Neidio i'r prif gynnwy

oxaliplatin a raltitrexed

561                                                                                 

 

Taflen wybodaeth ynghylch cemotherapi oxaliplatin a

raltitrexed

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o'r enw oxaliplatin a raltitrexed.  Bydd yn egluro beth yw hyn a phryd a sut mae’n cael ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn yn cael eu rhoi ar ddiwedd y daflen.

 

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â'r ffolder 'Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy'n cael cemotherapi'.  Os nad ydych chi wedi cael y ffolder hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

 

Beth yw cemotherapi oxaliplatin a raltitrexed?

Mae hwn yn gwrs o driniaeth sy'n cynnwys dau gyffur:

  • Oxaliplatin 
  • Raltitrexed

 

Pam rydw i'n cael y cemotherapi hwn?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r cemotherapi hwn am ei fod wedi’i weld yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser.

 

Sut fydd fy nghemotherapi yn cael ei roi?

Bydd yr oxaliplatin a’r raltitrexed yn cael eu rhoi trwy ddrip sydd wedi'i gysylltu â nodwydd fach sy'n cael ei gosod yn eich llaw neu'ch braich. Os oes angen efallai yr awgrymir bod tiwb mân o'r enw llinell PICC yn cael ei osod mewn un o'r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich.  Gall y llinell hon aros yn ei lle ar gyfer eich triniaeth gyfan.  Bydd eich meddyg yn esbonio hyn ichi yn fanylach, os oes angen. Mae gennyn ni daflen sy'n dweud mwy wrthych am linell PICC, os oes angen.

 

Pa mor aml fydda i’n cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i'r driniaeth hon fod yn fwyaf effeithiol mae’n cael ei rhoi bob tair wythnos.  

 

Pa mor aml fydd angen imi ymweld â'r ysbyty?

Fe gewch chi ddau apwyntiad ar gyfer pob triniaeth:

 

Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – bydd samplau gwaed yn cael eu cymryd a byddwn ni’n gwirio sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r cemotherapi yn effeithio arnoch chi.  Os bydd eich canlyniadau gwaed yn iawn, bydd eich cemotherapi yn cael ei ragnodi.  Mae'r apwyntiad hwn fel arfer ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi.

 

Apwyntiad cemotherapi – byddwch yn treulio rhyw dair awr ar un o'r mannau triniaeth achosion dydd.  Caniatewch hyd at hanner awr yn hirach ar gyfer eich ymweliad cyntaf.  Byddwch yn cael meddyginiaeth wrth-gyfogi a'ch cemotherapi ar y diwrnod hwn. 

 

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd.  Gall y meddygon, y nyrsys a thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Colli gwallt

Ddylech chi ddim colli'ch gwallt gyda'r cemotherapi hwn.  Er hynny, mae rhai cleifion yn gweld rhywfaint o deneuo ar eu gwallt, gall hyn gael ei achosi gan y raltitrexed.

 

Cyfogi

Mae cyfogi a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn gan ein bod ni’n rhoi meddyginiaethau gwrth-gyfogi ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol.  Os byddwch chi’n cyfogi fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod chi’n cymryd meddyginiaeth wrth-gyfogi yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Dolur rhydd

 

Efallai y cewch chi ddolur rhydd.  Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau.  Byddwn yn rhoi meddyginiaeth ichi ei chymryd os byddwch chi’n cael dolur rhydd. 

 

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith:

  • os byddwch chi’n ysgarthu bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi.
  • os cewch chi’ch deffro yn y nos gyda dolur rhydd.  

 

Dylech chi gysylltu â ni hefyd os cewch chi unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu os byddwch chi’n gorfod ysgarthu yn amlach dros gyfnod o fwy na 3 diwrnod.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis, gall hyn fod yn fygythiol.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch chi’n datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Cleisio

 

Gall y cemotherapi leihau cynhyrchiant platennau (sy'n helpu'r gwaed i geulo).  Bydd hyn yn cynyddu’ch risg o gleisio neu waedu.  Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw gleisio gormodol ar eich corff neu waedu fel gwaedu o'r trwyn neu waedu o'ch deintgig, dylech gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

 

 

Anemia

Weithiau gall raltitrexed achosi ichi fynd yn anemig. Bydd eich tîm yn monitro’ch gwaed i wirio am anemia. Os oes angen gallwn drefnu trallwysiad gwaed. 

 

 

Blinder a lludded

 

Gall cemotherapi wneud ichi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys

 

Ceg ddolurus

 

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol.  Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint. Os bydd eich ceg yn mynd yn boenus iawn, neu os byddwch yn ei chael hi'n anodd bwyta ac yfed, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Problemau croen

Bydd rhai cleifion yn datblygu croen sych neu frech.  Fel arfer mae modd trin y rhain yn hawdd â hufen neu eli heb bersawr.  Yn anaml iawn gall y frech hon fod yn ddifrifol.  Os cewch chi frech gyda phothelli neu frech sy’n boenus dylech ffonio Canolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Poen yn y gwythiennau

Pan fydd oxaliplatin yn cael ei roi fel drip, mae rhai cleifion yn profi anghysur ar hyd yr wythïen.  Gall hyn ddigwydd adeg y driniaeth a gall bara am sawl diwrnod wedyn.  Dywedwch wrth eich nyrs os bydd hyn yn digwydd yn ystod eich triniaeth.  Os yw'n digwydd pan fyddwch chi gartref, ceisiwch gymryd pa boenladdwyr bynnag y byddwch chi’n eu cymryd fel arfer ar gyfer cur pen.  Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os ydych chi’n bryderus.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Mae modd atal y broblem hon trwy osod llinell PICC. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth siaradwch â'ch nyrs neu'ch meddyg.

