Neidio i'r prif gynnwy

Kadcyla® (Trastumzumab Emtansine)

Taflen wybodaeth ynghylch Kadcyla® (Trastumzumab Emtansine)

                      

 

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i gleifion sy'n cael triniaeth â Kadcyla. Bydd y daflen yn egluro beth yw Kadcyla a phryd a sut mae’n cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am Kadcyla ar gael ar ddiwedd y daflen.

 

 

Beth yw Kadcyla a sut mae'n gweithio?

Mae Kadcyla wedi'i wneud o ddau gyffur gwahanol sy'n gweithio gyda'i gilydd:

 

  1. Cyffur gwrthgorff monoclonaidd: mae hwn yn ei gysylltu ei hun â derbynyddion HER-2 ac yn atal celloedd canser rhag ymrannu a thyfu. Mae derbynyddion HER-2 (ffactor twf epidermaidd dynol 2) i'w cael y tu allan i rai celloedd canser ac mae'n ysgogi eu twf.
  2. Cyffur cemotherapi: Mae hyn hefyd yn atal celloedd rhag tyfu ac ymrannu   

 

Pa mor aml fydda i’n cael Kadcyla?

Er mwyn i'r driniaeth hon fod yn fwyaf effeithiol, mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae'n arferol cael Kadcyla bob tair wythnos. Bydd union nifer y triniaethau y byddwch chi’n eu cael yn cael ei drafod gyda chi.

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwn yn gadael ichi wybod pa mor aml y bydd angen ichi gael eich adolygu, sef naill ai yn y clinig cleifion allanol neu drwy adolygiad dros y ffôn. Bydd angen prawf gwaed arnoch cyn pob triniaeth.  Ym mhob ymweliad bydd y nyrs sy'n rhoi eich Kadcyla yn gofyn sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.

 

Sut mae Kadcyla yn cael ei roi?

Mae Kadcyla yn cael ei roi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu yn eich braich. Ond weithiau, os yw'n anodd dod o hyd i'ch gwythiennau, efallai yr awgrymir bod tiwb mân o'r enw PICC yn cael ei osod mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd hwn yn aros yn ei le trwy gydol eich triniaeth.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi, os bydd angen. Mae gennyn ni daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC.

 

Ble fydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?

Fe allai’ch triniaeth fod yn un o'r mannau trin achosion dydd yn Felindre neu mewn ysbyty sy'n nes at eich cartref. 

 

 

Pa mor hir fydd fy apwyntiad yn ei gymryd?

Bydd eich Kadcyla cyntaf yn cael ei roi’n arafach a byddwn yn arsylwi arnoch am ryw awr a hanner ar ôl y trwyth i wirio eich bod chi’n iawn.  Gall eich apwyntiad cyntaf gymryd tua phedair awr. 

 

Bydd eich ail driniaeth Kadcyla yn cael ei roi ychydig yn gyflymach. Mae'r apwyntiad hwn yn cymryd tua dwy awr a hanner.

 

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Ar hyn o bryd, oherwydd yr angen i gadw pellter o 2m rhwng cleifion yn ystod COVID-19, nid ydym fel arfer yn caniatáu i unrhyw un aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Os oes gennych unrhyw bryderon am hyn, siaradwch â'ch tîm cyn i'ch triniaeth ddechrau. Efallai y gallwn wneud rhai eithriadau ond bydd angen inni fod yn ymwybodol o hyn cyn diwrnod y driniaeth.

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn goddef triniaeth Kadcyla yn dda iawn, heb fawr o sgil-effeithiau.  Er hynny, mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd. Gall y meddygon, y nyrsys a thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Adweithiau yn ystod y driniaeth

Gall rhai cleifion brofi adwaith ar yr adeg y bydd y Kadcyla yn cael ei roi. Dyna pam mae’r driniaeth gyntaf yn cael ei rhoi’n arafach.  Bydd nyrs yn eich monitro'n agos yn ystod y driniaeth.

