Neidio i'r prif gynnwy

Sacituzumab Govitecan (Trodelvy®)

Taflen wybodaeth ar Sacituzumab Govitecan (Trodelvy®)

                      

 

 

Mae'r daflen hon yn darparu gwybodaeth i gleifion sy'n cael triniaeth â Sacituzumab Govitecan (a elwir hefyd yn Trodelvy ®). Bydd y daflen yn egluro beth yw Trodelvy ® a phryd a sut y caiff ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am Trodelvy ® ar ddiwedd y daflen.

Dylid darllen y daflen hon ochr yn ochr â'r daflen cemotherapi gyffredinol.  Os nad oes un gennych, gofynnwch.

 

 

Beth yw Trodelvy ® a sut mae'n gweithio?

Mae Trodelvy ® wedi'i wneud o 2 gyffur gwahanol wedi'u cysylltu â'i gilydd

 

  1. Cyffur gwrthgorff monoclonaidd: Mae hyn yn cysylltu â derbynyddion Trop -2 sydd i'w cael y tu allan i rai celloedd canser.
  2. Cyffur cemotherapi: Mae hyn yn atal pob cell, gan gynnwys celloedd canser, rhag tyfu a rhannu.

 

Mae'r cyffur gwrthgorff monoclonaidd yn glynu wrth y celloedd canser ac yna'n rhyddhau'r cyffur cemotherapi yn uniongyrchol i'r gell.

 

 

 

Pa mor aml y byddaf yn derbyn Trodelvy ®?

Er mwyn i'r driniaeth hon gael yr effaith fwyaf, fe'i rhoddir ar gyfnodau amser penodol. Mae'n arferol cael Trodelvy ® unwaith yr wythnos am bythefnos ac yna 1 wythnos i ffwrdd. Bydd union nifer y triniaethau y byddwch yn eu derbyn yn cael ei drafod gyda chi.

 

Pa mor aml y byddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa mor aml y bydd angen i chi gael eich adolygu gan eich tîm arbenigol. Bydd hyn naill ai yn y clinig cleifion allanol neu adolygiad dros y ffôn. Bydd angen prawf gwaed arnoch cyn pob triniaeth.  Ym mhob ymweliad neu adolygiad, byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.

 

Sut mae Trodelvy yn cael ei roi?

Rhoddir Trodelvy drwy ddiferydd i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fodd bynnag, weithiau, os yw'n anodd dod o hyd i'ch gwythiennau, efallai yr awgrymir gosod tiwb mân o'r enw PICC i mewn i wythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd hwn yn parhau yn ei le drwy gydol eich triniaeth.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi, os oes angen. Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC.  Rhowch wybod i'ch meddyg neu'ch nyrs os ydych wedi cael problemau blaenorol gyda dod o hyd i wythïen.

 

Ble bydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?

Bydd eich triniaeth yn digwydd mewn un o'r ardaloedd triniaeth achosion dydd yn Felindre.

 

 

Pa mor hir fydd fy apwyntiad yn ei gymryd?

Rhoddir eich Trodelvy ® cyntaf yn arafach i sicrhau nad ydych yn cael unrhyw adwaith i'r driniaeth.  Dylech ganiatáu tua 5 - 6 awr ar gyfer eich 2 driniaeth gyntaf. Os na chawsoch unrhyw broblemau yn ystod y 2 driniaeth gyntaf, bydd y triniaethau Trodelvy ® nesaf yn cael eu rhoi ychydig yn gyflymach. Bydd yr apwyntiadau yn cymryd tua 4-5 awr.

 

 

A allaf ddod â pherthynas gyda mi?

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle yn gyfyngedig, felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd. Rydym wedi cynnwys manylion y sgil-effeithiau mwyaf cyffredin. Mae'r rhan fwyaf o sgil-effeithiau yn fyrhoedlog a gellir eu trin yn hawdd, ond weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn, sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Adweithiau yn ystod y driniaeth

Gall rhai cleifion brofi adwaith ar yr adeg y rhoddir Trodelvy ®. Dyna pam y rhoddir y driniaeth gyntaf yn arafach.  Bydd nyrs yn eich monitro'n agos yn ystod y driniaeth ac am 30 munud ar ôl iddi ddod i ben.

 

Os byddwch chi'n profi unrhyw un o'r canlynol yn ystod y driniaeth, dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith:

 

  • Teimlo'n boeth ac â thwymyn
  • Teimlo’n oer neu’n crynu
  • Pen tost
  • Pendro neu lewygu
  • Problemau anadlu
  • Brech neu gosi
  • Teimlo'n sâl neu chwydu
  • Wyneb/ceg yn chwyddo (mae hyn yn anghyffredin)
  • Poen yn y cefn, yr abdomen neu'r frest

 

Os bydd unrhyw un o'r rhain yn digwydd, byddwn yn arafu neu'n atal y Trodelvy® nes y byddwch yn teimlo'n well. Os oes angen, byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi i helpu gyda'r symptomau.

