Neidio i'r prif gynnwy

scalp cooling

Gwybodaeth am oeri croen y pen

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am oeri croen y pen. Caiff oeri croen y pen ei ddefnyddio i leihau colli gwallt o’r pen sy’n gallu digwydd gyda rhai cyffuriau cemotherapi. Bydd y daflen yn esbonio’n fyr pam mae cemotherapi’n achosi i chi golli eich gwallt. Bydd yn esbonio ystyr oeri croen y pen, sut mae’n gweithio, faint o amser mae’n ei gymryd a sgîl-effeithiau neu broblemau posibl sy’n gysylltiedig ag oeri croen y pen. Mae rhifau ffôn a gwefannau defnyddiol ar ddiwedd y daflen os hoffech ragor o wybodaeth.

 

 

Pam mae cemotherapi’n achosi i chi golli gwallt?

Mae triniaeth cemotherapi’n gweithio drwy ladd celloedd yn y corff sy’n tyfu. Mae celloedd canser yn ymrannu’n gyson a dyna pam ein bod yn defnyddio cemotherapi fel triniaeth ar gyfer canser. Mae eich ffoliglau gwallt hefyd yn cynnwys celloedd sy’n prysur dyfu a dyna pam y gall rhai triniaethau cemotherapi arwain at golli eich gwallt.

 

Gall rhai gweld fod colli gwallt sy’n gysylltiedig â thriniaethau cemotherapi fod yn sgîl-effaith anodd iawn. Caiff oeri croen y pen ei ddefnyddio i leihau neu atal colli gwallt wedi’i achosi gan rai mathau o gyffuriau. Yn anffodus, nid yw’n gweithio ar gyfer pob math o gyffuriau cemotherapi neu bob math o ganser. Gall eich meddyg neu’ch nyrs drafod hyn ymhellach gyda chi.

Sut mae oeri croen y pen yn gweithio?

Mae oeri croen y pen yn gostwng tymheredd croen y pen. Mae hyn yn gwneud y pibellau gwaed yn llai fel bod llai o waed yn llifo drwyddynt. Mae hyn yn golygu bod llai o gyffuriau’n cyrraedd gwreiddiau’r gwallt. O ganlyniad, nid yw’r  gwallt yn dod i gysylltiad llawn ag effaith y cyffuriau cemotherapi.

 

Mae oeri croen y pen ond yn amddiffyn y gwallt ar eich pen. Mae’n bosibl y byddwch yn colli blew ar eich corff o hyd.

 

 

Sut mae oeri croen y pen?

Mae oeri croen y pen yn cynnwys capan tynn sy’n cael ei lenwi gyda gel sydd wedi’i oeri.

 

Er mwyn i oeri croen y pen weithio, mae angen i groen eich pen fod yn oer cyn eich triniaeth cemotherapi, yn ystod eich triniaeth cemotherapi ac ar ei hôl. Mae hyn yn golygu y bydd eich apwyntiadau ar gyfer pob triniaeth yn hwy.    

 

Bydd angen gosod y capan cyntaf 15 munud cyn dechrau eich triniaeth cemotherapi. Byddwch yn parhau i’w wisgo am 15 munud. Fel arfer bydd angen dau gapan arall yn ddiweddarach, a byddwch yn gwisgo pob un am 45 munud. Er mwyn i oeri croen y pen yn llawn ddigwydd, mae angen gwisgo’r capanau llawn gel am bron i ddwy awr. Gall yr amserau hyn amrywio ychydig gyda mathau gwahanol o gemotherapi. Gall eich nyrs esbonio hyn yn fanylach.

 

 

A oes unrhyw sgîl-effeithiau sy’n gysylltiedig ag oeri croen y pen?

Mae sgîl-effeithiau sy’n deillio o oeri croen y pen yn anghyffredin iawn. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn cael pen tost, penysgafnder a chyfog. 

 

Er bod hyn yn anghyffredin iawn, dywedir gan fod oeri croen y pen yn atal cemotherapi rhag cyrraedd pob un o’r pibellau gwaed i groen y pen, y gallai fod risg o ganser eilaidd yng nghroen y pen. Mae’n bwysig drafod unrhyw bryderon neu ofidiau am hyn gyda meddyg eich ysbyty.

 

 

A yw oeri croen y pen yn anghyfforddus?

Gallai fod yn drwm i chi wisgo’r capan neu gallai fod yn anghyfforddus. Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n oer wrth i ni oeri croen y pen felly gallai fod angen i chi wisgo siwmper. Gofynnwch i’r nyrs os hoffech flanced. Bydd diodydd poeth hefyd yn helpu i chi deimlo’n gynhesach.

 

Os bydd oeri croen y pen yn rhy anghyfforddus, gallwch roi’r gorau iddi ar unwaith. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi roi cynnig arni cyn dechrau eich cemotherapi, fel y byddwch yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

 

 

Pa mor effeithiol yw oeri croen y pen?

Gall oeri croen y pen fod yn effeithiol iawn o ran lleihau neu  atal colli gwallt. Fodd bynnag, mae llawer o bobl sy’n cael triniaeth oeri croen y pen yn sylwi bod eu gwallt yn teneuo rywfaint neu eu bod yn colli eu gwallt o hyd. Yn anffodus, ni fyddwch yn gwybod p’un a fydd yn gweithio i chi hyd nes y byddwch yn rhoi cynnig arni.

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am oeri croen y pen, cysylltwch ag un o’r canlynol:

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                              0808 808 1010

www.tenovus.com

 

Macmillan                                        0808 808 0000

www.macmillan.org.uk

 

Cancer Research UK

www.cancerhelp.org.uk

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.