Neidio i'r prif gynnwy

Oxaliplatin 5FU and Folinic acid 178

Taflen wybodaeth am gemotherapi oxaliplatin,

5 fluorouracil (5-FU) ac asid ffolinig

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gemotherapi o’r enw oxaliplatin, 5 fluorouracil (5-FU) ac asid ffolinig. Bydd yn egluro beth yw hwn a phryd a sut y caiff ei roi. Bydd hefyd yn egluro sgil effeithiau cyffredin y gallwch eu cael. Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dylid darllen y daflen hon ochr yn ochr â’r daflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, yna gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

 

Beth yw cemotherapi oxaliplatin, 5-FU ac asid ffolinig?

Mae’r driniaeth gemotherapi hon yn cynnwys tri chyffur. Mae dau gyffur cemotherapi o’r enw oxaliplatin a 5-FU. Asid ffolinig yw’r enw ar y cyffur arall. Nid cyffur cemotherapi yw hwn ond mae’n helpu i’r 5-FU weithio’n well.

 

Gyda’i gilydd, enwau’r cyffuriau hyn yw oxaliplatin a geGramount neu OXMdG yn fyr.

 

 

Pam ydw i’n cael cemotherapi OxMdG?

Mae eich meddyg wedi rhoi hwn am ei fod wedi dangos ei fod yn effeithiol i drin eich math chi o ganser. 

Pa mor aml byddaf i’n cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Cylchredau yw’r enw ar y rhain. Mae’n arferol cael cylchred o OxMdG bob pythefnos am hyd at 12 cylchred. Bydd eich meddyg yn trafod union nifer y cylchredau y byddwch yn eu cael.

 

 

Sut caiff fy nhriniaeth gemotherapi ei rhoi?

I dderbyn eich cemotherapi, bydd angen i diwb mân gael ei osod mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Llinyn PICC yw enw’r tiwb hwn. Caiff eich llinyn PICC ei osod tuag wythnos cyn i chi ddechrau eich cemotherapi fel arfer. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg yn egluro hyn i chi’n fanylach. Mae gennym daflen hefyd sy’n egluro mwy i chi am linynnau PICC.

 

Caiff yr oxaliplatin a’r asid ffolinig eu rhoi i chi drwy ddrip dros gyfnod o ddwy awr. Caiff y drip ei gysylltu â’ch llinyn PICC.

 

Caiff yr 5-FU eu rhoi i chi mewn dwy ran:

 

  1. Yn gyntaf, caiff ei roi fel chwistrelliad yn eich llinyn PICC. Mae hyn yn cymryd ychydig funudau.
  2. Caiff ail ran eich 5-FU ei roi mewn pwmp cludadwy bach.

 

    • Mae’r pwmp wedi’i gysylltu â’ch llinyn canolog
    • Mae’r pwmp yn ffitio mewn bag (bwmbag) rydych yn gallu ei wisgo am eich canol ar wregys
    • Mae’r pwmp wedi’i osod i wacáu dros gyfnod o 46 awr
    • Yna mae angen i chi ddychwelyd er mwyn i’r pwmp gael ei ddatgysylltu o’ch llinyn canolog.

Sut ydw i’n gofalu am y pwmp cludadwy?

Byddwn yn dweud wrthych sut mae eich pwmp yn gweithio a sut i ofalu amdano. Byddwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi.

 

 

Pa mor aml bydd angen i mi ddod i’r ysbyty?

I gael y cemotherapi hwn, bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty dair gwaith ym mhob cylchred pythefnos.

 

Ymweliad 1af – Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol

Byddwn yn cymryd samplau o’ch gwaed a byddwn yn gofyn sut ydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a all fod gennych. Rydym yn gwneud hyn fel y gallwn weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhoi cemotherapi i chi. Mae’r apwyntiad hwn ychydig ddiwrnodau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

 

2il ymweliad – Apwyntiad cemotherapi

Yn yr apwyntiad hwn, byddwch yn treulio tua 4 awr yn un o’r mannau trin achosion dydd. Dylech ganiatáu hyd at awr yn hirach ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth rhag salwch a’ch cemotherapi mewn drip i chi. Byddwch yn mynd adref gyda’ch pwmp cludadwy’n cynnwys 5-FU.

 

3ydd ymweliad – Datgysylltu’r pwmp

Mae’r apwyntiad hwn ddeuddydd ar ôl eich apwyntiad cemotherapi. Byddwch yn dychwelyd i un o’r mannau trin achosion dydd er mwyn i’ch pwmp cludadwy gael ei ddatgysylltu. Dylai hyn gymryd tua hanner awr.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n gyfyng yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer. Nid yw mannau triniaeth yn addas i blant bach.

