Neidio i'r prif gynnwy

Taflen wybodaeth am R-CHOP

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs triniaeth o’r enw R-CHOP.  Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am R-CHOP ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

Beth yw triniaeth R-CHOP?

Mae hon yn driniaeth sy’n cynnwys cyfuniad o gyffuriau sy’n gweithio mewn ffyrdd gwahanol i drin eich canser.

 

  1. Rituximab (sydd fel arfer yn cael ei alw’n Mabthera)

Mae hwn yn wrthgorff artiffisial sy’n glynu ei hun wrth gelloedd canser lymffoma. Nid cemotherapi ydyw. Mae Mabthera yn helpu eich system imiwnedd i ladd y celloedd canser.

 

Dyma ran R y driniaeth.

 

  1. Triniaeth cemotherapi

Mae rhan hon y driniaeth yn cynnwys pedwar cyffur. Mae tri chyffur cemotherapi sy’n cael eu rhoi trwy ddrip:

  • Cyclophosphamide
  • Doxorubicin
  • Vincrisitine

 

Mae’r cyffur olaf yn dabled steroid o’r enw prednisolone.

 

Dyma ran CHOP y driniaeth.

 

 

Pam ydw i’n cael triniaeth R-CHOP?

Mae eich meddyg wedi argymell y driniaeth hon gan fod y cyfuniad hwn yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

 

Pa mor aml fydda i’n derbyn fy nhriniaeth?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd.  Mae cylch R-CHOP yn para tair wythnos.  Mae’n arferol cael rhwng chwech ac wyth cylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

 

Byddwch yn cael y Mabthera a’r cyffuriau cemotherapi unwaith pob tair wythnos. Mae’r tabledi prednisolone yn cael eu rhoi am bum niwrnod, gan ddechrau ar yr un diwrnod â’r cyffuriau eraill.

 

Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?

Bydd eich triniaeth fel arfer ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad yn y clinig. 

 

Bydd y driniaeth Mabthera yn cymryd oddeutu 4 awr ar gyfer y driniaeth gyntaf, a 21/2 awr ar gyfer y triniaethau dilynol.

Bydd y driniaeth cemotherapi yn cymryd oddeutu 30 munud.

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle fel arfer ar gyfer mwy nag un unigolyn. Nid yw’r mannau triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc. 

 

 

Sut mae Mabthera yn cael ei roi?

Cyn i chi ddechrau cael Mabthera, byddwch yn cael parasetamol a chyffuriau o’r enw piriton (chlorpheramine) a hydrocortisone. Rhoddir y rhain i atal y sgîl-effeithiau a all ddigwydd yn ystod y driniaeth. 

 

Rhoddir Mabthera trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu fraich. Fel arall, efallai yr awgrymwn fod tiwb main o’r enw PICC yn cael ei gosod yn un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall hwn aros yn ei lle trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.

 

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

Beth yw sgîl-effeithiau triniaeth Mabthera?

Adweithiau yn ystod y driniaeth

Mae’r rhan fwyaf o sgîl-effeithiau sy’n gallu digwydd gyda Mabthera yn digwydd tra bod y cyffur yn trwytho. Dyma pam y rhoddir y driniaeth gyntaf yn arafach. Byddwn yn eich monitro chi’n agos yn ystod y driniaeth. Bydd hyn yn cynnwys gwirio eich tymheredd a’ch pwysau gwaed yn rheolaidd.

 

Os byddwch yn dioddef un o’r canlynol yn ystod y driniaeth, dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith:

 

  • Teimlo’n boeth ac â thwymyn
  • Fferdod neu gryndod
  • Pen tost
  • Pendro neu lesgedd
  • Problemau anadlu
  • Croen yn cosi
  • Gwddf yn goglais

 

Os byddwch yn dioddef unrhyw un o’r rhain, byddwn yn arafu neu’n stopio’r Mabthera hyd nes i chi deimlo’n well. Gall y driniaeth ddechrau eto wedyn, heb unrhyw broblemau pellach fel arfer.

 

 

Sgîl-effeithiau yn dilyn triniaeth

Gallwch ddioddef blinder, pen tost neu bendro. Dywedwch wrth eich meddyg adeg eich apwyntiad nesaf yn y clinig is yw’r rhain yn achosi problem i chi. Ni ddylech yrru ar ddiwrnod y driniaeth na tra eich bod chi’n cael eich effeithio gan y sgîl-effeithiau hyn.

 

Sut bydd fy nghemotherapi’n cael ei roi?

Cyn eich cemotherapi, byddwn yn rhoi’r tabledi prednisolone i chi a rhai tabledi gwrthgyfog. Mae 20 tabled prednisolone bach.

 

Bydd y cemotherapi’n cael ei roi trwy ddrip.

 

 

Beth yw sgîl-effeithiau posibl cemotherapi CHOP?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl y gallech eu dioddef gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Colli gwallt

Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Dros dro fydd hyn. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl ar ôl i chi orffen y driniaeth. Gallwn drefnu wig os hoffech un. Gofynnwch i’ch nyrs am fwy o wybodaeth. 

 

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych ynglŷn ag ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen.

 

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn.  Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi o fewn 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

Effeithiau ar eich nerfau

Gall vincristine effeithio ar y nerfau yn eich bysedd a bysedd eich traed, sy’n achosi diffyg teimlad neu binnau bach. Gall effeithio ar y nerfau i’ch perfedd hefyd. Gall hyn arwain at rwymedd. Gall rhai cleifion ddioddef poen yn eu safn neu ben tost hefyd os effeithir ar y nerfau i’r pen. Os rydych yn datblygu unrhyw un o’r problemau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig.

 

 

 

Sgîl-effeithiau eraill

 

Gall doxorubicin achosi problemau gyda’r galon yn achlysurol. Os oes gennych gyflwr ar y galon neu eich bod chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth at y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau cemotherapi. 

 

Bydd doxorubicin yn afliwio eich wrin yn goch. Mae hyn yn gwbl ddiniwed. Os yw hyn yn para am fwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl. 

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni. 

 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Bod gennych ddolur rhydd
  • Bod gennych wrin coch am fwy na 24 awr

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.