Neidio i'r prif gynnwy

Modified deGramont 175

Taflen wybodaeth am gemotherapi deGramont addasedig

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw deGramont addasedig.  Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am deGramont ar ddiwedd y llyfryn hwn.

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

 

Beth yw cemotherapi deGramont addasedig?

Triniaeth cemotherapi sydd wedi’i henwi ar ôl yr Athro deGramont yw hon. Dyfeisiodd yr Athro deGramont ddull o roi cemotherapi. Mae’r dull hwnnw wedi’i addasu ers hynny a’i ailenwi’n deGramont addasedig.

 

Mae’r driniaeth cemotherapi hon yn cynnwys dau gyffur:

  • 5-Fluorouracil (5-FU)
  • Asid ffolinig

 

Yn aml, caiff y ddau gyffur hyn eu galw’n MdG yn fyr.

 

Pam ydw i’n cael MdG?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

 

Pa mor aml fyddaf yn cael MdG?

Er mwyn i’r driniaeth fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch o MdG bob pythefnos am rhwng 6 a 12 cylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

 

 

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Er mwyn cael eich cemotherapi, bydd angen i ni osod tiwb mân i wythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Llinyn PICC yw’r enw ar y tiwb hwn. Caiff eich llinyn PICC ei osod ryw wythnos cyn dechrau eich triniaeth. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg yn esbonio hyn i chi yn fanylach. Mae gennym daflen hefyd sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC.

 

Caiff yr asid ffolinig ei roi i chi drwy ddrip dros gyfnod o ddwy awr. Mae’r drip wedi’i gysylltu â’ch llinyn PICC. Mae’r asid ffolinig yn helpu i wneud i ran 5-FU eich triniaeth weithio’n well.

 

Caiff y 5-FU eu rhoi i chi mewn dwy ran:

 

  1. Yn gyntaf, caiff ei roi fel pigiad yn eich llinyn PICC. Mae hyn yn cymryd ychydig funudau.

 

  1.  Caiff ail ran eich 5-FU ei roi mewn pwmp cludadwy bach.

 

    • Caiff y pwmp ei atodi i’ch llinyn PICC
    • Mae’r pwmp yn ffitio i fag y byddwch yn ei wisgo o amgylch eich canol ar wregys
    • Caiff y pwmp ei osod i wacáu dros gyfnod o 46 awr
    • Byddwch yn dychwelyd er mwyn i ni ddatgysylltu’r pwmp. 

 

 

Sut mae gofalu am y pwmp cludadwy?

Byddwn yn dweud wrthych sut mae’ch pwmp yn gweithio a sut i ofalu amdano. Byddwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi.

 

 

Pa mor aml y bydd angen i mi ddod i’r ysbyty?

Er mwyn cael y cemotherapi hwn, bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty dair gwaith ym mhob cylch pythefnos.

 

Ymweliad cyntaf – Apwyntiad yn y clinig i gleifion allanol

Byddwn yn cymryd samplau gwaed a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn fel y gallwn weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhagnodi cemotherapi ar eich cyfer. Mae’r apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

 

 

 

Ail ymweliad – Apwyntiad cemotherapi

Yn yr apwyntiad hwn, byddwch yn treulio rhyw dair awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Dylech ganiatáu hyd at awr yn hwy ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi eich cemotherapi i chi mewn drip. Byddwch yn mynd adref â’ch pwmp cludadwy.

 

Trydydd ymweliad – Datgysylltu’r pwmp

Bydd yr apwyntiad hwn ddeuddydd ar ôl eich apwyntiad cemotherapi. Byddwch yn dychwelyd i un o’r ardaloedd trin achosion dydd er mwyn i ni ddatgysylltu eich pwmp. Dylai hyn gymryd rhyw hanner awr.

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

 

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

 

Nid yw’r rhan fwyaf o gleifion yn cael llawer o sgîl-effeithiau gyda’r math hwn o gemotherapi. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Colli gwallt

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd rhai cleifion yn sylwi bod eu gwallt yn teneuo rywfaint. Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

 

 

 

Salwch

Nid yw’r cemotherapi hwn yn gwneud i bobl deimlo’n sâl fel arfer. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi tabledi gwrthgyfog i chi rhag ofn y bydd hyn yn digwydd.

 

Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r cemotherapi hwn. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

Dolur i’ch dwylo a’ch traed

Mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn, cochni a chwyddo i’ch dwylo neu’ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, argymhellwn eich bod yn defnyddio eli neu drochdrwyth di-bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn ddolurus.

 

Sgîl-effeithiau eraill

Mae rhai cleifion yn cael llygaid dolurus neu ddyfrllyd. Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os bydd hyn yn digwydd.

 

Yn bur anaml, mae pobl sy’n cael y cemotherapi hwn yn cael problemau ar y galon fel angina neu grychguriadau ar y galon. Os byddwch am drafod hyn ymhellach, siaradwch â’ch meddyg.

 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Bod gennych ddolur rhydd

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Mehefin 2004    

Adolygwyd Mai 2013