Neidio i'r prif gynnwy

Palbociclib

Taflen wybodaeth ar palbociclib        949

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o'r enw palbociclib.  Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi.  Bydd yn dweud wrthych chi hefyd am y sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen.

 

Beth yw palbociclib?

Mae palbociclib yn driniaeth canser sy'n cael ei rhoi fel tabledi. 

 

Pam ydw i'n cael palbociclib?

Canfuwyd bod palbociclib yn helpu rhai cleifion gyda'ch math chi o ganser.

 

Pa mor aml y byddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol bob 4 wythnos.  Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd, a byddwn yn gwirio sut rydych chi'n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi. 

 

A gaf i ddod â ffrindiau a pherthnasau gyda mi?

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Does dim llawer o le, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Sut ddylwn i gymryd y tabledi palbociclib?

Dylid cymryd tabledi palbociclib unwaith y dydd am 21 diwrnod. Ceisiwch eu cymryd tua'r un adeg bob dydd.  Dylech gymryd y tabledi gyda bwyd.  Dylai'r tabledi gael eu llyncu'n gyfan gyda gwydraid o ddŵr.  Ni ddylid eu cnoi nac eu malu’n fân.  Peidiwch â chymryd unrhyw dabledi sydd wedi torri mewn unrhyw ffordd.

 

Faint o dabledi palbociclib fydd angen i mi eu cymryd?

Bydd faint o dabledi sydd angen i chi eu cymryd yn cael ei farcio'n glir ar y bocs.

 

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n anghofio cymryd fy nhabledi?

Os ydych chi'n anghofio cymryd eich tabledi, dylech golli’r dos a chymryd y dos yn ôl yr arfer y diwrnod canlynol.

 

Beth os ydw i'n cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith am gyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.  Gofynnwch am y pager cemotherapi.

 

Sut ddylwn i storio'r tabledi?

Dylai eich tabledi gael eu storio yn eu pecyn gwreiddiol ac mewn lle diogel i ffwrdd oddi wrth blant. Dylid eu cadw mewn lle sych oer (o dan 25°C).

 

Dylid dychwelyd unrhyw dabledi sydd heb eu defnyddio i fferyllfa'r ysbyty neu i’ch fferyllydd lleol i gael gwared arnynt yn ddiogel. 

 

Beth yw'r sgîl-effeithiau posibl?

Mae'r driniaeth hon fel arfer yn cael ei goddef yn dda, ond mae rhai sgîl-effeithiau posibl y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.  Gall y tîm meddygon, nyrsys a fferylliaeth roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

 

Effeithiau ar eich coluddion

 

Mae’r driniaeth hon yn gallu achosi rhwymedd neu ddolur rhydd. 

  • Os ydych chi'n cael rhwymedd, mae'n bwysig eich bod chi'n cynyddu faint o hylif rydych chi'n eu hyfed.  Efallai y bydd angen moddion gweithio arnoch chi.  Gallwch siarad gyda ni neu eich meddyg teulu i gael cyngor.

 

  • Os ydych chi'n cael dolur rhydd, mae'n bwysig eich bod chi'n yfed digon o hylif.  Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd.  Fodd bynnag, os ydych chi’n mynd i’r toiled bedwar gwaith neu fwy mewn 24 awr, sydd yn fwy na’r hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Colli archwaeth neu salwch

 

Efallai y byddwch chi'n colli archwaeth, mae hyn yn amrywio o berson i berson ac efallai y bydd gan rai pobl broblem gyda chyfog a chwydu.  Os oes gennych y symptomau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu fferyllydd. Gallant roi meddyginiaeth gwrth-salwch i chi ei gymryd gartref. Os ydych chi'n sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod chi’n cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Blinder a lludded

Gall y driniaeth wneud i chi deimlo'n fwy blinedig na’r arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond gwnewch eich gweithgareddau arferol os ydych chi'n teimlo fel eich bod chi’n gallu gwneud hyn.  Mae rhai pobl yn ei chael hi'n ddefnyddiol gwneud ychydig o ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus, neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol.  Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi, i atal neu glirio unrhyw haint. Os nad ydych yn gallu bwyta nac yfed oherwydd ceg ddolurus, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Colli Gwallt

Ni ddylai'r driniaeth hon wneud i chi golli eich gwallt.  Fodd bynnag, efallai y bydd gwallt rhai pobl yn teneuo.  Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am sut i ddelio â cholli eich gwallt, os oes angen.  Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech gael copi.

