Neidio i'r prif gynnwy

Gemcitabine a carboplatin 322

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw gemcitabine a carboplatin. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a sut a phryd y caiff ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi gemcitabine a carboplatin?

Triniaeth cemotherapi sy’n cynnwys dau gyffur sy’n cael eu rhoi mewn drip yw hon:

  • Gemcitabine 
  • Carboplatin 

Pam ydw i’n cael cemotherapi gemcitabine a carboplatin? 

Mae’ch meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael ei galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch o carboplatin a gemcitabine bob pedair wythnos am hyd at chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael gyda chi.

Ym mhob cylch, byddwch yn cael cemotherapi ddwywaith, mae’r rhain yn cael eu galw’n driniaethau dydd 1 a dydd 8. Caiff y gemcitabine ei roi ar ddydd 1 a dydd 8 hefyd. Caiff carboplatin ei roi ar naill ai dydd 1 neu ddydd 8. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio hyn i chi yn fanylach.

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

Bydd eich triniaeth cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad yn y clinig fel arfer. Bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty dair gwaith ym mhob cylch pedair wythnos:

Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – byddwch yn cael prawf gwaed a byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhagnodi cemotherapi i chi. Bydd yr apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

Os ydych yn byw’n bell i ffwrdd, mae’n bosibl y caiff eich cemotherapi ei drefnu ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig. Mae bob amser oedi rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi. Os yw’ch cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty am rhwng pedair a chwe awr.

Dydd 1 - Apwyntiad cemotherapi – byddwch yn treulio hyd at 1½ awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Dylech ganiatáu hanner awr ychwanegol ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog a’ch cemotherapi i chi.

Dydd 8 - Apwyntiad cemotherapi – bydd angen i chi ganiatáu rhwng dwy a thair awr ar gyfer yr ymweliad hwn. Byddwn yn cymryd sampl gwaed. Byddwn yn gwirio’r canlyniad cyn gall y fferyllfa roi eich cemotherapi i chi. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog a’ch cemotherapi i chi.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, mae’n bosibl y byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei osod yn un o’r gwythïennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn barhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio hyn yn fanylach i chi.

Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, i nifer fach o bobl bydd eu gwallt yn teneuo rywfaint.

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli eich gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Symptomau sy’n debyg i’r ffliw 

Gall rhyw 20% o gleifion gael symptomau sy’n debyg i’r ffliw yn y 48 awr cyntaf ar ôl triniaeth gemcitabine. Mae hyn yn ysgafn ac yn fyrhoedlog fel arfer. Gallai symptomau gynnwys twymyn, fferru, dolur yn y cyhyrau, pen tost a blinder. Os bydd eich tymheredd yn uwch na 37.5 oC, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Newidiadau i’r croen

Gall gemcitabine achosi brech goslyd yn achos rhai cleifion. Mae meddyginiaeth ar gael i drin hon felly dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os bydd hyn yn digwydd.

Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gweld bod eich fferau’n chwyddo rywfaint. Nid yw hyn yn ddifrifol fel arfer a bydd yn dod i ben pan fydd y driniaeth wedi’i chwblhau.

Adwaith o fath alergaidd

Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith o fath alergaidd i carboplatin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n boeth neu’n goch, yn goslyd, yn benysgafn neu’n sâl yn gyffredinol wrth gael eich carboplatin. Mae modd trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch yn cael unrhyw un o’r symptomau hyn.

Sgîl-effeithiau eraill 

Mae rhai cleifion yn cael anghysur ar hyd yr wythïen pan gaiff gemcitabine ei roi mewn drip. Gall y broblem hon ddigwydd yn amlach wrth i chi gael mwy o driniaethau. Bydd gosod llinyn PICC yn atal y broblem hon rhag digwydd. Os hoffech ragor o wybodaeth, siaradwch â’ch nyrs neu’ch meddyg.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Bod gennych ddolur rhydd

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.