Neidio i'r prif gynnwy

mifamurtide

Taflen wybodaeth ar driniaeth mifamurtide

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am driniaeth o’r enw mifamurtide.  Bydd yn egluro beth yw hyn, a phryd a sut y bydd yn cael ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth hon ar ddiwedd y daflen.

 

 

Beth yw mifamurtide?

Nid cemotherapi yw mifamurtide. Mae'n fath o driniaeth a elwir yn imiwnotherapi; mae'n gweithio trwy helpu eich system imiwnedd eich hun i ladd y celloedd canser. 

 

 

Pam ydw i'n cael y driniaeth hon?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r driniaeth hon oherwydd canfuwyd ei bod yn effeithiol wrth drin eich math o ganser.  Gall hefyd leihau'r risg o ganser yn dychwelyd.

 


Pa mor aml y byddaf yn cael y driniaeth hon? 

Er mwyn i'r driniaeth gael yr effaith fwyaf, fe'i rhoddir fel arfer ddwywaith yr wythnos am y 12 wythnos gyntaf ac yna unwaith yr wythnos am y 24 wythnos nesaf, sef cyfanswm o 36 wythnos.  Bydd eich meddyg yn trafod â chi am ba mor hir y byddwch yn cael eich triniaeth.

 

Rhoddir y driniaeth hon gyda thriniaeth cemotherapi.  Byddwn yn rhoi taflen wybodaeth ar wahân i chi sy'n dweud mwy wrthych am eich cemotherapi.

 

 

Sut fydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?

I dderbyn eich triniaeth, bydd angen i diwb mân gael ei roi mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich.  Gelwir y tiwb hwn yn llinell PICC.  Fel arfer bydd eich llinell PICC yn cael ei rhoi tua wythnos cyn i chi ddechrau eich triniaeth.  Bydd yn aros i mewn am drwy gydol eich triniaeth.  Bydd eich meddyg yn esbonio hyn i chi yn fwy manwl.  Mae gennyn ni daflen hefyd sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC. 

 

 

Pa mor hir fydd fy nhriniaeth yn ei gymryd?

Dylech fod yn barod i dreulio hyd at 2 awr mewn un o'r unedau dydd yn ysbyty Felindre ar gyfer pob triniaeth.  Dylech ganiatáu mwy o amser ar gyfer eich triniaeth gyntaf gan y bydd angen i ni eich arsylwi am tuag awr ar ôl eich triniaeth gyntaf.

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Fel arfer, byddwch yn gweld y tîm arbenigol bob 3 - 4 wythnos.  Bydd eich tîm yn rhoi gwybod i chi pa mor aml y byddant yn eich gweld.  Fe gewch chi brofion gwaed rheolaidd a byddwn yn gofyn sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi. 

 

 

Sgil-effeithiau posibl:

 

Twymyn, oerfel a symptomau tebyg i ffliw

Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn profi symptomau tebyg i ffliw yn yr ychydig oriau cyntaf ar ôl triniaeth.  Mae'r symptomau hyn yn cynnwys twymyn, poenau yn y cyhyrau ac oerfel. Gellir trin hwn â pharacetamol ac ni ddylai bara mwy nag ychydig oriau.  Yn dilyn eich triniaeth gyntaf, byddwn yn eich arsylwi'n agos i weld a yw'r driniaeth yn effeithio arnoch chi.

 

Os na fydd y symptomau hyn yn setlo o fewn 8 awr i'ch mifamurtide, rhaid i chi gysylltu ag ysbyty Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Risg o haint:

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bydd eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis; gall hyn beryglu bywyd.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Anemia

Weithiau gall Mifamurtide achosi anemia. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd i fonitro hyn. 

