Neidio i'r prif gynnwy

Ribociclib

Taflen wybodaeth ar Ribociclib A1043 

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o’r enw ribociclib.  Bydd y daflen yn egluro beth yw hyn a phryd a sut mae’n cael ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen.

 

Beth yw ribociclib?

Mae ribociclib yn driniaeth canser a roddir ar ffurf tabledi. Fe'i rhoddir ochr yn ochr â'ch meddyginiaeth hormonau.

 

Pam ydw i'n cael ribociclib?

Canfuwyd bod ribociclib yn helpu rhai cleifion gyda'ch math chi o ganser.

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol yn rheolaidd. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd i edrych am unrhyw annormaleddau a byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych.  Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi.  Bydd angen i chi gael ECG (monitro rhythm y galon) ar ddechrau eich triniaeth ac o bryd i'w gilydd - bydd eich meddyg yn rhoi gwybod i chi pan fydd ei angen.

 

 

 

Sut ddylwn i gymryd y tabledi ribociclib?

Dylid cymryd tabledi ribociclib unwaith y dydd am 21 diwrnod, ac yna 7 diwrnod i ffwrdd.

Dylech gymryd eich meddyginiaeth hormonau bob dydd gan gynnwys y 7 diwrnod nad ydych yn cymryd ribociclib.

 

Ceisiwch gymryd tabledi ribociclib bob bore tua'r un amser.  Gallwch gymryd y tabledi gyda neu heb fwyd.  Dylid llyncu'r tabledi'n gyfan gyda gwydraid o ddŵr.  Ddylen nhw ddim cael eu cnoi na'u malu.  Peidiwch â chymryd unrhyw dabledi sydd wedi torri.

 

Rhaid i chi osgoi bwyta grawnffrwyth, pomgranadau neu yfed sudd grawnffrwyth neu pomgranad ar unrhyw adeg tra byddwch yn cymryd ribociclib.

 

Faint o dabledi ribociclib fydd angen i mi eu cymryd?

Bydd nifer y tabledi a gymerwch yn cael ei labelu ar y blwch.

 

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw hyn o fewn dwy awr i'r amser arferol, cymerwch nhw nawr.
  • Os yw'n fwy na dwy awr yn hwyr, peidiwch â chymryd y dos hwn.

 

Beth os ydw i'n cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.   Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth.

 

 

 

Sut ddylwn i storio'r tabledi?

Dylid storio eich tabledi yn eu deunydd pacio gwreiddiol ac mewn man diogel allan o afael plant.

 

Dylid dychwelyd unrhyw dabledi nas defnyddir i Fferyllfa'r ysbyty neu'ch fferyllydd lleol i'w gwaredu'n ddiogel. 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae'r driniaeth hon fel arfer yn cael ei goddef yn dda, ond mae rhai sgil-effeithiau posibl y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.  Gall y meddygon, y nyrsys a thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bydd eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis; gall hyn beryglu bywyd.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Effeithiau ar eich coluddion.

Mae'n hysbys bod y driniaeth hon yn achosi naill ai rhwymedd neu ddolur rhydd. 

  • Os ydych chi'n profi rhwymedd, mae'n bwysig eich bod chi'n cynyddu faint o hylifau rydych chi'n eu hyfed.  Efallai y bydd angen carthyddion arnoch.  Gallwch siarad â ni neu eich meddyg teulu am gyngor.

 

  • Os ydych chi'n profi dolur rhydd, mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau.  Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd.  Os byddwch yn cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr yn ychwanegol at yr hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Diffyg archwaeth neu gyfog

Efallai y byddwch yn profi diffyg archwaeth; mae hyn yn amrywio o berson i berson, ac efallai y bydd gan rai pobl broblem gyda chyfog a chwydu.  Os yw’r symptomau hyn gennych, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs. Gallant roi meddyginiaeth wrthgyfog i chi ei gymryd gartref. Os ydych yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Blinder a lludded

Gall y driniaeth wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael hi'n fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

 

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol.  Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint. Os na allwch fwyta nac yfed oherwydd ceg ddolurus, cysylltwch â chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Colli gwallt

Ni ddylai'r driniaeth hon wneud i chi golli'ch gwallt.  Fodd bynnag, gall rhai pobl brofi teneuo gwallt, ond bydd hyn oherwydd y feddyginiaeth hormonau. Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt, os oes angen.  Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech chi gael copi.

