Neidio i'r prif gynnwy

Gem-P 456

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw Gem-P.  Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am Gem-P ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi Gem-P?

Triniaeth cemotherapi sy’n cynnwys tri chyffur yw hon: 

  • Cisplatin
  • Gemcitabine
  • Methylprednisolone

Pam ydw i’n cael cemotherapi Gem-P? 

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin lymffoma.

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn cael fy nghemotherapi? 

Bydd angen cyfres o brofion gwaed arnoch cyn dechrau eich cemotherapi. Gall un o’r profion gwaed hyn gynnwys EDTA. Prawf gwaed yw hwn sy’n ein helpu i wirio bod eich arennau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â’r cemotherapi.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch Gem-P bob pedair wythnos am hyd at bedwar cylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Caiff cemotherapi gemcitabine a cisplatin eu rhoi drwy ddrip wedi’i gysylltu â nodwydd fach sy’n cael ei gosod yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi i mewn i un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn barhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn yn fanylach gyda chi. Mae gennym daflen wybodaeth sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. 

Caiff y methylprednisolone ei roi fel tabledi. Dylech ei gymryd unwaith y dydd am bum niwrnod, yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf pob cylch. Dylech ei gymryd gyda bwyd, yn y bore yn ddelfrydol. Bydd nifer y tabledi y bydd angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y blwch.

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

Er mwyn cael eich triniaeth cemotherapi Gem-P, bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty bedair gwaith ym mhob cylch pedair cylch: 

Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – byddwch yn cael prawf gwaed a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhagnodi cemotherapi ar eich cyfer. Bydd yr apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi dydd 1 fel arfer.

Apwyntiad cemotherapi dydd 1 -  byddwch yn treulio rhyw awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Dylech ganiatáu awr ychwanegol ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog a’r cemotherapi gemcitabine i chi mewn drip.

Apwyntiad cemotherapi – dydd 8 – bydd angen i chi ganiatáu rhyw ddwy neu dair awr ar gyfer yr ymweliad hwn ag un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Byddwn yn cymryd sampl gwaed gennych. Caiff y canlyniad ei wirio cyn i’r adran fferyllol baratoi eich cemotherapi. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog a’r cemotherapi gemcitabine i chi mewn drip.

Cael cemotherapi – dydd 15 byddwn yn mynd â chi i’r ward cemotherapi (yn gyfarwydd hefyd fel Ward y Dywysoges Margaret) am noson. Byddwn yn rhoi’r cemotherapi gemcitabine a cisplatin i chi mewn drip. Caiff eich cysylltu â’r drip yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty. Caiff y drip ei atodi i stand cludadwy gydag olwynion felly byddwch yn gallu symud o amgylch ardal y ward. Os bydd angen cymorth arnoch, bydd nyrs wrth law. 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a thriniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

Oriau ymweld ar gyfer Ward y Dywysoges Margaret yw 2 – 5pm a 6 – 8pm. 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd rhai cleifion yn sylwi bod eu gwallt yn teneuo rywfaint. Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. Mae rhai pobl yn arbennig o flinedig ar ôl triniaeth gemcitabine. Os bydd hyn yn effeithio arnoch chi, nid yw’n ddoeth gyrru. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Effaith ar eich arennau

Gall cisplatin effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Bydd y prawf gwaed y byddwch yn ei gael cyn eich cemotherapi’n gwirio pa mor dda mae eich arennau’n gweithio ar ddechrau’r driniaeth. Byddwn hefyd yn eich monitro’n ofalus drwy gymryd profion gwaed rheolaidd drwy gydol eich triniaeth.

Rydym bob amser yn rhoi cisplatin gyda digonedd o hylifau yn y drip er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau am o leiaf ddeuddydd ar ôl pob triniaeth. Rydym yn awgrymu cael cwpanaid neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.

Symptomau sy’n debyg i’r ffliw 

Mae rhyw 20% o gleifion yn cael symptomau sy’n debyg i’r ffliw yn y 48 awr gyntaf ar ôl triniaeth gemcitabine. Nid yw hyn yn ddifrifol ac mae’n fyrhoedlog fel arfer. Gallai symptomau gynnwys twymyn, fferru, cyhyrau poenus, pen tost a blinder. Os yw’ch tymheredd yn uwch na 37.5oC, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Newidiadau i’r croen 

Gall gemcitabine achosi brech goslyd yn achos rhai cleifion. Mae meddyginiaeth ar gael i’w thrin felly dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os bydd hyn yn digwydd.

Effeithiau ar eich nerfau 

Gall cisplatin niweidio nerfau eich dwylo a’ch traed. Mae’n bosibl y byddwch yn colli teimlad neu’n cael newidiadau mewn synhwyriad fel goglais neu binnau bach. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig dweud wrth eich meddyg os bydd hyn yn digwydd fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

Gall cisplatin niweidio’r nerfau sy’n gyfrifol am glyw hefyd ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli eich clyw i ryw raddau a gallai hyn fod yn barhaol.  

Sgîl-effeithiau eraill

Mae’n bosibl y byddwch yn sylwi ar chwyddo i’ch fferau. Nid yw hyn yn ddifrifol fel arfer a bydd yn dod yn ben pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben. Bydd rhai cleifion yn cael anghysur ar hyd yr wythïen o roi gemcitabine fel drip. Dywedwch wrth eich nyrs os bydd hyn yn digwydd.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Sgîl-effeithiau tabledi methylprednisolone 

Wrth gymryd y tabledi hyn, mae’n bosibl y byddwch yn sylwi ar:

  • Awydd cynyddol am fwyd
  • Diffyg traul
  • Hwyliau ansad, sensitifedd ac anhawster cysgu
  • Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n fwy sychedig ac yn pasio mwy o wrin na’r arfer. Gallai hyn fod yn arwydd o gynnydd yn eich lefelau siwgr gwaed. Os ydych yn ddiabetig, gallai hyn fod yn broblem benodol. Os byddwch yn cael hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Bod gennych ddolur rhydd 

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.