 

 

Niwed i'r nerfau yn eich dwylo a'ch traed

 

Gall oxaliplatin achosi tinglo neu fferdod yn eich bysedd neu fysedd eich traed.  Mae 85 – 95% o bobl yn profi hyn i ryw raddau.  Mae hyn yn aml yn cael ei ysgogi gan amlygiad i oerfel, er enghraifft pan fyddwch chi'n agor yr oergell neu'n dal diod oer.  Gall ei gwneud hi'n anodd ichi gau botymau neu godi pethau bach. 

 

Dyw hyn fel arfer ddim yn para fwy na saith diwrnod rhwng y triniaethau. Os nad yw'r tinglo neu'r fferdod yn diflannu rhwng triniaethau, mae yna risg y gallai hyn ddod yn barhaol. Os cewch chi'r broblem hon ac os yw'n para fwy na saith diwrnod, mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod inni yn eich apwyntiad nesaf yn y clinig. 

 

 

 

Teimlad annymunol yn eich gwddf

 

Mae oxaliplatin yn achosi teimlad annymunol yn y gwddf mewn nifer fach o gleifion.  Gall hyn arwain at deimlad tynn yn y gwddf neu fethu â dal eich gwynt.  Bydd hyn yn digwydd adeg y driniaeth neu o fewn ychydig oriau.  Gall gael ei ysgogi hefyd gan oerfel felly ceisiwch osgoi diodydd rhewllyd am 24 awr ar ôl y driniaeth.

 

Rydym yn argymell eich bod yn aros am 20-30 munud ar ôl eich triniaeth cyn gadael yr ysbyty.  Ddylech chi ddim gyrru adref ar eich pen eich hun, ac mewn tywydd oer rydym yn argymell bod eich ffrind neu’ch perthynas yn cynhesu'r car cyn ichi fynd iddo.

 

Dywedwch wrth eich nyrs os byddwch chi’n profi hyn tra byddwch chi'n cael eich triniaeth.  Os bydd hyn yn digwydd ar ôl ichi adael yr ysbyty, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Os bydd hyn yn digwydd, ceisiwch ymlacio, anadlu allan trwy'ch ceg ac i mewn trwy'ch trwyn.  Ceisiwch symud i rywle cynhesach a rhowch gynnig ar ddiod cynnes.  Fe ddylai'r teimlad hwn basio'n gyflym. Mae'n well ymlacio. Rydym yn argymell eich bod yn aros am 20 - 30 munud ar ôl eich triniaeth cyn gadael yr ysbyty.  Ddylech chi ddim gyrru adref ar eich pen eich hun.  Mewn tywydd oer rydym yn argymell bod eich ffrind neu’ch perthynas yn cynhesu'r car cyn ichi fynd iddo.

 

Adwaith o fath alergaidd

 

Mae nifer fach o gleifion yn profi adwaith o fath alergaidd.  Os bydd hyn yn digwydd efallai y byddwch chi’n teimlo'n boeth neu'n wridog, yn cosi, yn benysgafn neu'n sâl yn gyffredinol wrth gael eich triniaeth. Mae modd trin hyn yn hawdd.  Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r symptomau uchod.

 

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi

 

 

Sgil-effeithiau eraill

 

Mae nifer fach o gleifion yn profi anhyblygrwydd yn eu gên yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl yr oxaliplatin.  Fel arfer dim ond am ychydig ddyddiau y mae hyn yn para.  Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrthon ni yn ystod eich ymweliad nesaf â'r clinig.

 

Yn anaml fe allai cleifion gael anhawster gyda’u lleferydd a/neu wrth symud eu breichiau a’u coesau, yn syth ar ôl y trwyth, neu ychydig oriau ar ôl y trwyth.  Os bydd hyn yn digwydd efallai y byddwn yn eich cadw ar yr uned i gael arsylwi arnoch; os ydych chi wedi gadael yr ysbyty bydd angen ichi ffonio'r galwr cemotherapi ar unwaith.

 

Fe allech chi fod mewn mwy o berygl o gael heintiau ar y croen, felly os byddwch chi’n sylwi ar gochni, chwyddo neu fod eich croen yn boeth i'w gyffwrdd, ffoniwch y galwr cemotherapi.

 

Fe allech chi brofi crampiau neu boenau yn y cyhyrau.  Cewch chi gymryd meddyginiaeth at boen os oes ei hangen.

 

Fe allech chi fod mewn perygl o heintiau yn eich llygaid: ewch i weld eich meddyg teulu i gael adolygiad os oes ei angen.

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i'r haul.  Mae'n well osgoi heulwen gryf a gwisgo het a defnyddio eli atal haul pan fyddwch chi yn yr haul.

 

Weithiau mae menywod yn gweld bod cemotherapi yn effeithio ar eu mislif.  Gall y mislif fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed beidio. 

 

Mae'n bwysig nad ydych chi’n beichiogi nac yn cenhedlu plentyn fel tad tra byddwch chi'n cael cemotherapi gan y gallai niweidio'r babi heb ei eni. 

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre.

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.  Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • yn ysgarthu bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi
  • yn ysgarthu yn fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o fwy na thri diwrnod
  • â cheg ddolurus iawn
  • â dwylo neu draed poenus iawn
  • yn teimlo’n dynn yn eich gwddf neu’n methu dal eich gwynt

 

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 Wedi’i hadolygu Aw