Neidio i'r prif gynnwy

R-Bendamustine

Taflen wybodaeth am gemotherapi R-Bendamustine

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o'r enw R-Bendamustine.  Bydd y daflen yn esbonio beth yw hwn a phryd a sut y caiff ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am R- Bendamustine ar ddiwedd y daflen.

 

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â’r ffolder 'Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy'n cael cemotherapi'.  Os nad ydych chi wedi cael y ffolder hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

Beth yw triniaeth R- Bendamustine?

Mae hon yn driniaeth sy'n cynnwys cyfuniad o gyffuriau sy'n gweithio mewn gwahanol ffyrdd i drin eich canser.

 

  1. Rituximab (a elwir yn Mabthera fel arfer)

Mae hwn yn wrthgorff artiffisial sy'n cysylltu ei hun â chelloedd canser lymffoma.  Nid cemotherapi mohono.  Mae Mabthera yn helpu eich system imiwnedd eich hun i ladd y celloedd canser.

 

Dyma ran R y driniaeth.

 

 

 

 

  1. Triniaeth cemotherapi

Mae'r rhan hon o'ch triniaeth yn cynnwys cyffur cemotherapi o'r enw Bendamustine. sy'n cael ei roi trwy drwyth (diferydd):

 

Pam ydw i'n cael triniaeth R- Bendamustine?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r driniaeth hon oherwydd canfuwyd bod y cyfuniad hwn yn effeithiol wrth drin eich math o ganser.

 

Pa mor aml fydda i’n cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i'r driniaeth hon gael yr effaith fwyaf, mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol.  Yr enw ar y rhain yw cylchoedd.  Mae cylch o R- Bendamustine yn para am bedair wythnos.  Mae'n arferol cael rhwng chwech ac wyth cylch.  Bydd eich meddyg yn trafod union nifer y cylchoedd y byddwch chi’n eu cael gyda chi.

 

Ym mhob cylch pedair wythnos byddwch yn cael y Mabthera a'r Bendamustine ar y diwrnod cyntaf.  Ar yr ail ddiwrnod, byddwch yn cael y Bendamustine ar ei ben ei hun.

 

Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi fel arfer ar ddiwrnod gwahanol i'ch apwyntiad yn y clinig. 

 

Bydd y driniaeth Mabthera yn cymryd tua 4 awr ar gyfer y driniaeth gyntaf a 2½ awr ar gyfer y triniaethau dilynol.

Bydd y driniaeth cemotherapi yn cymryd tua 2 awr.

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

 

Sut caiff y Mabthera ei roi?

Cyn i'ch Mabthera ddechrau, byddwn yn rhoi paracetamol a chyffuriau o'r enw Piriton (clorphenamine) a hydrocortisone i chi.  Rhoddir y rhain i atal y sgil-effeithiau a all ddigwydd yn ystod y driniaeth. 

 

Mae’r Mabthera yn cael ei roi trwy ddiferydd i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu yn eich braich.  Fel arall, efallai yr awgrymir bod tiwb mân o'r enw PICC yn cael ei osod mewn un o'r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich.  Gall y llinell hon aros yn ei lle drwy gydol eich triniaeth.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.

 

Mae gennyn ni daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC. Gofynnwch os hoffech chi gael copi

 

Beth yw sgil-effeithiau triniaeth Mabthera?

Adweithiau yn ystod y driniaeth

Mae'r rhan fwyaf o sgil-effeithiau a all ddigwydd gyda Mabthera yn digwydd tra bydd y cyffur yn trwytho.  Dyna pam mae’r driniaeth gyntaf yn cael ei rhoi’n arafach.  Bydd nyrs yn eich monitro'n agos yn ystod y driniaeth.  Bydd hyn yn cynnwys gwirio eich tymheredd a'ch pwysedd gwaed yn rheolaidd.

 

Os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r canlynol yn ystod y driniaeth, dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith:

 

  • Teimlo'n boeth ac â thwymyn
  • Teimlo’n oer neu’n crynu
  • Pen tost / Cur pen
  • Pendro neu lewygu
  • Problemau anadlu
  • Croen coslyd
  • Cosi yn y gwddf

 

Os bydd unrhyw un o'r rhain yn digwydd, byddwn ni’n arafu neu'n atal y Mabthera nes eich bod yn teimlo'n well.  Yna gall y driniaeth ddechrau eto, fel arfer heb unrhyw broblemau pellach.

 

Sgil-effeithiau yn dilyn triniaeth

Efallai y byddwch yn dioddef o flinder, cur pen neu bendro. Dywedwch wrth eich meddyg yn ystod eich ymweliad nesaf â'r clinig os yw'r rhain yn broblem i chi.  Ni ddylech yrru ar ddiwrnod y driniaeth neu tra bo’r sgil-effeithiau hyn yn effeithio arnoch.

