Neidio i'r prif gynnwy

FEC-T 388 a 476

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw FEC-T. Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am FEC-T ar ddiwedd y daflen.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi FEC-T?

Mae cemotherapi FEC-T yn cynnwys 2 driniaeth wahanol. FEC yw’r driniaeth gyntaf, ac mae’n cynnwys 3 chyffur:

  • 5 Fluorouracil (5-FU)
  • Epirubicin
  • Cyclophosphamide

Mae’r driniaeth hon yn cael ei dilyn gan gyffur o’r enw Taxotere. Gyda’i gilydd, mae’r ddwy driniaeth yn cael eu hadnabod fel FEC-T. 

Pam ydw i’n cael cemotherapi FEC-T?

Mae eich meddyg wedi argymell y cemotherapi hwn gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fydda i’n cael cemotherapi FEC-T?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael 3 chylch o FEC ac yna 3 chylch o  Taxotere. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd byddwch yn eu cael.

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo a thrafod unrhyw broblemau a all fod gennych. Y rheswm dros hyn yw fel y gallwn wirio sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, bydd eich cemotherapi’n cael ei ragnodi.

Sut bydd fy nghemotherapi’n cael ei roi?

Bydd eich cemotherapi’n cael ei roi trwy ddrip wedi’i gysylltu i nodwydd fach a roddir yn eich llaw neu fraich. Fel arall, efallai yr awgrymwn fod tiwb main o’r enw PICC yn cael ei gosod yn un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn aros yn ei le trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu nyrs yn esbonio hyn yn fwy manwl..  

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi .

Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi fel arfer ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad clinig. Bydd y driniaeth cemotherapi yn cymryd oddeutu awr. Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

Os rydych yn byw yn bell i ffwrdd, efallai y bydd eich cemotherapi yn cael ei drefnu ar gyfer yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig. Mae oedi bob amser rhwng gweld eich meddyg a chael cemotherapi. Os yw eich cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty rhwng pedair a chwe awr. 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle fel arfer ar gyfer mwy nag un unigolyn. Nid yw’r mannau triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Bydd rhai sgîl-effeithiau’n gyffredin i FEC a Taxotere, a bydd rhai sy’n benodol i ran honno’r driniaeth.

Sgîl-effeithiau FEC a Taxotere

Colli gwallt

Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl ar ôl i’ch triniaeth orffen. Gellir defnyddio dull o’r enw ‘oeri croen y pen’ neu ‘capio oer’ i atal colli gwallt. Gallwn drefnu wig os hoffech un. Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn ag oeri croen y pen neu wigiau, siaradwch â’ch nyrs.  

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi. 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn.  Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi o fewn 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Sgîl-effeithiau eraill 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.  

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.    

Gall FEC-T gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Sgîl-effeithiau FEC

Gall epirubicin achosi rhai problemau ar y galon. Os oes gennych gyflwr ar y galon neu eich bod chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth at y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau cemotherapi.

Bydd epirubicin yn afliwio eich wrin yn goch am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi.  Mae hyn yn gwbl ddiniwed. Os yw hyn yn para am fwy na 24 awr, cysylltwch â’ch meddyg neu nyrs.

Sgîl-effeithiau Taxotere

Byddwn yn rhoi tabledi steroid i chi o’r enw dexamethasone.  Mae’n rhaid i chi eu cymryd nhw am dridiau, gan ddechrau ar y diwrnod cyn eich cemotherapi Taxotere. Dylech eu cymryd gyda bwyd, ar ôl brecwast a chinio.

Mae’r tabledi dexamethasone yn atal rhai o sgîl-effeithiau cemotherapi Taxotere. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cymryd y tabledi yn yr union fel y cyfarwyddir. 

Dal dŵr

Efallai y byddwch yn dal dŵr yn eich corff a all arwain at chwyddo yn eich fferau a’ch coesau. Yn anaml, gall hyn arwain at ddiffyg anadl oherwydd hylif ar yr ysgyfaint. Fel arfer, mae’r tabledi steroid yn atal hyn. Os yw’n digwydd, fel arfer, mae’n ysgafn a bydd yn peidio pan fydd eich triniaeth wedi gorffen. Dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs os yw hyn yn broblem.

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Gall rhai cleifion ddioddef myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu gymalau. Gall fod yn ddifrïol weithiau, ond bydd yn para am ychydig ddiwrnodau’n unig. Os oes gennych dabledi lladd poen adref, gall y rhain leddfu’r boen. Os nad yw’n gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Adweithiau tebyg i alergedd

Mae nifer fach o gleifion yn dioddef adwaith tebyg i alergedd i Taxotere. Mae’r tabledi steroid fel arfer yn atal hyn rhag digwydd. Os yw’n digwydd, bydd hyn fel arfer pan mae’r drip yn trwytho. Mae symptomau’n cynnwys teimlo’n boeth neu’n wrid, yn cosi, yn benysgafn neu’n anhwylus yn gyffredinol.  Gellir trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os rydych yn dioddef unrhyw un o’r symptomau hyn.

Efallai y bydd ewinedd eich bysedd a bydded eich traed yn afliwio ac yn gwrymio. Gall rhai cleifion golli eu hewinedd dros dro.

Gall eich dwylo a’ch traed fynd yn sych a chaenog. Fel arfer, gellir rheoli hyn gyda lleithydd heb bersawr.

Yn anaml iawn, bydd y cemotherapi hwn yn effeithio ar y nerfau i’ch dwylo a’ch traed. Mae hyn yn arwain at golli teimlad, neu newid mewn teimlad fel ‘pinnau bach’ neu ‘goglais’. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y symptomau’n diflanni o fewn ychydig fisoedd ar ôl gorffen eich triniaeth.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Bod gennych ddolur rhydd

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.