Neidio i'r prif gynnwy

Masitinib

Taflen wybodaeth ar driniaeth masitinib

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o'r enw masitinib.  Bydd y daflen yn egluro beth yw hyn a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi.  Bydd yn dweud wrthych am y sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Bydd yn egluro hefyd, pam ei fod yn gyffur 'heb ei drwyddedu' yn y DU.

 

Rhoddir rhifau ffôn cyswllt ar gyfer Canolfan Ganser Felindre ar ddiwedd y daflen.

 

Beth yw Masitinib?

Mae masitinib yn driniaeth canser newydd sy'n cael ei rhoi fel tabledi. Nid yw'n gemotherapi.  Mae'n gweithio drwy arafu neu atal y canser rhag tyfu.

 

Mae masitinib yn gyffur heb ei drwyddedu ar hyn o bryd.  Byddwn yn egluro hyn isod.

 

Beth yw cyffur heb ei drwyddedu?

Cyn y gall meddygon ragnodi cyffur, mae angen trwydded.  Mae cyffuriau sydd wedi'u trwyddedu wedi profi i fod yn ddiogel ac yn effeithiol.  Ar hyn o bryd, nid yw masitinib wedi cael ei drwyddedu i'w ddefnyddio yn y DU, oherwydd ei fod yn gyffur newydd. 

Mae treialon clinigol wedi cael eu cynnal i brofi diogelwch ac effeithiolrwydd masitinib.  Mae eich ymgynghorydd yn fodlon bod masitinib yn ddiogel ac yn effeithiol.  Byddant yn cymryd cyfrifoldeb am eich monitro tra byddwch yn derbyn y driniaeth hon.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, siaradwch â'ch ymgynghorydd.

 

Pam ydw i'n cael masitinib?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi masitinib oherwydd y canfuwyd ei fod yn effeithiol wrth reoli eich math chi o ganser.

 

Pa mor aml y byddaf yn derbyn masitinib?

Bydd masitinib yn cael ei ragnodi ddwywaith y dydd ar ffurf tabled.

 

Bydd y driniaeth yn parhau cyhyd â'ch bod chi’n ymdopi â masitinib, a’i fod yn gweithio'n dda.

 

Byddwch yn cael apwyntiad clinig bob 4-6 wythnos i adolygu sut rydych yn dod ymlaen gyda’ch triniaeth.

 

Sut ddylwn i gymryd y tabledi masitinib?

Dylid cymryd tabledi masitinib ddwywaith y dydd gyda gwydraid o ddŵr.  Ceisiwch gymryd y tabledi ar yr un pryd bob dydd.  Dylid cymryd masitinib gyda bwyd, ar ôl brecwast a'ch pryd gyda'r nos. 

 

Faint o dabledi fydd angen i mi eu cymryd?

Bydd hyn yn amrywio ar gyfer pob person. Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd cyfuniad o dabledi.  Bydd faint o dabledi sydd angen i chi eu cymryd yn cael ei farcio'n glir ar y bocs.  Cofiwch wirio pob bocs i weld faint o dabledi sydd angen i chi eu cymryd.

 

Sut ddylwn i storio'r tabledi masitinib?

Dylai eich tabledi gael eu storio yn eu deunydd pacio gwreiddiol mewn man diogel allan o afael plant.  Dylid eu cadw mewn lle sych, oer.

 

Dylid dychwelyd unrhyw dabledi sydd heb eu defnyddio i fferyllfa'r ysbyty neu i’ch fferyllydd lleol i gael gwared arnynt yn ddiogel. 

 

A gaf i ddod â ffrindiau a pherthnasau gyda mi?

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Does dim llawer o le, felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Beth yw'r sgîl-effeithiau posibl?

Mae rhai o'r sgîl-effeithiau posibl yn cael eu rhestru isod ond gyda'r holl feddyginiaethau newydd, mae posibilrwydd o ddod o hyd i sgîl-effeithiau eraill, prin gyda masitinib. Mewn achos o'r fath, bydd eich meddyg yn cael ei hysbysu ar unwaith.  