 

Problemau croen

Bydd rhai cleifion yn datblygu brech.  Fel arfer gellir trin hwn yn hawdd gyda rhywfaint o hufen neu eli heb bersawr. 

Os bydd hyn yn cosi neu'n lledaenu, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Anemia

Gall y driniaeth hon achosi i chi fynd yn anemig. Bydd eich tîm yn monitro’ch gwaed i wirio am anemia. Rhowch wybod i'ch tîm os ydych chi'n teimlo'n hynod flinedig neu'n fyr eich gwynt, oherwydd gallai hyn fod yn symptom o anemia.

 

Cleisio

Gall ribociclib leihau cynhyrchiant platennau (sy’n helpu’r gwaed i geulo).  Bydd hyn yn cynyddu’ch risg o gleisio neu waedu.  Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw gleisio gormodol ar eich corff neu waedu fel gwaedu o'r trwyn neu waedu o'ch deintgig, dylech gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Problemau ar y galon

Yn anaml iawn, mae rhai pobl sy'n cymryd y driniaeth hon yn cael problemau gyda'r galon. Byddwch yn cael prawf olrhain y galon, a elwir yn ECG, cyn dechrau'r feddyginiaeth, ac o bryd i'w gilydd. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'r meddyg os oes gennych gyflwr ar y galon neu os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth y galon

 

Os oes gennych chi unrhyw boen yn y frest, neu os ydych chi'n teimlo bod eich calon yn curo'n gyflymach nag arfer, dylech geisio sylw meddygol brys.

 

Clotiau Gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Sgil-effeithiau eraill a gwybodaeth

Gall rhai cleifion brofi cur pen tra byddant yn cymryd ribociclib.  Gellir trin hyn gyda pha boenladdwyr bynnag y byddech fel arfer yn eu cymryd.

 

Gall ribociclib effeithio ar eich afu, ond bydd canlyniadau eich profion gwaed (neu brofion gweithrediad yr afu) yn cael eu gwirio'n rheolaidd yn y clinig i chwilio am unrhyw broblemau. Os ydych wedi cael unrhyw broblemau gyda'ch afu neu swyddogaeth eich afu, rhowch wybod i'ch tîm yn Felindre.

 

Mae rhai cleifion yn cael diffyg traul a/neu boen yn rhan uchaf yr abdomen. Os yw hyn yn achosi problemau i chi, ffoniwch Ganolfan Ganser Felindre, gan roi gwybod pryd y byddwch yn y clinig nesaf.

 

Yn anaml iawn, gall rhai pobl gael problemau anadlu a achosir gan y driniaeth hon.  Os ydych chi'n sylwi ar ddiffyg anadl, peswch neu unrhyw broblemau anadlu, cysylltwch â'ch meddyg neu nyrs arbenigol.  Byddwch yn cael eich monitro mewn ymweliadau clinig rheolaidd. 

 

Beichiogrwydd a bwydo ar y fron

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi neu'n tadogi plentyn wrth gael triniaeth. Mae hyn oherwydd y gallai ribociclib niweidio'r babi heb ei eni. Yn ogystal, ni ddylid ei ddefnyddio wrth fwydo ar y fron.

 

A yw'n iawn cymryd meddyginiaethau eraill?

Yn y clinig, bydd eich meddyg yn trafod eich meddyginiaethau presennol gyda chi cyn dechrau ribociclib. Os rhagnodir meddyginiaethau eraill i chi tra byddwch ar gwrs o ribociclib, rhowch wybod i'ch meddyg, eich nyrs neu dîm fferyllfa yn Felindre, gan fod llawer o feddyginiaethau na ddylid eu cymryd gyda ribociclib.  Mae yna hefyd lawer o feddyginiaethau dros y cownter y gallai fod yn rhaid i chi eu hosgoi, er enghraifft, eurinllys. Mae angen i chi wirio gyda'ch tîm fferyllfa cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth dros y cownter.

 

Os oes gennych alergedd i gnau neu laeth soia, ni ddylech gymryd ribociclib.

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

I gael cyngor brys ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth

 

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

Paratowyd Chwefror 2018

Adolygwyd Hydref 2019

plain-english (3)