Neidio i'r prif gynnwy

Olaparib

Taflen wybodaeth am olaparib (899, A1128)

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o'r enw olaparib.  Bydd y daflen yn egluro beth yw hyn a phryd a sut mae’n cael ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Mae rhifau ffôn cyswllt ar ddiwedd y daflen.

 

 

Beth yw olaparib?

Mae Olaparib yn driniaeth canser a roddir fel tabledi neu gapsiwlau.

 

Pam ydw i'n cael olaparib?

Canfuwyd bod Olaparib yn helpu rhai cleifion gyda'ch math chi o ganser.

 

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol yn rheolaidd.  Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd, a byddwn yn gofyn sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi.  

 

A gaf i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid ydy’r mannau triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Sut ddylwn i gymryd yr Olaparib?

Dylech gymryd Olaparib ddwywaith y dydd. Ceisiwch eu cymryd tua'r un adeg bob dydd.

Dylech lyncu'r tabledi/capsiwlau yn gyfan gyda gwydraid o ddŵr.

  • Gallwch gymryd y tabledi gyda bwyd neu heb fwyd. Bydd cyfarwyddiadau ar y bocs.

Ni ddylen nhw gael eu cnoi na'u malu. 

 

Faint o dabledi/capsiwlau olaparib fydd angen i mi eu cymryd?

Bydd y nifer y mae angen i chi ei gymryd yn cael ei nodi'n glir ar y bocs.

 

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy Olaparib?

Gadewch y dos rydych wedi'i golli, a chymerwch y dos nesaf fel yr arfer.

 

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi/capsiwlau?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

Gofynnwch am y llinell gymorth driniaeth.

 

Sut ddylwn i storio'r Olaparib?

Dylech storio tabledi/capsiwlau yn eu pecyn gwreiddiol ac mewn man diogel i ffwrdd o afael plant. 

Dilynwch gyfarwyddiadau'r fferyllfa ynghylch storio tabledi a chapsiwlau.

Dylid dychwelyd unrhyw dabledi sydd heb eu defnyddio i fferyllfa'r ysbyty neu i’ch fferyllydd lleol i gael gwared arnynt yn ddiogel. 

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae'r driniaeth hon fel arfer yn cael ei goddef yn dda, ond mae rhai sgil-effeithiau posibl y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.  Gall y meddygon, y nyrsys a thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Cyfogi

Efallai y byddwch chi'n profi cyfog a chwydu gydag olaparib.  Byddwn yn rhoi tabledi gwrth-gyfog i chi eu cymryd os bydd eu hangen arnoch.  Os ydych yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth gwrth-gyfog yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Dolur rhydd

Efallai y cewch ddolur rhydd gyda'r driniaeth hon.  Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod chi’n yfed digon o hylifau.  Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd tabledi loperamide i reoli dolur rhydd.  Os byddwch yn ysgarthu bedair gwaith neu fwy mewn 24 awr, sy’n fwy na'r hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Gall eich meddyg ragnodi cegolch neu feddyginiaeth i helpu gyda hyn.

 

Diffyg archwaeth

Efallai y byddwch yn profi diffyg archwaeth, ac efallai y bydd rhai pobl yn teimlo'n sâl wrth gymryd olaparib ond fel arfer, gellir rheoli hyn yn dda gyda meddyginiaeth gwrth-salwch.  Os byddwch yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch yn rheolaidd, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi/capsiwlau 

Olaparib, a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bydd eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o gael sepsis; gall hyn beryglu bywyd.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd, neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Newidiadau i flas

Mae'n gyffredin i'ch synnwyr blasu newid pan fyddwch ar y driniaeth hon.  Weithiau, gall cegolch helpu.

 

Cyfrif gwaed isel

Gall olaparib effeithio ar eich cyfrif gwaed. O bryd i'w gilydd, efallai y byddwch angen trallwysiad gwaed, neu efallai y bydd hyn yn cynyddu eich risg o waedu.  Os ydych chi'n sylwi ar gleisio neu waedu anarferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Clotiau gwaed

Mae cael eich diagnosio gyda chanser yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), ac mae triniaeth canser yn gallu cynyddu'r risg hwn ymhellach.    Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu os ydych yn dioddef o ddiffyg anadl a phoen yn eich brest.

 

Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau yn llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Sgil-effeithiau eraill a gwybodaeth

 

Gall rhai pobl gael problemau gyda chur pen a phendro.  Ceisiwch gymryd y poenladdwyr y byddech fel arfer yn eu cymryd ar gyfer cur pen.  Os fyddwch yn canfod nad yw poenladdwyr yn helpu neu os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch golwg, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs.

 

Mae rhai cleifion yn dioddef diffyg traul a/neu boen yn rhan uchaf yr abdomen. Os yw hyn yn achosi problemau i chi, ffoniwch Ganolfan Ganser Felindre, a rhowch wybod pryd y byddwch yn y clinig nesaf.

 

Yn anaml iawn, gall rhai pobl sy'n cael olaparib brofi problemau anadlu.  Os ydych chi'n sylwi ar ddiffyg anadl, peswch neu unrhyw broblemau anadlu, cysylltwch â'ch meddyg neu nyrs arbenigol.  Byddwch yn cael eich monitro mewn ymweliadau clinig rheolaidd. 

 

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra'n cael triniaeth, neu am o leiaf 1 mis ar ôl hynny.  Mae hyn oherwydd y gallai olaparib niweidio'r babi heb ei eni. 

 

 

A yw'n iawn cymryd meddyginiaethau eraill?

Os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill, rhowch wybod i'ch meddyg, nyrs neu fferyllydd.  Mae nifer fach o feddyginiaethau y gall fod rhaid ichi eu hosgoi. 

 

Weithiau, gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

 

               Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre              029 2061 5888

I gael cyngor brys ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, gofynnwch am y llinell gymorth driniaeth.

 

 

Adran fferylliaeth              029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau.

 

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan        0808 808 0000

 

Llinell gymorth canser                          0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

 

Mae'r wybodaeth hon ar gael yn Saesneg hefyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Mai 2015

Cafodd ei hadolygu yn Ionawr 2019

plain-english (3)