Neidio i'r prif gynnwy

MV Carbo

Taflen wybodaeth ynghylch cemotherapi MV Carbo

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o'r enw MV Carbo.  Bydd y daflen yn egluro beth yw hyn a phryd a sut mae’n cael ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am MV Carbo ar gael ar ddiwedd y daflen.

 

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â 'Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy'n cael cemotherapi'.  Os nad ydych chi wedi cael y daflen hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

Beth yw cemotherapi MV Carbo?

Triniaeth cemotherapi yw hon sy'n cynnwys tri chyffur:

 

  • Mitomycin
  • Vinblastin
  • Carboplatin

 

Pam rydw i'n cael cemotherapi MV Carbo?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r cemotherapi hwn am ei fod wedi’i weld yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser.

 

Pa mor aml fydda i’n cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i'r driniaeth hon fod yn fwyaf effeithiol mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol.  Yr enw ar y rhain yw cylchoedd.  Mae'n arferol cael cylch o MV Carbo unwaith bob tair wythnos am bedwar cylch.  Fe gewch chi’r tri chyffur cemotherapi ym mhob bob cylch, heblaw cylch tri pan gewch chi’r vinblastin a'r carboplatin yn unig.

 

Sut fydd fy nghemotherapi yn cael ei roi?

Bydd y cemotherapi yn cael ei roi trwy ddrip sydd wedi'i gysylltu â nodwydd fach sy’n cael ei gosod yn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, efallai yr awgrymir bod tiwb mân o'r enw llinell PICC yn cael ei osod mewn un o'r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich.  Gall y llinell hon aros yn ei lle ar gyfer eich triniaeth gyfan.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio hyn yn fanylach. 

 

Mae gennyn ni daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC. Gofynnwch os hoffech chi gael copi

 

Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i'ch apwyntiad yn y clinig.  Bydd y driniaeth cemotherapi yn cymryd tuag awr.  Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd gyda'r cemotherapi hwn.  Gall y meddygon, y nyrsys ar thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Colli gwallt

Ddylai'r cemotherapi hwn ddim gwneud ichi golli'ch gwallt.  Er hynny, mae nifer fach o bobl yn gweld rhywfaint o deneuo ar eu gwallt.  Mae gennyn ni daflen ar ymdopi â cholli gwallt.  Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech chi gael copi.

 

Cyfogi

Mae cyfogi a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn gan ein bod ni’n rhoi meddyginiaethau gwrth-gyfogi ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol.  Os byddwch chi’n cyfogi fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrth-gyfogi yn rheolaidd pan fyddwch chi gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis, gall hyn fod yn fygythiol.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch chi’n datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Dolur rhydd

Dyw dolur rhydd ddim yn gyffredin gyda'r cemotherapi hwn.  Ond os byddwch chi’n ysgarthu bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud ichi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol.  Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint.

 

Effeithiau ar eich nerfau

Gall vinblastin effeithio ar y nerfau yn eich bysedd a bysedd eich traed gan roi teimlad o fferdod neu binnau bach.  Efallai y bydd y nerfau i'ch coluddyn hefyd yn cael eu heffeithio.  Gall hyn arwain at rwymedd.  Efallai y bydd rhai cleifion hefyd yn cael poen yn yr ên neu gur pen os effeithir ar y nerfau i'r pen.  Os byddwch chi’n datblygu unrhyw un neu ragor o'r problemau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â'r clinig.

 

Adweithiau o fath alergaidd

Mae nifer fach o gleifion yn profi adwaith i carboplatin sy’n debyg i adwaith alergaidd.  Os bydd hyn yn digwydd efallai y byddwch chi’n teimlo'n boeth neu'n wridog, yn cosi, yn benysgafn neu'n sâl yn gyffredinol wrth dderbyn eich carboplatin.  Mae modd trin hyn yn hawdd.  Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r symptomau uchod.

 

 

Niwed i'r croen a’r feinwe

Gall rhai cyffuriau cemotherapi niweidio'r croen a'r ardal gyfagos os byddan nhw’n gollwng y tu allan i'ch gwythïen.  Yr enw ar hyn yw elifiad.  Mae'n eithriadol o brin ond mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthon ni ar unwaith os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw boen neu losgi yn y fan lle mae’r drip wedi’i osod.  Os bydd hyn yn digwydd tra bo’r cemotherapi yn cael ei roi, dywedwch wrth eich nyrs.  Os byddwch chi’n sylwi ar boen, chwyddo neu gochni pan fyddwch chi gartref, cysylltwch â ni ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi

 

Sgil-effeithiau eraill

Bydd mitomycin yn rhoi lliw glas ar eich wrin yn ddiniwed am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi.  Dywedwch wrthon ni os bydd hyn yn para am fwy na 24 awr.

 

Mae nifer fach o bobl yn datblygu problemau ysgyfaint yn dilyn mitomycin.  Os byddwch chi’n datblygu peswch neu'n sylwi eich bod yn fyr eich gwynt, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Yn achlysurol iawn gall mitomycin niweidio’ch celloedd gwaed a'ch arennau.  Er mwyn lleihau'r risg y bydd hyn yn digwydd, rydyn ni’n cyfrifo'r dos o mitomycin yn ofalus.  Byddwch chi hefyd yn cael profion gwaed rheolaidd.

 

Weithiau mae menywod yn gweld bod triniaeth cemotherapi yn effeithio ar eu mislif.  Gall y mislif fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed beidio yn gyfan gwbl. 

 

Mae'n bwysig nad ydych chi’n beichiogi nac yn cenhedlu plentyn fel tad tra byddwch chi’n cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio'r babi heb ei eni. 

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • â dolur rhydd
  • ag wrin glas am fwy na 24 awr
  • yn datblygu peswch neu'n fyr eich gwynt

 

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

 

 

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.