Neidio i'r prif gynnwy

Subcutaneous Herceptin 786

Taflen wybodaeth ynghylch Trastuzumab isgroenol (Herceptin®) i gleifion canser y fron

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i gleifion sy'n cael triniaeth gyda'r cyffur Trastuzumab.  Mae Trastuzumab hefyd yn cael ei adnabod wrth yr enw Herceptin®.  Bydd y daflen yn esbonio:

 

  • beth yw Trastuzumab (Herceptin®)
  • pryd a sut mae’n cael ei roi
  • sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.

 

Beth yw Trastuzumab (Herceptin®) a pham rydw i'n ei gael?

Roedd eich canser chi’n dangos lefel uchel o sylwedd o’r enw HER2 (Derbynnydd Twf Epidermol Dynol - ffactor 2).  Mae HER2 i'w gael y tu allan i rai celloedd canser ac mae'n ysgogi twf y celloedd hyn.

 

Mae Trastuzumab (Herceptin®) yn un o grŵp o gyffuriau canser sy’n cael eu galw’n wrthgyrff monoclonaidd|. Weithiau mae gwrthgyrff monoclonaidd yn cael eu galw’n therapïau wedi'u targedu am eu bod nhw’n gweithio trwy 'dargedu' proteinau penodol (derbynyddion) ar wyneb celloedd.  Mae Trastuzumab (Herceptin®) yn cloi ar y protein HER2.  Mae hyn yn blocio'r derbynnydd ac yn atal y celloedd rhag ymrannu a thyfu.

 

 

 

 

Pa mor aml fydda i’n cael Trastuzumab (Herceptin®)?

Er mwyn i driniaeth Trastuzumab (Herceptin®) fod yn fwyaf effeithiol, mae’n cael ei rhoi bob tair wythnos.  Yn achos cleifion sydd â chanser y fron cynnar mae'n arferol cael triniaeth Trastuzumab (Herceptin®) bob tair wythnos am gyfanswm o 18 triniaeth dros 12 mis.  Yn achos cleifion Canser y Fron Metatastig bydd eich meddyg yn trafod union nifer y triniaethau y byddwch chi’n eu cael gyda chi; ond byddwch chi hefyd yn cael eich triniaeth bob tair wythnos.

 

Sut mae Trastuzumab (Herceptin®) yn cael ei roi?

Mae Trastuzumab (Herceptin®) ar gael mewn dau fath i'w roi:

  • Trwyth i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu yn eich braich
  • Pigiad o dan y croen i'r glun.

 

Mae Trastuzumab (Herceptin®) trwy bigiad isgroenol yn bigiad o dan y croen ar eich clun.  Bydd rhoi Trastuzumab (Herceptin®) drwy bigiad isgroenol yn cymryd hyd at bum munud.  Bydd safle'r pigiad yn newid o'r chwith i'r dde bob cylch triniaeth.  Er mwyn i'r nyrs roi'r pigiad yn y goes, mae’n ddoeth gwisgo dillad llac cyffyrddus, er enghraifft sgert neu drowsus, er mwyn i’r nyrs gyrraedd eich clun i roi’r pigiad ar ddiwrnod eich triniaeth.

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Bydd eich meddyg yn rhoi gwybod ichi pa mor aml y bydd angen ichi gael eich gweld yn y clinig cleifion allanol.  Yn ystod pob ymweliad bydd y nyrs sy'n rhoi eich Trastuzumab (Herceptin®) yn gofyn sut rydych chi'n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych gyda thriniaeth(au) neu unrhyw faterion eraill.

 

 

 

Ble fydda i'n cael fy nhriniaeth?

Bydd y driniaeth gyntaf yn cael ei rhoi yn un o'r mannau triniaeth achosion dydd yn Ysbyty Felindre neu'r Ysbyty Cyffredinol Dosbarth yn nes at eich cartref.

 

Ar ôl y driniaeth gyntaf bydd eich Trastuzumab (Herceptin®) yn cael ei roi gan nyrsys sydd wedi’u hyfforddi gan Ganolfan ganser Felindre a hynny yn Ysbyty Felindre neu un o'r Clinigau Allgymorth.

 

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth ichi

 

Rhagor o wybodaeth

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Mae'n bwysig nad ydych chi’n beichiogi tra byddwch chi'n cael triniaeth Trastuzumab (Herceptin®).

 

 

Pa mor hir fydd fy apwyntiad yn ei gymryd?

Bydd gofyn ichi dreulio o leiaf ddwy awr a hanner yn yr ysbyty ar gyfer eich cylch cyntaf ac o leiaf 30 munud ar gyfer eich ail gylch o driniaeth Trastuzumab (Herceptin®).  Y rheswm am y cyfnod arsylwi hwn yw sicrhau eich bod yn goddef y driniaeth heb unrhyw sgil-effeithiau cychwynnol.

 

 

Sgil-effeithiau yn ystod y driniaeth

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn goddef triniaeth Trastuzumab (Herceptin®) yn dda iawn, gydag ychydig iawn o sgil-effeithiau.  Er hynny, fel gyda phob cyffur, mae nifer o sgil-effeithiau hysbys a all ddigwydd.  Manylir ar rai o’r rhain isod, a gall y meddygon, y nyrsys a thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. 

