Neidio i'r prif gynnwy

IrMdG 179

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi a elwir yn irinotecan, 5 fluorouracil (5-FU) ac asid ffolinig. Bydd yn egluro beth yw hyn a phryd a sut y caiff ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am y sgil effeithiau cyffredin y gallwch eu cael. Mae rhifau ffôn i gysylltu a manylion am sut mae cael gwybodaeth bellach am y cemotherapi hwn yn cael eu rhoi ar ddiwedd y daflen. 

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â’r daflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’.  Os nad ydych wedi cael y daflen hon yna cofiwch ofyn i’ch nyrs am gopi. 

Beth yw cemotherapi irinotecan, 5-FU ac asid ffolinig?             

Mae’r driniaeth gemotherapi hon yn cynnwys tri chyffur. Mae dau gyffur cemotherapi a elwir yn irinotecan a 5-FU.  Yr enw ar y cyffur arall yw asid ffolinig. Nid cyffur cemotherapi mo hwn ond mae’n helpu i’r 5-FU weithio’n well. 

Byddwn hefyd yn rhoi meddyginiaeth i chi o’r enw atropine.  Mae hwn yn cael ei roi fel pigiad. Mae’n rhwystro rhai o’r sgil effeithiau sy’n gallu codi.  

Gyda’i gilydd mae’r cyffuriau hyn yn cael eu galw yn irinotecan a deGramont wedi ei addasu neu IrMdG yn fyr. 

Pam ydw i’n cael cemotherapi IrMdG?

Mae’ch meddyg wedi dewis IrMdG am ei fod wedi dangos ei fod yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser. 

Pa mor aml byddaf i’n cael fy nghemotherapi? 

Er mwyn i’r driniaeth fod ar ei mwyaf effeithiol mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Cylchredau yw’r enw ar y rhain. Mae’n arferol cael cylchred o IrMdG bob pythefnos am hyd at 12 cylchred. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi’r union nifer o gylchredau y byddwch yn eu cael. 

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi? 

Er mwyn cael eich cemotherapi bydd angen i chi gael tiwb bach wedi ei roi mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Enw’r tiwb hwn yw llinell PICC. Fel arfer bydd eich llinell PICC yn cael ei gosod tuag wythnos cyn ichi ddechrau ar eich cemotherapi. Bydd yn aros ynoch chi drwy gydol cwrs eich triniaeth. Bydd eich meddyg yn egluro hyn wrthych yn fwy manwl. Mae gennym daflen hefyd sy’n dweud mwy wrthych chi am linellau PICC. 

Byddwn yn rhoi meddyginiaeth rhag salwch a’r pigiad atropine i chi. Mae’r irinotecan yn cael ei roi drwy ddrip wedi ei gysylltu â’ch llinell PICC. Bydd hyn yn cymryd tua 30 munud. Yna mae’r asid ffolinig yn cael ei roi drwy ddrip dros 1 awr.   

Caiff y 5-FU ei roi i chi mewn dwy ran:

  • Yn gyntaf caiff ei roi fel chwistrelliad i’ch llinell PICC. Mae hyn yn cymryd ychydig funudau. 
  • Mae ail ran eich 5-FU yn cael ei roi mewn pwmp bach y gallwch ei gario
  • Mae’r pwmp wedi ei gysylltu â’ch llinell PICC
  • Mae’r pwmp yn ffitio mewn bag (bwmbag) y byddwch yn ei wisgo am eich canol ar wregys 
  • Mae’r pwmp wedi ei osod i wagio dros 46 awr
  • Yna bydd angen i chi ddod yn ôl i ddatgysylltu’r pwmp. 

Sut ydw i’n edrych ar ôl y pwmp cario? 

Byddwn yn dweud wrthych sut mae’ch pwmp yn gweithio a sut mae gofalu amdano. Byddwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi. 

Pa mor aml bydd rhaid i mi ddod i’r ysbyty?

Er mwyn cael y cemotherapi hwn bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty dair gwaith ym mhob cylchred pythefnos. 

Ymweliad 1af – Apwyntiad clinig cleifion allanol

Bydd samplau gwaed yn cael eu cymryd gennych a byddwn yn cael gweld sut ydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych chi. Mae hyn fel y gallwn weld sut mae’r cemotherapi yn gweithio i chi. Os bydd eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, caiff eich cemotherapi ei ragnodi. Bydd yr apwyntiad hwn fel arfer ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi. 

Ail ymweliad – Apwyntiad cemotherapi 

Yn yr apwyntiad hwn byddwch yn treulio tua 3 awr yn un o’r mannau triniaeth achosion dydd. Caniatewch awr yn hirach ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth rhag salwch a’ch cemotherapi i chi mewn drip. Byddwch yn mynd adref gyda’ch pwmp cario yn cynnwys 5-FU.

3ydd ymweliad – Datgysylltu’r pwmp 

Mae’r apwyntiad hwn 2 ddiwrnod ar ôl eich apwyntiad cemotherapi. Byddwch yn mynd yn ôl i un o’r mannau triniaeth achosion dydd i gael datgysylltu’ch pwmp cario. Dylai hyn gymryd tua hanner awr.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng yn yr ystafelloedd aros a’r ystafelloedd triniaeth ac felly fel arfer nid oes lle i fwy nag un person. Nid yw’r mannau triniaeth yn lleoedd addas i blant ifanc. 

