Neidio i'r prif gynnwy

Ramucirumab

Taflen wybodaeth ar driniaeth Ramucirumab

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am driniaeth o’r enw Ramucirumab.  Bydd yn egluro beth yw hyn a phryd a sut mae’n cael ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth hon ar ddiwedd y daflen.

 

Beth yw Ramucirumab. 

Mae Ramucirumab yn wrthgorff sy'n cysylltu ei hun â chelloedd canser ac yn eu hatal rhag tyfu.  Nid cemotherapi mohono.  Mae'n gweithio trwy rwystro derbynyddion, sy'n atal y canser rhag rhannu, yn ogystal â gwneud pibellau gwaed newydd. Mae hyn yn lleihau'r cyflenwad o ocsigen a maetholion i'r tiwmor, felly mae'n stopio tyfu neu’n crebachu.  

 

Pam ydw i'n cael y driniaeth hon?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r driniaeth hon oherwydd credir ei bod yn effeithiol wrth drin eich math o ganser.


Pa mor aml y byddaf yn cael y driniaeth hon? 

Er mwyn i'r driniaeth hon fod yn fwyaf effeithiol mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol.  Yr enw ar y rhain yw cylchoedd.  Bydd eich meddyg yn trafod nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael, a'r cyfnodau amser rhwng y cylchoedd. Fel arfer, caiff ei roi gyda'ch cemotherapi ar ddiwrnod 1 a diwrnod 15 o gylch 28 diwrnod.

 

 

Sut fydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?

Bydd eich triniaeth yn cael ei rhoi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu yn eich braich. Os oes angen, efallai yr awgrymir bod tiwb mân o'r enw PICC yn cael ei osod mewn un o'r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich.  Gall y llinell hon aros yn ei lle ar gyfer eich triniaeth gyfan.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio hyn yn fanylach, os oes angen.

 

Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC os oes angen. 

 

Pa mor hir y byddaf yn yr ysbyty?

Mae'r Ramucirumab yn cael ei roi ar ddiwrnod 1 a 15 o'r cylch 28 diwrnod. Bydd yn cael ei roi ar yr un diwrnod â chemotherapi Taxol/ Paclitaxel. Gall y Taxol gymryd tua 3 awr i'w roi, yn ogystal, bydd y Ramucirumab yn cymryd tua 1 awr i'w roi. Dylech ganiatáu hyd at 5 awr ar ddiwrnodau 1 a 15 o'r cylch. Ar ddiwrnod 8 – rhoddir Taxol yn unig, a ddylai gymryd tua 3 awr.

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

 

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Fel arfer, byddwch yn gweld y tîm arbenigol bob 28 diwrnod. Fodd bynnag, bydd eich tîm yn rhoi gwybod i chi pa mor aml y byddant yn eich gweld.  Fe gewch chi brofion gwaed rheolaidd a byddwn yn gofyn sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi. 

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae'r math hwn o driniaeth fel arfer yn cael ei oddef yn dda iawn, ac nid yw'r rhan fwyaf o gleifion yn cael llawer o sgil-effeithiau.  Gall y meddygon, y nyrsys a thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Colli gwallt

Ni ddylai'r driniaeth hon achosi colli gwallt.

 

Cyfog

Nid yw Ramucirumab yn unig yn achosi cyfog fel arfer.

 

Blinder a lludded

Gall y driniaeth hon wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

Pwysedd gwaed uchel 

Gall Ramucirumab achosi cynnydd mewn pwysedd gwaed mewn rhai pobl.  Bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei wirio'n rheolaidd yn ystod eich triniaeth.  Os oes gennych gur pen, gwaedlif o'r trwyn neu os ydych yn teimlo'n benysgafn, rhowch wybod i'ch meddyg.  Fel arfer, gellir rheoli pwysedd gwaed uchel gyda thabledi a ragnodir gan eich meddyg.

 

Protein yn yr wrin

Gall hyn ddigwydd oherwydd effeithiau Ramucirumab ar yr arennau.  Nid yw fel arfer yn achosi symptomau, ond mae angen monitro gofalus.  Cyn pob dos o driniaeth, bydd eich wrin yn cael ei brofi am brotein.  Os canfyddir protein, efallai y bydd angen i chi gael casgliad wrin 24 awr i asesu pa mor dda y mae eich arennau'n gweithio. Gellir atal Ramucirumab nes bod y protein a geir yn yr wrin wedi gwella.

 

Gwaedu

Gall Ramucirumab achosi problemau gwaedu. Dywedwch wrth eich meddyg os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau a allai effeithio ar waedu, fel aspirin, warfarin neu fitamin E. Os oes golwg gwaddodion coffi ar yr hyn rydych yn ei chwydu, os byddwch yn pasio symudiadau du ar unrhyw adeg, yn cael unrhyw boen yn yr abdomen, neu os byddwch yn sylwi ar gleisio neu waedu gormodol, er enghraifft gwaedlif o’r trwyn, ffoniwch y galwr (pager) cemotherapi; mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bydd eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis; gall hyn beryglu bywyd.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol.  Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint.

 

Dolur rhydd:

 

Gall Ramucirumab achosi dolur rhydd. Os ydych chi'n profi dolur rhydd, mae'n bwysig yfed digon o hylifau, a ffonio'r galwr cemotherapi, yn enwedig os ydych chi'n cael 4 achos neu fwy mewn 24 awr; mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen

 

 

Adweithiau o fath alergaidd

 

Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith math alergaidd i Ramucirumab. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yn digwydd tra bydd Ramucirumab yn trwytho neu'n syth ar ôl hynny. Mae'r symptomau'n cynnwys:

 

  • teimlo’n boeth a gwridog
  • sythder
  • teimlo’n oer
  • cosi
  • penysgafn - pwysedd gwaed isel
  • teimlo’n sâl yn gyffredinol 
  • yn fyr eich anadl / gwichian
  • poen cefn

 

Mae modd trin hyn yn hawdd.  Dywedwch wrth eich nyrs os ydych chi'n profi unrhyw un o'r symptomau hyn.

 

Clwyfau’n gwella’n araf 

Gall clwyfau gymryd mwy o amser i wella tra byddwch yn cael triniaeth gyda Ramucirumab. 

 

Rhwyg yn y coluddyn

Gall nifer bach o gleifion ddatblygu twll bach yn wal y coluddyn (rhwyg).  Mae hyn yn anghyffredin, ond os byddwch yn datblygu unrhyw boen neu chwyddo yn yr abdomen, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

 

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth ichi

 

Sgil-effeithiau eraill a gwybodaeth

Rydych mewn perygl o gael clotiau gwaed tra byddwch ar y driniaeth hon. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw ddiffyg anadl neu goesau chwyddedig, ffoniwch y galwr cemotherapi; mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

Weithiau gall cleifion fod â fferau neu goesau chwyddedig gyda'r driniaeth; os bydd hyn yn digwydd, rhowch wybod i'ch tîm arbenigol.

 

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi nac tadogi plentyn tra byddwch yn cael y driniaeth hon oherwydd gallai niweidio'r babi heb ei eni. Mae'n bwysig defnyddio atal cenhedlu.

Nid yw'n ddoeth bwydo ar y fron tra byddwch yn cael y driniaeth hon, ac am o leiaf 3 mis wedi hynny.

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref ac angen cyngor ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.