 

Os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r canlynol yn ystod y driniaeth, dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith:

 

  • Teimlo'n boeth ac yn llawn twymyn
  • Datblygu tymheredd
  • Oerni neu grynu
  • Pen tost
  • Pendro neu lewygu
  • Problemau anadlu
  • Brech neu gosi
  • Teimlo'n sâl neu chwydu
  • Chwyddo yn yr wyneb/ceg (mae hyn yn anghyffredin)
  • Poen yn y cefn, yr abdomen neu'r frest

 

Os bydd unrhyw un neu ragor o'r rhain yn digwydd byddwn ni’n arafu neu'n atal y Kadcyla nes eich bod chi'n teimlo'n well. Os bydd angen, byddwn yn rhoi meddyginiaeth ichi i helpu gyda'r symptomau. Yna gall y driniaeth ddechrau eto, yn aml heb unrhyw broblemau pellach.

 

Weithiau gall cleifion brofi tymheredd/crynu/teimlo'n sâl gartref ar ôl y trwyth ar y diwrnod cyntaf. Os bydd hyn yn digwydd, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis, gall hyn fod yn fygythiol.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

 

Effeithiau ar nerfau eich dwylo a'ch traed

Gall Kadcyla effeithio ar nerfau eich dwylo a'ch traed.  Gall hyn arwain at golli teimlad, tinglo neu binnau bach.  Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â'r clinig.

 

Gall y symptomau hyn gynyddu wrth ichi gael mwy o gylchoedd o gemotherapi. Os cewch chi’r symptomau hyn, mae'n bwysig bod yn hynod ofalus wrth amlygu'ch dwylo a'ch traed i dymheredd poeth neu oer. Mae'r symptomau hyn fel arfer yn diflannu o fewn ychydig fisoedd ar ôl gorffen eich triniaeth.

 

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Gall rhai cleifion brofi myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu'r cymalau.  Gall hyn fod yn ddifrifol weithiau ond dim ond am ychydig ddyddiau y bydd yn para.  Os oes gennych chi boenladdwyr gartref yn barod, efallai y byddwch chi'n gweld bod y rhain yn lleddfu'r boen.  Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae'r rhifau ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Niwed i'r croen a’r feinwe

Gall rhai cyffuriau cemotherapi niweidio'r croen a'r ardal gyfagos os byddan nhw’n gollwng y tu allan i'ch gwythïen.  Yr enw ar hyn yw elifiad.  Mae'n eithriadol o brin ond mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthon ni ar unwaith os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw chwyddo, poen neu losgi yn y fan lle mae’r drip wedi’i osod.  Os bydd hyn yn digwydd tra bo’r cemotherapi yn cael ei roi, dywedwch wrth eich nyrs.  Os byddwch chi’n sylwi ar boen, chwyddo neu gochni pan fyddwch chi gartref, cysylltwch â ni ar unwaith ac mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen

 

 

Problemau calon

Mae triniaeth Kadcyla yn gallu achosi problemau gyda'r galon. Bydd y rhain fel arfer yn gwella pan ddaw’r driniaeth Kadcyla i ben neu pan fydd wedi'i chwblhau. Bydd eich meddyg yn trafod hyn gyda chi ac yn trefnu i weithrediad eich calon gael ei brofi cyn ichi ddechrau Kadcyla. Bydd gweithrediad eich calon yn cael ei fonitro bob tri neu bedwar mis yn ystod blwyddyn gyntaf y driniaeth. Byddwn ni hefyd yn gwirio’ch pwysedd gwaed ac yn monitro’ch pwysau yn rheolaidd. 

 

Os oes gennych chi gyflwr ar y galon yn barod neu os ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer y galon, dywedwch wrth eich meddyg yn Felindre cyn ichi ddechrau triniaeth gyda Kadcyla. Os byddwch chi'n datblygu problemau gyda'r galon tra byddwch chi ar Kadcyla fe allai hynny gael ei drin â thabledi. Mae'n bwysig iawn peidio â rhoi'r gorau i gymryd unrhyw dabledi sydd wedi’u rhoi ichi ar gyfer problemau'r galon heb drafod hyn gyda'ch meddyg neu’ch nyrs arbenigol yn Felindre.

