Neidio i'r prif gynnwy

Trwyth parhaus 5FU a mitomycin

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw 5-fluorouracil a mitomycin arllwyso parhaus. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn ar ddiwedd y llyfryn hwn.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi 5-fluorouracil a mitomycin arllwyso parhaus?

Triniaeth cemotherapi sy’n cynnwys dau gyffur yw hon:

  • 5-fluorouracil (sy’n hysbys fel 5-FU yn fyr) sy’n cael ei roi’n barhaus drwy bwmp cludadwy bach 
  • Mitomycin sy’n cael ei roi fel pigiad 

Pam ydw i’n cael y cemotherapi hwn?

Mae’ch meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff y 5-FU ei roi’n barhaus am 12 wythnos fel arfer. Weithiau mae modd ei roi am gyfnod hwy. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi am ba hyd y bydd angen i chi gael eich cemotherapi.

Caiff y mitomycin ei roi unwaith bob chwe wythnos.

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Er mwyn cael y cemotherapi hwn, bydd angen gosod tiwb mân i mewn i un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Llinyn PICC yw’r enw ar y tiwb hwn. Caiff eich llinyn PICC ei osod ryw wythnos cyn dechrau eich cemotherapi fel arfer. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg yn esbonio hyn yn fanylach i chi.

Mae gennym daflen hefyd sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi. 

Caiff y 5-FU ei roi mewn bag sy’n ffitio mewn pwmp cludadwy bach.

  • Caiff y pwmp hwn ei atodi i’ch llinyn PICC 
  • Mae’r pwmp yn ffitio mewn bag a gallwch ei wisgo am eich canol neu wedi’i binio i’ch dillad 
  • Caiff y pwmp ei osod i wacáu dros gyfnod o wythnos 
  • Bydd angen i chi ddychwelyd i’r ysbyty unwaith bob wythnos er mwyn i ni osod pwmp newydd. 

Bob chwe wythnos, bydd eich nyrs cemotherapi’n chwistrellu’r mitomycin i’ch llinyn PICC.

Sut ydw i’n gofalu am y pwmp cludadwy? 

Byddwn yn esbonio popeth am y pwmp, sut mae’n gweithio a sut i ofalu amdano. Byddwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi. 

Am ba hyd fyddaf yn yr ysbyty?

Bydd pob apwyntiad i newid y pwmp yn cymryd rhyw 30 munud. Bydd y pigiadau mitomycin yn cymryd hyd at awr. Dylech ganiatáu 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

A fyddaf yn gweld meddyg yn ystod pob ymweliad wythnosol? 

Na, ddim o reidrwydd. Bydd eich meddyg yn esbonio pa mor aml y bydd angen iddo/iddi eich gweld. Rhwng eich ymweliadau â’r meddyg, byddwch yn gweld nyrs cemotherapi. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn i ni weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl? 

Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn goddef y math hwn o gemotherapi heb anhawster ac nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn dioddef llawer o sgîl-effeithiau. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi unrhyw gyngor neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd eich gwallt yn teneuo rywfaint.

Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am ymdopi â cholli eich gwallt. Gofynnwch os hoffech gopi.

Salwch

Yn bur anaml y bydd y 5-FU yn achosi cyfog. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog i chi cyn pob pigiad mitomycin. Byddwn hefyd yn rhoi cyflenwad o dabledi gwrthgyfog i chi eu cymryd am ychydig ddyddiau ar ôl pob un o’ch pigiadau mitomycin.

Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r cemotherapi hwn. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Dolur i’ch dwylo a’ch traed

Mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn, cochni a chwyddo i’ch dwylo neu’ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, argymhellwn ddefnyddio eli neu drochdrwyth di-bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn boenus.

Sgîl-effeithiau eraill a gwybodaeth 

Bydd llygaid rhai cleifion yn ddolurus neu’n ddyfrllyd. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn eich apwyntiad nesaf yn y clinig.

Bydd mitomycin yn afliwio eich wrin yn las yn gwbl ddiniwed am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi. Os bydd hyn yn para’n fwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Sgîl-effeithiau anghyffredin

Gall nifer fach o bobl gael problemau ar eu hysgyfaint ar ôl triniaeth mitomycin. Os byddwch yn datblygu peswch sych neu’n sylwi eich bod yn fyr o wynt, dywedwch wrthym yn eich ymweliad nesaf â’r ysbyty.

Yn bur anaml, gall mitomycin niweidio eich celloedd gwaed a’ch arennau. Rydym yn cyfrifo dos y mitomycin yn ofalus er mwyn lleihau’r risg hon. Byddwch hefyd yn cael profion gwaed rheolaidd fel ein bod yn gallu gwirio sut mae’r cemotherapi’n effeithio ar system eich gwaed.

Yn bur aml, bydd rhai pobl sy’n cael y cemotherapi hwn yn cael problemau ar y galon fel angina neu grychguriadau ar y galon. Os oes gennych gyflwr sy’n effeithio ar eich calon neu’ch bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau cemotherapi. Os byddwch am drafod hyn ymhellach, siaradwch â’ch meddyg.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr 
  • Bod gennych ddwylo neu draed dolurus iawn
  • Bod gennych wrin glas am fwy na 24 awr

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.