Neidio i'r prif gynnwy

Regorafenib

Taflen wybodaeth am Regorafenib

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o’r enw regorafenib.  Bydd y daflen yn esbonio ystyr y driniaeth a sut a phryd y bydd yn cael ei rhoi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen hon.

 

Beth yw regorafenib?

Triniaeth ganser yw regorafenib sy’n cael ei rhoi ar ffurf tabledi.

 

Pam ydw i’n cael regorafenib?

Mae tabledi regorafenib wedi dangos eu bod yn helpu rhai cleifion gyda’ch math chi o ganser.

 

Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol bob pedair wythnos. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd, a byddwn yn cadw golwg ar eich hwyliau ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn fel y gallwn weld sut mae’r driniaeth yn effeithio arnoch chi.

 

Sut ddylwn i gymryd y tabledi?

Dylech gymryd tabledi regorafenib unwaith y dydd. Dylech geisio eu cymryd tua’r un pryd bob dydd. Dylech gymryd y tabledi yn syth ar ôl byrbryd ysgafn sy’n isel mewn braster, (er enghraifft: osgowch fenyn, caws a hufen). Dylech eu llyncu’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Peidiwch â’u cnoi neu eu malu.

 

Faint o dabledi regorafenib fydd angen i mi eu cymryd?

Mae’n arferol cymryd pedair tabled 40mg bob dydd ond weithiau, bydd eich meddyg yn newid y ddos. Bydd faint y bydd angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y bocsys.

 

Mae’n arferol cymryd y tabledi am dair wythnos ac yna, cael wythnos i ffwrdd.  Byddwch yn gweld y tîm meddygol bob pedair wythnos.

 

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

Os byddwch yn anghofio cymryd eich tabledi, gallwch eu cymryd nhw ar yr un diwrnod; fodd bynnag, peidiwch â chymryd dau ddos ar yr un diwrnod.

 

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.  Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi.

 

Sut ddylwn i storio’r tabledi?

Dylech storio eich tabledi yn eu pecynnau gwreiddiol mewn man diogel i ffwrdd o gyrraedd plant. Dylech eu cadw mewn man sych ac oer (islaw 25oC).  Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty neu i’ch fferyllfa leol er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.

 

 

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn goddef y driniaeth hon yn dda, ond mae rhai sgîl-effeithiau posibl y gallai fod angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Teimlo’n sâl a chwydu, colli archwaeth am fwyd

Mae colli archwaeth am fwyd yn amrywio o berson i berson, a gall rhai pobl gael problem gyda theimlo’n sâl a chwydu.  Os byddwch yn cael y symptomau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu eich nyrs. Gallant roi meddyginiaeth wrthgyfog i chi i’w chymryd adref.

 

Colli gwallt

Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda’r driniaeth hon.  Mae hyn dros dro yn unig.  Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben.

 

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt.  Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r driniaeth hon.  Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Byddwn yn rhoi tabledi loperamide i chi er mwyn rheoli dolur rhydd.  Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

 

 

 

Blinder a lludded

Mae regorafenib yn gallu gwneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny, ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol, yn ogystal â gorffwys.

 

Dolur i'ch dwylo a'ch traed
Mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn yn eich dwylo neu eich traed, ac y byddant yn mynd yn goch ac yn chwyddo.  Os bydd hyn yn digwydd, argymhellwn eich bod yn defnyddio eli neu drochdrwyth di-bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu eich traed yn boenus.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus, neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor am ofalu am eich ceg yn y daflen gemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

Os bydd eich ceg yn ddolurus iawn neu os byddwch yn ei chael yn anodd bwyta ac yfed, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi regorafenib a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Gwaedu

Mae’n bosibl y gall regorafenib achosi problemau gwaedu. Dywedwch wrth eich meddyg os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau a allai effeithio ar waedu, fel aspirin, warfarin neu fitamin E. Os byddwch yn peswch neu'n chwydu gwaed neu’n pasio gwaed yn eich carthion, rhowch wybod i'ch meddyg.

 

Pwysedd gwaed uchel

Mae’n bosibl y gall regorafenib wneud i bwysedd gwaed rhai pobl godi. Bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei wirio yn rheolaidd yn ystod eich triniaeth. Os oes gennych gur pen, yn gwaedu o’r trwyn neu os ydych yn teimlo'n benysgafn, dywedwch wrth eich meddyg. Gellir rheoli pwysedd gwaed uchel fel arfer gyda thabledi wedi’u rhagnodi gan eich meddyg.

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Twll yn wal y coluddyn

Gall nifer fach o gleifion ddatblygu twll bach yn wal y coluddyn.  Mae hyn yn anghyffredin, ond os byddwch yn dechrau cael unrhyw boen yn yr abdomen, yn chwyddo, yn pasio gwaed yn eich carthion neu yn chwydu gwaed,  cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

 

Newidiadau i’r croen

Mae’n bosibl y gall regorafenib achosi brech, neu wneud i’ch croen gosi, bilio, fynd yn goch a phothellu.  Os bydd hyn yn digwydd, ffoniwch Ganolfan Ganser Felindre.

 

 

 

 

Sgîl-effeithiau eraill a gwybodaeth

 

Mae’n bosibl y bydd rhai cleifion yn cael cur pen.  Os bydd hyn yn digwydd, cymerwch y tabledi lladd poen y byddwch fel arfer yn eu cymryd.  Os na fydd tabledi lladd poen yn helpu neu os ydych yn cael problemau gyda’ch golwg, rhowch wybod i’ch doctor neu nyrs.

 

Gall clwyfau gymryd mwy o amser i wella tra byddwch yn cymryd tabledi regorafenib.

 

Gall regorafenib achosi problemau ar y galon.  Os oes gennych gyflwr ar y galon neu os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau cemotherapi.

 

Ydy hi’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill?

Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu eich fferyllydd os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill. Mae’n bosibl y bydd angen i chi osgoi rhywfaint o feddyginiaethau.  Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu eich fferyllydd os ydych yn cymryd tabledi warfarin.

 

Dylech osgoi yfed sudd grawnffrwyth os ydych yn cymryd tabledi regorafenib.

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae taflenni Felindre yn rhoi gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a chyffredin iawn: os hoffech ragor o wybodaeth am y sgîl-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at y taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr, sydd ar gael o fferyllfa Felindre, ac/neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk.  Fodd bynnag, weithiau, efallai y bydd cleifion yn meddwl bod y taflenni hyn yn anodd eu darllen.  Os hoffech gopi, gofynnwch i'ch meddyg neu yn fferyllfa Felindre.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

I gael cyngor brys ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi

 

 

Fferyllfa              029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell gymorth canser                  0808 808 1010

Tenovus-am ddim

 

7 diwrnod yr wythnos  8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae’r daflen wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion, ac yn cael ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

      

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Chwefror 2015

plain-english (3)