 

Ymysg y cleifion a gafodd eu trin â masitinib ar gyfer canser, dyma oedd y sgîl-effeithiau mwyaf aml:

 

Cadw hylif (oedema) a brech ar y croen

Ymhlith y cleifion sy'n cymryd masitinib, fe wnaeth rhai brofi chwydd yn yr amrannau neu’r wyneb, neu chwydd yn y fferau neu frech ar y croen.  Er mwyn atal y sgîl-effeithiau hyn, bydd cleifion sy'n cael eu trin â masitinib yn derbyn cetirizine hefyd, gwrth-histamin, 10 mg y dydd, a fydd yn cael ei ddechrau ar yr un pryd â masitinib, am 60 diwrnod.  Gall y cyffur hwn wneud i chi deimlo'n gysglyd, felly dylid ei gymryd yn ystod amser gwely gyda'r nos.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond gwnewch eich gweithgareddau arferol os ydych chi'n teimlo fel eich bod chi’n gallu gwneud hyn.  I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol, yn ogystal â gorffwys.

 

Problemau croen

Bydd rhai cleifion yn datblygu croen sych neu frech.  Fel arfer, gellir trin hyn yn hawdd gyda rhywfaint o hufen neu eli heb eu persawru.  Weithiau, ond dim yn aml iawn, gall y frech hon fod yn ddifrifol.  Os oes gennych frech gyda phothelli neu os yw'n boenus, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi masitinib a ffonio Canolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Dolur rhydd

Efallai y bydd gennych ddolur rhydd.  Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod chi’n yfed digon o hylif.  Byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi ei gymryd os ydych chi'n cael dolur rhydd. 

 

Dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi masitinib a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os:

  • ydych yn cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr yn ychwanegol at yr hyn sy'n arferol i chi.
  • ydych chi'n deffro gyda'r nos gyda dolur rhydd.  

 

Dylech gysylltu â ni hefyd os oes gennych unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu gynnydd yn symudiadau'r coluddyn sy'n para am fwy na 3 diwrnod.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau, oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn sy'n helpu i ymladd heintiau gael eu lleihau gan y driniaeth hon.  Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i'r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°canradd.  Mae'r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn, gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrth-salwch i chi sydd fel arfer yn effeithiol iawn.  Os ydych chi’n sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl cael eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Poen yn eich dwylo a'ch traed

Efallai y byddwch chi'n profi poen ysgafn, cochni, chwyddo a phothelli yn eich dwylo neu'ch traed.  Gall hufenau lleithder helpu os bydd hyn yn datblygu. Os nad yw'r dolur yn setlo neu os yw pothelli yn dod yn broblem, yna efallai y bydd angen i'ch tîm meddygol newid dos eich triniaeth neu ei stopio am gyfnod.

 

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Efallai y bydd rhai cleifion yn cael myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu'r cymalau.  Weithiau, gall hyn fod yn ddifrifol, ond dim ond am ychydig ddyddiau y bydd yn para.  Os oes gennych chi gyffuriau lladd poen gartref yn barod, efallai y byddwch yn gweld eu bod yn lleddfu'r boen.  Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae'r rhif ffôn ar dudalen 7

 

Clotiau gwaed

Mae cael eich diagnosio gyda chanser yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), ac mae triniaeth canser yn gallu cynyddu'r risg hwn ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn eich brest.

 

Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau yn llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Sgîl-effeithiau eraill

Llygaid dyfrllyd a dolurus

Mae rhai cleifion yn profi llygaid dyfrllyd a dolurus.  Dywedwch wrth eich meddyg neu eich nyrs yn eich apwyntiad clinig nesaf os bydd hyn yn digwydd.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus, neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi, i atal neu glirio unrhyw haint.

 

 

Mae'n bwysig nad ydych chi'n mynd yn feichiog neu’n dod yn dad i blentyn wrth gael y driniaeth hon, gan y gallai niweidio'r babi heb ei eni. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt:

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth driniaeth os byddwch yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.   Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Os oes gennych dymheredd o 37.5°C neu fwy
  • Os ydych yn cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr uwchben yr hyn sy'n arferol i chi
  • Oes gennych chi geg ddolurus iawn.
  • Os oes gennych ddwylo neu draed dolurus iawn

 

 

Fferyllfa              029 2061 5888 (est 6223)

Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus                         

 

 

.

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Mae wedi cael ei chymeradwyo gan dîm o feddygon, nyrsys a chleifion.  Mae'n cael ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.