Neidio i'r prif gynnwy

Pixantrone

Taflen wybodaeth ar gemotherapi pixantrone

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gemotherapi pixantrone.  Bydd yn egluro beth yw hwn a phryd a sut mae’n cael ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau posibl.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am pixantrone ar ddiwedd y daflen.

 

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â’r ffolder 'Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy'n cael cemotherapi'.  Os nad ydych chi wedi cael y ffolder hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

Beth yw pixantrone?

Mae pixantrone yn gemotherapi a roddir mewn drip.

 

Pam ydw i'n cael pixantrone?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r cemotherapi hwn am ei fod wedi’i weld yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser.

 

Pa mor aml y byddaf yn cael fy pixantrone?

Er mwyn i'r driniaeth hon gael yr effaith fwyaf, mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol.  Yr enw ar y rhain yw cylchoedd.  Mae'n arferol cael cylch o pixantrone bob 4 wythnos am hyd at 6 chylch.  Ym mhob cylch 4 wythnos, byddwch yn cael y pixantrone unwaith yr wythnos am 3 wythnos ac yna'n cael wythnos o seibiant.

 

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch chi’n gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch.  Fe gewch chi brofion gwaed rheolaidd a byddwn yn gofyn sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r cemotherapi yn effeithio arnoch chi.  Os bydd eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, bydd eich cemotherapi yn cael ei ragnodi.

 

 

Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?

Bydd eich triniaeth fel arfer ar ddiwrnod gwahanol i'ch apwyntiad clinig.  Mae'r driniaeth cemotherapi yn cymryd tuag awr a hanner.  Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Sut fydd fy nghemotherapi yn cael ei roi?

Mae pixantrone yn cael ei roi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu yn eich braich.  Fel arall, efallai y byddwn yn awgrymu gosod tiwb mân o'r enw PICC mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich.  Bydd hyn yn parhau yn ei le trwy gydol eich triniaeth.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn gyda chi.

 

Mae gennyn ni daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC.  Gofynnwch os hoffech chi gael copi

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd. Gall y meddygon, y nyrsys a thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Colli gwallt

Yn anffodus, fe fyddwch chi’n colli’ch gwallt gyda'r cemotherapi hwn.  Rhywbeth dros dro yn unig yw hyn.  Bydd eich gwallt yn tyfu'n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben.   Os hoffech chi gael wig, mae rhagor o wybodaeth yn y daflen ar ymdopi â cholli gwallt.  Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt.  Gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

Cyfog

Mae cyfog a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn gan ein bod ni’n rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol.  Os byddwch yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth gwrthgyfog yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bydd eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis; gall hyn beryglu bywyd.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol.  Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint.

 

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda pixantrone.  Ond, os byddwch chi’n cael eich corff i lawr bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr yn fwy na’r hyn sy'n arferol ichi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Blinder a lludded

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth ichi

 

Sgil-effeithiau eraill

Gall pixantrone achosi problemau gyda'r galon.  Os oes gennych chi gyflwr ar y galon neu os ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth i’r galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn ichi ddechrau cemotherapi. 

 

Bydd pixantrone yn afliwio eich wrin yn las/gwyrdd yn ddiniwed am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi.  Os bydd hyn yn para fwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Gall pixantrone afliwio eich croen; os bydd hyn yn digwydd, gall bara am sawl diwrnod neu sawl wythnos.

Gall rhai pobl brofi croen sych neu goslyd.  Gall defnyddio lleithydd helpu.

 

Gall rhai cleifion brofi cur pen.  Os bydd hyn yn digwydd, cymerwch ba boenladdwyr bynnag y byddech fel arfer yn eu cymryd.

 

Mae rhai cleifion yn profi llygaid sych neu goslyd.  Os byddwch yn sylwi bod eich llygaid yn goch ac yn ddolurus, gall hyn fod yn haint y gall eich meddyg teulu ragnodi meddyginiaeth ar ei gyfer.

 

Os byddwch yn datblygu peswch sych neu'n sylwi eich bod yn fyr eich gwynt, dywedwch wrthym yn ystod eich ymweliad nesaf â'r ysbyty.

 

 

 

Poenau yn y cymalau a’r esgyrn

Gall rhai cleifion brofi poen yn yr esgyrn, poen yn y cymalau neu gur pen am rai dyddiau.  Mae hyn fel arfer yn ysgafn, a dylai gael ei leddfu gan y math o boenladdwyr y byddech fel arfer yn eu cymryd ar gyfer cur pen. Cofiwch wirio eich tymheredd cyn cymryd unrhyw boenladdwyr oherwydd gallent ostwng eich tymheredd; gallai hyn fod yn guddio arwyddion haint.  Os yw eich tymheredd yn uwch na 37.5ºC, mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Weithiau mae menywod yn gweld bod triniaeth cemotherapi yn effeithio ar eu mislif.  Gall y mislif fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed beidio'n gyfan gwbl. 

 

Mae'n bwysig nad ydych chi’n beichiogi nac yn cenhedlu plentyn fel tad tra byddwch chi’n cael triniaeth cemotherapi, gan y gallai cemotherapi niweidio'r babi heb ei eni. 

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref ac angen cyngor ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.  Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • â dolur rhydd

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

 

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'r wybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.