 

Mae'r rhan fwyaf o sgil-effeithiau a all ddigwydd gyda Trastuzumab (Herceptin®) yn digwydd ar yr adeg y mae’r cyffur yn cael ei roi.  Bydd nyrs yn eich monitro'n agos yn ystod y driniaeth.

 

Os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r canlynol yn ystod y driniaeth neu'n union ar ôl y driniaeth, dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith:

 

  • Teimlo'n boeth ac yn llawn twymyn
  • Teimlo’n oer neu’n crynu
  • Pen tost / Cur pen
  • Pendro neu lewygu
  • Problemau anadlu
  • Brech
  • Teimlo'n gyfoglyd neu chwydu

 

Mae sgil-effeithiau cyffredin eraill y gallech eu profi yn ystod y dyddiau cyntaf ar ôl y driniaeth yn cynnwys:

 

  • Dolur rhydd
  • Gwendid
  • Brech ar y croen
  • Poen yn yr abdomen
  • Poen yn y cymalau
  • Poen yn y cyhyrau

 

Fel arfer dim ond ychydig ddyddiau y bydd y sgil-effeithiau hyn yn para.  Mae cymryd poenladdwr ysgafn, er enghraifft beth bynnag y byddwch chi fel arfer yn ei gymryd ar gyfer cur pen, yn gallu helpu.  Os byddwch chi'n teimlo'n sâl iawn neu eisiau rhagor o gyngor, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre – Galwr Cemotherapi.

 

Problemau ar y galon

Gall triniaeth Trastuzumab (Herceptin®) achosi rhai problemau gyda'r galon.  Mae hyn yn brin ac mae'r risg o ddatblygu problemau calon difrifol yn llai nag 1%.  Bydd unrhyw broblemau sy’n cael eu hachosi gan Trastuzumab (Herceptin®) fel arfer yn gwella pan fydd y cylchoedd triniaeth gorffenedig wedi dod i ben.  Bydd eich meddyg yn trafod hyn gyda chi ac yn trefnu i weithrediad eich calon gael ei brofi cyn ichi ddechrau Trastuzumab (Herceptin®).  Bydd gweithrediad eich calon yn cael ei fonitro fel arfer bob pedwar mis ar gyfer blwyddyn gyntaf y driniaeth.  Byddwn ni hefyd yn gwirio’ch pwysedd gwaed ac yn monitro’ch pwysau yn rheolaidd.

 

Os oes gennych chi gyflwr ar y galon yn barod neu os ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer y galon, dywedwch wrth eich meddyg yn Felindre cyn ichi ddechrau triniaeth gyda Trastuzumab (Herceptin®).  Os byddwch chi’n datblygu problemau gyda'r galon tra byddwch chi ar Trastuzumab (Herceptin®) mae modd eu trin nhw â thabledi.  Mae'n bwysig iawn na ddylech chi roi'r gorau i gymryd unrhyw dabledi sydd wedi’u rhoi ichi ar gyfer problemau'r galon heb drafod hyn gyda'ch meddyg neu’ch nyrs arbenigol yn Felindre.

 

Os byddwch chi unrhyw bryd yn ystod eich triniaeth yn mynd yn fyr eich gwynt, yn datblygu peswch, yn cadw hylif (chwyddo) yn eich breichiau neu'ch coesau, neu’n profi crychguriadau'r galon (cryndod y galon neu guriad calon afreolaidd) cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre – Galwr Cemotherapi ar unwaith.

 

Ydy hi'n iawn cymryd meddyginiaeth arall gyda Trastuzumab (Herceptin®)?

Gall Trastuzumab (Herceptin®) aros yn eich corff am hyd at chwe mis ar ôl ichi orffen y driniaeth.  Yn ystod y cyfnod hwn dylech chi ddweud wrth eich meddyg a'ch fferyllydd eich bod wedi cael Trastuzumab (Herceptin®) cyn dechrau unrhyw feddyginiaethau newydd.

 

 

 phwy y dylwn i gysylltu os bydda i’n sâl yn ystod fy nhriniaeth Trastuzumab (Herceptin®)?

 

Os ydych chi'n sâl gartref ac angen sylw ar unwaith unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos ffoniwch Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888 a gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth

 

 

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol Canolfan Ganser Felindre yn unol â’r protocol a gymeradwywyd gan y Ganolfan. Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r daflen wedi'i chymeradwyo gan grŵp o feddygon, nyrsys, fferyllwyr a chynrychiolwyr cleifion Canolfan Ganser Felindre. Bydd yn cael ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr cyffuriau i gleifion ar gael gan Fferyllfa Felindre, eich canolfan driniaeth neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk Mae'r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Dydyn ni ddim yn dosbarthu’r rhain fel rhan o’r drefn am eu bod yn gallu bod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech chi gael copi

 

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • â dolur rhydd

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

 

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

 

 

 

 

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.