 

 

 

Risg o gleisio/gwaedu:

Weithiau mae mifamurtide yn lleihau cynhyrchiant platennau (sy'n helpu'r gwaed i geulo). Bydd hyn yn cynyddu’ch risg o gleisio neu waedu.  Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw gleisio gormodol ar eich corff neu waedu fel gwaedu o'r trwyn neu waedu o'ch deintgig, dylech gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Blinder a lludded

Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn teimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

Cyfog a chwydu / diffyg archwaeth

Mae rhai cleifion yn profi diffyg archwaeth neu gyfog/chwydu gyda Mifamurtide. Mae cyfog a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn gan ein bod ni’n rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol. Fodd bynnag, os byddwch chi’n chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod chi’n cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen. 

 

Cur pen/pendro/fertigo/pwysedd gwaed wedi newid

Efallai y byddwch chi’n cael cur pen tra byddwch chi ar y driniaeth hon. Ceisiwch gymryd paracetamol.  Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Gall mifamurtide hefyd achosi pendro a fertigo. Ceisiwch osgoi gyrru os ydych chi'n profi pendro. Gall mifamurtide achosi pwysedd gwaed isel neu uchel. Rhowch wybod i'ch tîm pan fyddwch yn y clinig os byddwch chi’n profi'r symptomau hyn.

 

Diffyg anadl/peswch

 

Gall rhai pobl ar y driniaeth hon brofi diffyg anadl, anghysur yn y frest neu beswch.   Gall hyn fod yn waeth os ydych yn dioddef o asthma neu gyflyrau eraill ar y frest.  Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

 

 

Effeithiau ar eich coluddion.

 

Mae'n hysbys bod y driniaeth hon yn achosi naill ai rhwymedd neu ddolur rhydd. 

  • Os ydych chi'n profi rhwymedd, mae'n bwysig eich bod chi'n cynyddu faint o hylifau rydych chi'n eu hyfed.  Efallai y bydd angen carthyddion arnoch.  Gallwch siarad â ni neu eich meddyg teulu am gyngor.

 

  • Os ydych chi'n profi dolur rhydd, mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau.  Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd.  Os byddwch yn cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr yn ychwanegol at yr hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Poen yn yr abdomen/diffyg traul

Mae rhai cleifion yn cael diffyg traul a/neu boen yn rhan uchaf yr abdomen. Os yw hyn yn achosi problemau i chi, ffoniwch Ganolfan Ganser Felindre, gan roi gwybod pryd y byddwch yn y clinig nesaf.

 

 

 

 

 

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Sgil-effeithiau eraill:

Efallai y byddwch chi'n profi'r canlynol:

 

  • Mae rhai cleifion yn profi crychguriadau'r galon neu boen yn y frest. Os byddwch chi'n profi'r symptomau hyn, ffoniwch y llinell gymorth driniaeth. Fodd bynnag, os oes gennych boen difrifol yn y frest, ffoniwch 999.

 

  • Poenau yn y cyhyrau neu'r cymalau

 

  • Croen sych/brechau

 

  • Newidiadau yn eich hwyliau - iselder / pryder / dryswch

 

  • Colli clyw

 

  • Anhawster cysgu

 

  • Gwallt yn teneuo

 

  • Diffyg teimlad / pinnau bach

 

Rhowch wybod i'ch tîm pan fyddwch yn y clinig os ydych chi'n profi'r symptomau hyn.

 

Beichiogrwydd:

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi nac tadogi plentyn tra byddwch yn cael y driniaeth hon oherwydd gallai niweidio'r babi heb ei eni.

 

A yw'n iawn cymryd meddyginiaethau eraill gyda mifamurtide?

Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych chi’n cymryd meddyginiaethau eraill.  Mae nifer fach o feddyginiaethau y gall fod rhaid ichi eu hosgoi.  Mae'n bwysig na ddylech gymryd tabledi steroid a dylech hefyd osgoi poenladdwyr gwrthlidiol fel Ibuprofen a Diclofenac (Voltarol).

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre              029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref ac angen cyngor ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu uwch neu’n is na 35.5°C
  • â dolur rhydd - 4 gwaith mewn 24 awr.

 

Adran fferylliaeth              029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan        0808 808 0000

Llinell gymorth canser                          0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

Paratowyd Hydref 2012

Diweddarwyd 2014, Hydref 2018

plain-english (3)