 

Weithiau gall cleifion brofi adwaith gartref yn ystod y 24 awr gyntaf ar ôl y driniaeth.  Os byddwch yn datblygu brech goch sy’n cosi neu os ydych ychydig yn fyr o wynt, mae angen i chi gysylltu â’r llinell gymorth driniaeth ar unwaith.  Oherwydd newydd-deb y driniaeth hon, nid oes gennym yr wybodaeth gan y cwmni cyffuriau ynghylch pa mor aml y mae hyn yn digwydd.  Byddwn yn anfon adre â thabledi gwrth-histamin i'w cymryd os bydd hyn yn digwydd. Os byddwch chi'n datblygu adwaith alergaidd difrifol fel anhawster anadlu, chwyddo yn eich tafod neu’ch gwefusau, rhaid i chi ofyn am sylw meddygol brys.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis; gall hyn beryglu bywyd.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Teimlo'n sâl

Gallwch fod yn sâl yn dilyn triniaeth gyda Trodelvy ®; byddwn yn rhoi meddyginiaeth gwrth-salwch i chi cyn eich triniaeth a rhywfaint i fynd adref â chi. Dylai hyn eich atal rhag bod yn sâl. Os ydych yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr neu os ydych yn teimlo mor sâl fel nad ydych yn gallu bwyta nac yfed, ffoniwch y llinell gymorth driniaeth.

Byddwch hefyd yn cael tabled gwrth-salwch i'w chymryd tuag 1 awr cyn amser eich triniaeth.

 

Dolur rhydd

Gall dolur rhydd ddigwydd gyda Trodelvy ®. Byddwn yn rhoi rhywfaint o feddyginiaeth gwrth-ddolur rhydd i chi fynd adref â chi. Ar ôl y pwl cyntaf o ddolur rhydd, dylech ddechrau cymryd y rhain, gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y bocs. Mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o ddŵr a hylifau hallt os oes gennych ddolur rhydd.  Mae'r rhain yn cynnwys dŵr soda, dŵr carbonedig a chawliau.

 

Os oes gennych dymheredd uwch, os byddwch yn cael pyliau o grynu, yn dioddef o grampiau yn y stumog neu os bydd y dolur rhydd yn parhau am fwy na 12 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Blinder a lludded

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

Colli gwallt

Efallai y byddwch chi'n colli'ch gwallt gyda'r driniaeth hon.  Mae hyn dros dro, a bydd eich gwallt yn tyfu'n ôl pan fyddwch chi'n gorffen eich triniaeth.  Gallwn drefnu wig os hoffech un; gofynnwch i'ch nyrs am ragor o wybodaeth. 

 

Mae gennym daflen ar ymdopi â cholli gwallt.  Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech gopi. Weithiau gellir defnyddio dull a elwir yn 'oeri croen y pen' neu 'gapio oer' i atal colli gwallt; gofynnwch os hoffech chi wybod rhagor.

 

Pen tost / Cur pen

Efallai y byddwch yn cael cur pen gyda'r driniaeth hon. Mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylif, dŵr yn ddelfrydol. Gallwch gymryd pa boenladdwr bynnag y byddech fel arfer yn ei gymryd ar gyfer cur pen.

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus, neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol.  Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint.

 

Os yw eich ceg wedi mynd mor ddolurus fel ei fod yn ei gwneud hi'n anodd ichi fwyta neu yfed, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Anemia a phlatennau isel

Os ydych chi'n teimlo'n flinedig, yn fyr eich gwynt neu'n sylwi ar gleisio neu waedu anarferol, ffoniwch y llinell gymorth driniaeth am gyngor.

 

 

Niwed i'r croen a’r meinweoedd

Gall rhai cyffuriau cemotherapi niweidio'r croen a'r ardal gyfagos os ydynt yn gollwng y tu allan i'ch gwythïen.  Gelwir hyn yn elifiad.  Mae'n hynod o anghyffredin, ond mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym ar unwaith os byddwch yn sylwi ar unrhyw chwyddo, poen neu losgi ar safle'r diferydd.  Os bydd hyn yn digwydd tra bydd y cemotherapi yn cael ei roi, dywedwch wrth eich nyrs.  Os byddwch yn sylwi ar boen, chwyddo neu gochni pan fyddwch gartref, cysylltwch â ni ar unwaith; mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen

 

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Gwybodaeth arall:

 

Beichiogrwydd a bwydo ar y fron

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi tra byddwch yn cael triniaeth Trodelvy ®, ac am 6 mis ar ôl cwblhau'r driniaeth. Ni argymhellir bwydo ar y fron yn ystod y driniaeth ac am o leiaf 1 mis ar ôl cwblhau'r driniaeth.  Dylai dynion ddefnyddio dulliau atal cenhedlu effeithiol yn ystod triniaeth ac am o leiaf 3 mis ar ôl cwblhau'r driniaeth.

 

 

Cymryd meddyginiaeth arall gyda Trodelvy ®

Sicrhewch fod tîm Felindre yn ymwybodol o'r meddyginiaethau rydych yn eu cymryd ar hyn o bryd. Cyn dechrau unrhyw feddyginiaethau newydd, dylech ddweud wrth eich meddyg neu fferyllydd eich bod wedi cael Trodelvy ®. 

 

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, a geir gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

                     Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref ac mae angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.

 

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell Gymorth rhadffôn Macmillan    0808 808 0000

Rhadffôn Tenovus                         0808 808 1010

llinell gymorth canser

 

 

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Mae'r daflen wedi'i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys, fferyllwyr a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob 2 flynedd.

 

 

 

Ysgrifennwyd Tachwedd 2021