Beth yw’r sgil effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil effeithiau posibl sy’n gallu digwydd gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.  

Colli gwallt

Gallwch golli’ch gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Dim ond dros dro y bydd hynny. Bydd eich gwallt yn tyfu yn ei ôl pan ddaw’ch triniaeth i ben. Gallwn drefnu gwallt gosod os mynnwch. Gofynnwch i’ch nyrs am fwy o wybodaeth. Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.  

Salwch 

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin y dyddiau hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaeth rhag salwch i chi sydd fel arfer yn effeithiol dros ben. Os byddwch yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er gwaethaf cymryd meddyginiaeth rhag salwch yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

Haint      

Mae’ch risg o ddal heintiau yn uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre yn syth os bydd gennych unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i’r ffliw neu wres uwch na 37.5°canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

Dolur rhydd

Mae dolur rhydd yn sgil effaith cydnabyddedig i irinotecan a 5-FU fel ei gilydd. Gall hyn ddigwydd cyn pen 24 awr wedi’r driniaeth neu ar ôl tua phum niwrnod ar ôl dechrau’r driniaeth. 

Dolur rhydd cyn pen 24 awr wedi’r driniaeth 

Gall dolur rhydd sy’n dod ar adeg y driniaeth neu hyd at 24 awr ar ôl cael irinotecan a 5-FU ddod gyda symptomau eraill. Er enghraifft chwysu, poenau stumog, llygaid yn dyfrio, golwg aneglur neu benysgafnder. Bydd y pigiad atropine a roddwn i chi cyn eich triniaeth fel arfer yn rhwystro’r symptomau hyn. 

Nid ydym yn argymell eich bod yn cymryd tabledi rhag dolur rhydd gyda’r math hwn o ddolur rhydd. Os byddwch yn cael dolur rhydd neu unrhyw rai o’r symptomau a ddisgrifiwyd cyn pen y 24 awr gyntaf ar ôl y driniaeth cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre yn syth am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.   

Dolur rhydd yn dechrau fwy na 24 awr wedi’r driniaeth 

Byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi i helpu i ddod â’r dolur rhydd i ben. Tabledi o’r enw loperamide yw’r rhain.  Dylech gymryd y rhain fel a ganlyn:

  • Cymerwch ddwy dabled loperamide y tro cyntaf y cewch y dolur rhydd, ac yna un dabled bob 2 awr am o leiaf 12 awr. Mae’n rhaid i chi ddal ati i gymryd y tabledi loperamide tan y byddwch wedi bod 12 awr heb ddolur rhydd. Fodd bynnag, peidiwch â’u cymryd am fwy na 48 awr.        
  • Os bydd y dolur rhydd yn parhau am fwy na 24 awr dylech gymryd y tabledi gwrthfiotig a roddir i chi. Enw’r rhain yw ciprofloxacin.  Cymerwch y rhain yn ôl y cyfarwyddiadau ar y blwch. Dylech hefyd gysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

Mae’n bwysig eich bod yn yfed digonedd o ddŵr a hylifau ychydig yn hallt os oes dolur rhydd arnoch. Mae’r rhain yn cynnwys dŵr soda, dŵr carbonedig a chawliau.  

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig nag arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen i chi wneud, ond ewch ynghylch eich gweithgareddau arferol os teimlwch y gallwch. Bydd rhai pobl yn ei chael yn fuddiol i wneud ymarfer ysgafn yn ogystal â chael gorffwys. 

Ceg boenus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn boenus neu eich bod yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen gemotherapi gyffredinol. Gall eich meddyg roi cegolchion neu feddyginiaeth i rwystro neu glirio unrhyw haint.  

Poen yn eich dwylo a’ch traed

Gallwch gael poen ysgafn, cochni a chwyddo yn eich dwylo neu’ch traed. Os digwydd hyn rydym yn argymell defnyddio eli neu drwyth heb bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn mynd yn boenus. 

Sgil effeithiau eraill

Bydd merched weithiau yn canfod bod triniaeth cemotherapi yn effeithio ar eu mislif. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu stopio’n gyfan gwbl. 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi neu’n cenhedlu plentyn pan fyddwch dan driniaeth cemotherapi gan y gall cemotherapi niweidio’r baban yn y groth.  

Gall cemotherapi gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Mae’n well osgoi golau haul cryf, gwisgo het a defnyddio eli rhag haul. 

Yn anaml iawn gall pobl ar y cemotherapi hwn gael problemau gyda’r galon fel angina neu grychguriadau. Os ydych am drafod hyn ymhellach mynnwch air â’ch meddyg.                             

Taflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu rhoi allan fel mater o drefn, am nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau. Gallant hefyd fod yn anodd eu darllen. Fodd bynnag, gofynnwch os hoffech gael copi.      

Rhifau ffôn i gysylltu

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn mynd yn sâl gartref ac angen sylw brys ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft dylech ffonio os byddwch:

  • Yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr 
  • Â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • Â dolur rhydd  
  • Â’ch dwylo a’ch traed yn boenus dros ben 

Yr Adran Fferylliaeth 029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – Dydd Gwener 9am – 5pm am ymholiadau am eich meddyginiaeth 

Llinell gymorth canser  0808 808 1010

Tenovus - rhadffôn

Dydd Llun – Dydd Gwener 9am – 4.30pm am ymholiadau cyffredinol am ganser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi ei seilio ar dystiolaeth. Mae hi wedi ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru’n flynyddol.