 

 

Beth yw’r sgil effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.

 

Colli gwallt

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn colli eu gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, mae rhai cleifion yn gweld bod eu gwallt yn teneuo rywfaint. Mae gennym daflen sy’n egluro mwy i chi am ymdopi â cholli’r gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi.

 

Salwch

Mae cyfogi a chwydu’n anghyffredin y dyddiau hyn gan ein bod yn rhoi meddyginiaeth rhag salwch i chi sy’n effeithiol dros ben fel arfer. Os byddwch yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth rhag salwch reolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth gemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Haint

Mae’ch risg o ddal heintiau yn uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint,  er enghraifft, symptomau sy’n debyg i ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°C.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r cemotherapi hwn.  Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os cewch eich corff i lawr bedair gwaith neu fwy mewn 24 awr sy’n uwch na’r hyn sy’n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.

Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig nag arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny, ond dylech barhau i wneud eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny. Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol i wneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn boenus neu y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen gemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi cegolch neu feddyginiaeth i chi i atal neu glirio unrhyw haint.

 

Dolur yn eich dwylo a’ch traed

Mae’n bosibl y byddwch yn profi rhywfaint o boen, cochni a chwyddo i’ch dwylo neu’ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, rydym yn argymell defnyddio hufen neu drwyth heb bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser  Felindre os yw eich dwylo neu’ch traed yn boenus.

 

 

Niwed i’r nerfau yn eich dwylo a’ch traed

Mae’n bosibl y bydd Oxaliplatin yn achosi goglais neu ddiffyg teimlad yn eich bysedd neu fysedd eich traed. Mae 85 – 95% o bobl yn profi hyn i ryw raddau. Caiff hyn ei achosi’n aml drwy oerfel, pan fyddwch yn agor yr oergell neu’n gafael mewn diod oer. Mae’n bosibl y bydd yn anodd i chi gau botymau neu afael mewn pethau bach.

 

Mae hyn fel arfer yn parhau heb fod yn fwy na 7 niwrnod rhwng triniaethau. Os ydych yn cael y broblem hon a’i bod yn parhau am fwy na 7 niwrnod, dywedwch wrthym yn eich apwyntiad nesaf yn y clinig.

 

Teimlad annifyr yn eich gwddf

Mae Oxaliplatin yn achosi teimlad annifyr yn y gwddf mewn nifer fach iawn o gleifion. Gall hyn arwain at deimlad o dyndra yn y gwddf neu fethu ag anadlu. Bydd hyn yn digwydd ar adeg y driniaeth neu o fewn ychydig oriau i’r driniaeth. Mae’n bosibl y bydd oerfel yn ei achosi felly dylech osgoi diodydd oer iawn am 24 awr ar ôl triniaeth.

 

Dywedwch wrth eich nyrs os byddwch yn profi hyn wrth gael eich triniaeth. Os bydd hyn yn digwydd ar ôl i chi adael yr ysbyty, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

 

Sgil effeithiau eraill

Mae menywod weithiau’n gweld bod cemotherapi’n effeithio ar y mislif. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu ddod i ben hyd yn oed. 

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi neu’n cenhedlu plentyn wrth gael cemotherapi gan y gallai niweidio’r baban yn y groth.  

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Mae’n well osgoi heulwen gref a dylech wisgo het a defnyddio eli haul pan fyddwch yn yr haul.

 

Yn bur anaml, mae’n bosibl y bydd pobl sy’n cael y cemotherapi hwn yn cael problemau ar y galon megis angina neu grychguriadau. Os byddwch am drafod hyn ymhellach, siaradwch â’ch meddyg.

 

 

Taflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion

Mae copïau o daflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau, a gall fod yn anodd eu darllen. Fodd bynnag, gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn mynd yn sâl gartref a bod angen sylw brys arnoch ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch:

  • Yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • Â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • Â dolur rhydd
  • Â thyndra yn eich gwddf neu anhawster wrth anadlu ar yr un diwrnod â thriniaeth

 

Yr Adran Fferylliaeth       029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun– Dydd Gwener 9am – 5pm am ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth canser                    0808 808 1010

Tenovus - rhadffôn  

Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 4.30pm am ymholiadau cyffredinol am ganser

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi ei seilio ar dystiolaeth. Mae hi wedi ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru’n flynyddol.