 

Os byddwch chi unrhyw bryd yn ystod eich triniaeth yn datblygu problem newydd neu broblem sy'n gwaethygu gyda diffyg anadl, yn enwedig wrth orffwys, peswch, tyndra yn y frest, cadw hylif (chwydd) yn eich breichiau neu'ch coesau, crychguriadau'r galon (dirgryniad y galon neu guriad calon afreolaidd), teimlo'n benysgafn, cysylltwch â’r llinell gymorth triniaeth. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

Er hynny, os byddwch chi’n profi unrhyw boen yn y frest, ffoniwch 999.

 

Problemau ysgyfaint:

Gall nifer fach o gleifion ddatblygu problemau ysgyfaint. Os byddwch chi’n teimlo'n fyr eich gwynt wrth orffwys, yn datblygu peswch parhaus newydd neu dyndra yn y frest, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Teimlo’n gyfoglyd:

Os byddwch chi'n teimlo'n gyfoglyd ar ôl eich triniaeth, gall meddyginiaeth wrth-gyfogi helpu. Ffoniwch y llinell gymorth triniaeth os ydych chi’n teimlo'n gyfoglyd a bod angen meddyginiaeth wrth-gyfogi arnoch neu os nad yw'r feddyginiaeth yn helpu.

 

Teimlo'n llawn twymyn:

Os byddwch chi’n teimlo cryndod/oerni/twymyn ar noson eich triniaeth, gallwch gymryd paracetamol 4-6 awr ar wahân, uchafswm o wyth mewn 24 awr. Ond, os oes arnoch chi angen wyth mewn 24 awr, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth.

Mae sgil-effeithiau cyffredin eraill y gallech eu profi yn ystod y dyddiau cyntaf ar ôl y driniaeth yn cynnwys:

 

  • Dolur rhydd
  • Rhwymedd
  • Blinder
  • Pen tost / Cur pen 
  • Pendro
  • Poen yn yr abdomen
  • Anhawster cysgu
  • Ceg ddolurus
  • Doluriau ceg
  • Blas wedi'i newid

 

Fel arfer dim ond ychydig ddyddiau y mae'r sgil-effeithiau hyn yn para. Os byddwch chi'n teimlo'n sâl iawn neu eisiau rhagor o gyngor, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Anemia a phlatennau isel:

Os ydych chi'n teimlo'n flinedig, yn fyr eich gwynt neu'n sylwi ar gleisio neu waedu gormodol, ffoniwch y llinell gymorth triniaeth. Byddai hyn i'w ddisgwyl fel arfer mewn cleifion sy'n cael cemotherapi gyda Kadcyla.

 

Clotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi

 

 

Rhagor o wybodaeth

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi tra byddwch chi'n cael triniaeth Kadcyla, nac am saith mis ar ôl cwblhau'r driniaeth. Rydyn ni’n argymell na ddylech chi fwydo ar y fron yn ystod y driniaeth nac am o leiaf chwe mis ar ôl cwblhau'r driniaeth.

 

Cymryd meddyginiaeth arall gyda Kadcyla?

Gall Kadcyla aros yn eich corff am hyd at chwe mis ar ôl ichi orffen y driniaeth.  Yn ystod yr amser hwn dylech chi ddweud wrth eich meddyg neu’ch fferyllydd eich bod wedi cael Kadcyla cyn dechrau unrhyw feddyginiaethau newydd.

Peidiwch â chymryd meddyginiaeth dros y cownter, meddyginiaethau llysieuol neu feddyginiaethau amgen.

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

 

 

 

                     Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.

 

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

saith diwrnod yr wythnos 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ganser

 

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

saith diwrnod yr wythnos 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ganser

 

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Mae'r daflen wedi'i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys, fferyllwyr a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

Wedi’i hysgrifennu Mai 2020