 

Problemau croen

Bydd rhai cleifion yn datblygu brech.  Fel arfer, gellir trin hyn yn hawdd gyda rhywfaint o hufen neu eli heb eu persawru. 

Os bydd hyn yn dod yn goslyd neu'n gwaethygu, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Haint

Rydych chi mewn mwy o berygl o gael haint, oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn sy'n helpu i ymladd heintiau gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn cael haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych chi mewn perygl o gael sepsis, sydd yn gallu peryglu bywyd.  

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i'r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°canradd, neu sy’n is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Cleisio

 

Gall palbociclib leihau faint o blatennau rydych chi’n eu cynhyrchu (sy'n helpu'r gwaed i geulo).  Bydd hyn yn cynyddu eich risg o gleisio neu waedu.  Os byddwch yn sylwi ar unrhyw gleisiau ar eich corff neu ar unrhyw waedu, er enghraifft, eich bod chi’n gwaedu o’ch trwyn neu bod eich deintgig yn gwaedu, dylech gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Clotiau gwaed

Mae cael eich diagnosio gyda chanser yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), ac mae triniaeth canser yn gallu cynyddu'r risg hwn ymhellach.    Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu os ydych yn dioddef o ddiffyg anadl a phoen yn eich brest 

 

Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau yn llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Sgîl-effeithiau a gwybodaeth eraill

 

Dylech osgoi bwyta grawnffrwyth neu yfed sudd grawnffrwyth ar unrhyw adeg tra byddwch yn cymryd Palbociclib.

 

Efallai y bydd rhai cleifion yn cael cur pen wrth gymryd palbociclib.  Gellir trin hyn gyda pha bynnag gyffuriau lladd poen y byddech fel arfer yn eu cymryd.

 

Rydych mewn mwy o berygl o gael clotiau gwaed tra'n cymryd Palbociclib, os byddwch yn brin o anadl, neu'n profi poen wrth anadlu i mewn, poen neu chwyddo yn eich coes, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Beichiogrwydd a bwydo ar y fron

 

Mae'n bwysig nad ydych chi'n mynd yn feichiog neu'n dod yn dad wrth gael triniaeth. Mae hyn oherwydd y gallai palbociclib niweidio'r babi heb ei eni. Yn ogystal, ni ddylid ei ddefnyddio wrth fwydo ar y fron.

 

Ydy’n iawn i mi gymryd meddyginiaethau eraill?

Bydd eich meddyg yn trafod y meddyginiaethau rydych chi’n eu cymryd ar hyn o bryd gyda chi yn y clinig chi i chi ddechrau eich triniaeth palbociclib. Os ydych chi’n cymryd meddyginiaethau eraill tra ar gwrs o palbociclib, rhowch wybod i'ch meddyg, nyrs neu fferyllydd yn Felindre, gan fod llawer o feddyginiaethau na ddylid eu cymryd gyda Palbociclib.  Mae yna hefyd lawer o feddyginiaethau dros y cownter y gallai fod yn rhaid i chi eu hosgoi, er enghraifft, St John's Wort. Mae angen i chi wirio gyda'ch fferyllydd cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth dros y cownter.

 

Weithiau, mae cyffuriau canser yn gallu cael sgîl-effeithiau difrifol iawn, sydd weithiau, ond dim yn aml iawn, yn gallu peryglu bywyd.  Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych chi'n poeni am unrhyw sgîl-effeithiau.

 

 

 

 

 

 

 

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn rhoi gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a chyffredin iawn: os hoffech ragor o wybodaeth am y sgîl-effeithiau llai cyffredin, darllenwch y taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr, sydd ar gael o fferyllfa Felindre, ac/neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk. Weithiau, gall cleifion gael trafferth yn darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu o fferyllfa Felindre.

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt:

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Am gyngor brys ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth

 

 

Fferyllfa              029 2061 5888 (est 6223)

Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

 

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010    

rhadffôn Tenovus

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth, ac wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Mae'n cael ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Mai 2016

Diweddarwyd Gorffennaf 2017

plain-english (3)