 

Sut fydd fy nghemotherapi yn cael ei roi?

Byddwn yn rhoi rhai meddyginiaethau gwrthgyfog i chi.  Yna, bydd y cemotherapi yn cael ei roi drwy'r diferydd.

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd. Gall y meddygon, y nyrsys a thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Colli gwallt

Ni ddylech golli'ch gwallt gyda'r cemotherapi hwn, er y gall teneuo gwallt ddigwydd.  Os yw hyn yn effeithio arnoch chi, gofynnwch am wig neu opsiynau eraill.

 

Cyfog

Mae cyfog a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn gan ein bod ni’n rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol.  Os byddwch yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth gwrthgyfog yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bydd eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis; gall hyn beryglu bywyd.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Effeithiau ar eich coluddion.

Gall Bendamustine achosi naill ai rhwymedd neu ddolur rhydd.  Os oes gennych rwymedd, mae'n bosibl y bydd yfed digon o hylifau a bwyta digon o ffibr yn lleddfu hyn.  Gall eich meddyg ragnodi meddyginiaeth i leddfu rhwymedd.

 

Os oes gennych ddolur rhydd, mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau.  Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd.  Os ydych yn cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr yn ychwanegol at yr hyn sy'n arferol i chi, dylech gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 9.

 

Blinder a lludded

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol i wneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys, a byddem yn argymell eich bod yn parhau i fod mor actif â phosibl o fewn eich cyfyngiadau

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol.  Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint.

 

Adwaith o fath alergaidd

Mae nifer fach o gleifion yn profi adwaith o fath alergaidd.  Os bydd hyn yn digwydd efallai y byddwch chi’n teimlo'n boeth neu'n wridog, yn cosi, yn benysgafn neu'n sâl yn gyffredinol wrth gael eich bendamustine. Mae modd trin hyn yn hawdd.  Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r symptomau uchod.

 

Problemau ar y galon

Yn anaml iawn mae rhai pobl sy'n cael cemotherapi bendamustine yn cael problemau gyda'r galon.  Os oes gennych chi gyflwr ar y galon neu os ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth i’r galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn ichi ddechrau cemotherapi. 

 

Os oes gennych chi unrhyw boen yn y frest, neu os ydych chi'n teimlo bod eich calon yn curo'n gyflymach nag arfer, dylech geisio sylw meddygol brys. 

 

Pwysedd gwaed

Weithiau gall bendamustine achosi pwysedd gwaed uchel.  Dylech roi gwybod i'ch meddyg os ydych eisoes yn cael eich trin ar gyfer pwysedd gwaed uchel cyn dechrau triniaeth.  Bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei wirio'n rheolaidd.

 

Effaith ar eich ysgyfaint

Gall nifer bach o bobl brofi problemau ysgyfaint yn dilyn triniaeth bendamustine.  Os byddwch yn datblygu peswch sych neu'n sylwi eich bod yn fyr eich gwynt, dywedwch wrth eich meddyg

 

 

Newidiadau i’r croen

Gall bendamustine achosi brech goslyd mewn rhai cleifion.  Mae meddyginiaeth ar gael i drin hyn.  Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. 

Trallwysiadau gwaed

Ar ôl triniaeth â bendamustine, dylai unrhyw waed a phlatennau a roddir i chi gael eu trin ag ymbelydredd yn gyntaf. Mae hyn yn lleihau'r risg y bydd y celloedd gwaed a roddwyd yn adweithio yn erbyn eich celloedd gwaed chi. Ni fydd yn niweidio'r gwaed nac yn eich gwneud yn ymbelydrol. 

Bydd eich meddyg yn cofnodi yn eich nodiadau meddygol mai dim ond cynhyrchion gwaed arbelydredig y dylid eu rhoi i chi. Byddant hefyd yn rhoi cerdyn i chi ei gario rhag ofn y byddwch yn cael eich trin mewn ysbyty arall. Cadwch y cerdyn hwn gyda chi bob amser ac atgoffwch eich tîm ysbyty bod angen gwaed neu blatennau arbelydredig arnoch.

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth ichi

 

Rhagor o wybodaeth

Weithiau mae menywod yn gweld bod triniaeth cemotherapi yn effeithio ar eu mislif.  Gall y mislif fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed beidio'n gyfan gwbl. 

 

Mae'n bwysig nad ydych chi’n beichiogi nac yn cenhedlu plentyn fel tad tra byddwch chi’n cael triniaeth cemotherapi, gan y gallai cemotherapi niweidio'r babi heb ei eni. 

 

Gall cemotherapi effeithio ar eich gallu i gael plant yn y dyfodol.  Os oes gennych bryderon, trafodwch hyn gyda'ch meddyg neu’ch nyrs.

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

 

 

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref ac angen cyngor ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • â dolur rhydd

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Mae'r daflen wedi'i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.