw cemotherapi VIDE?

Mae cemotherapi VIDE yn cynnwys pedwar cyffur:

  • Vincristine
  • Ifosfamide
  • Doxorubicin
  • Etoposide

 

Gyda’i gilydd, mae’r cyffuriau hyn yn gyfarwydd fel VIDE, yn fyr.

 

 

 

 

Pam ydw i’n cael cemotherapi VIDE?

Mae eich meddyg wedi argymell y cemotherapi hwn gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

 

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nhriniaeth?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch VIDE bob tair wythnos am hyd at chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

 

 

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn dechrau fy nghemotherapi?

Bydd. Cyn dechrau eich cemotherapi, byddwch yn cael cyfres o brofion gwaed ac ymchwiliadau. Byddwch hefyd yn cael rhywbeth o’r enw fel sgan MUGA er mwyn asesu gweithrediad eich calon. Gofynnwch os hoffech ragor o wybodaeth.

 

 

A fydd angen i mi aros yn yr ysbyty er mwyn cael cemotherapi VIDE?

Bydd. Bydd angen mynd â chi i’r ward cemotherapi am bedwar diwrnod er mwyn cael eich cemotherapi. Mae hon hefyd yn gyfarwydd fel Ward y Dywysoges Margaret.

 

 

Sut caiff fy nhriniaeth ei rhoi?

Er mwyn cael y cemotherapi hwn, bydd angen i ni osod tiwb mân yn un o’r gwythïennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Llinyn PICC yw’r enw ar y tiwb hwn. Caiff eich llinyn PICC ei osod ryw wythnos cyn dechrau eich cemotherapi fel arfer. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg yn esbonio hyn yn fanylach.

 

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

Caiff y cemotherapi ei roi drwy ddrip wedi’i gysylltu â’ch llinyn PICC. Caiff eich drip ei atodi i stand cludadwy gydag olwynion felly byddwch yn gallu symud o amgylch ardal y ward. Os bydd angen cymorth arnoch, bydd nyrsys wrth law i’ch helpu chi.

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Colli Gwallt
Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda'r cemotherapi hwn. Mae hyn dros dro yn unig. Bydd eich gwallt yn tyfu'n ôl pan fydd eich triniaeth wedi gorffen. Gallwn drefnu wig os hoffech un, gofynnwch i'ch nyrs am fwy o wybodaeth. Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

 

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

Effeithiau ar eich nerfau

Gall vincristine effeithio ar y nerfau yn eich bysedd a’ch bysedd traed drwy roi’r teimlad o fferdod neu binnau bach i chi. Mae’n bosibl y bydd yn effeithio ar y nerfau i’ch perfedd hefyd. Gallai hyn arwain at fod yn rhwym. Mae’n bosibl y bydd gan rai cleifion boen yn y safn hefyd neu ben tost os oes effaith ar y nerfau i’r pen. Os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r problemau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn eich ymweliad nesaf â’r clinig.

 

Systitis (llid y bledren)

Gall ifosfamide lidio eich pledren weithiau ac achosi systitis. Mae hyn yn golygu y byddwch o bosibl yn sylwi ar losgi a phoen wrth basio dŵr ond gallai fod angen i chi basio dŵr yn amlach. Nid yw hyn yn gyffredin gan y byddwn yn rhoi cyffur o’r enw mesna i chi a ddylai atal hyn rhag digwydd. Os byddwch yn cael systitis, dywedwch wrth eich nyrs neu’ch meddyg.

 

Effeithiau ar eich calon

Gall doxorubicin achosi problemau ar y galon. Dywedwch wrth eich meddyg os oes gennych unrhyw broblemau ar y galon neu os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau at eich calon. Cyn dechrau eich triniaeth cemotherapi, caiff sgan o’r enw sgan MUGA ei gynnal fel arfer er mwyn gwirio am unrhyw broblemau ar y galon. Mae’n bosibl y caiff hyn ei ailadrodd yn ddiweddarach yn eich triniaeth.

 

 

 

Sgîl-effiethiau eraill

Bydd doxorubicin yn afliwio eich wrin yn goch yn gwbl ddiniwed am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi. Os bydd hyn yn para’n fwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

 

 

Mae’n bosibl y bydd nifer fach o gleifion sy’n cael ifosfamide yn teimlo’n gysglyd, yn drysu ac yn gweld rhithiau. Mae’r symptomau hyn yn anghyffredin iawn ac maent yn diflannu o fewn 48 awr o roi’r gorau i’r driniaeth fel arfer. Os bydd gennych unrhyw un o’r symptomau hyn neu os bydd eich teulu’n sylwi ar unrhyw newidiadau o ran eich ymddygiad, dywedwch wrth eich nyrs neu’ch meddyg.

 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Bod gennych ddolur rhydd
  • Bod gennych wrin coch am fwy na 24 awr

 

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Adolygwyd Awst 2013