Neidio i'r prif gynnwy

Extravasation

Taflen wybodaeth am elifiad

 

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i gleifion y mae eu cemotherapi wedi gollwng o’r wythïen lle roedd yn cael ei roi (elifiad). Bydd yn esbonio ystyr elifiad, pa gymhlethdodau a allai godi a sut byddwn yn ei drin. Bydd y daflen hon hefyd yn rhoi rhifau ffôn cyswllt i chi.

 

Beth yw elifiad?

Ystyr elifiad yw pan fydd cemotherapi’n gollwng o’r wythïen i’r croen neu’r meinweoedd cyfagos. Os bydd elifiad yn digwydd, byddwch yn sylwi ar boen, chwyddo neu gochni yn agos at y drip a ddefnyddiwyd ar gyfer eich cemotherapi fel arfer.

 

Beth yw’r cymhlethdodau posibl sy’n gallu dod o elifiad?

Bydd y cymhlethdodau yn amrywio gan ddibynnu ar ba gyffur cemotherapi sydd wedi achosi’r broblem. Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn cael ychydig iawn o broblemau ar ôl elifiad. Fodd bynnag, gall rhai cyffuriau cemotherapi niweidio’r croen a’r meinweoedd cyfagos os byddant yn gollwng. Gallai hyn arwain at chwyddo, cochni, poen neu ddatblygu pothelli neu wlserau. Yn bur anaml, gallai fod angen llawdriniaeth blastig er mwyn atgyweirio niwed i’r croen a’r feinwe.

 

 

Pa driniaeth sy’n cael ei rhoi ar gyfer elifiad?

Bydd y driniaeth a roddir yn dibynnu ar ba gyffur cemotherapi sydd wedi achosi’r broblem. Bydd eich nyrsys a’ch meddygon yn yr ysbyty yn rhoi eich triniaeth i chi. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor i chi ar beth ddylech ei wneud pan fyddwch yn mynd adref. Gallai’r driniaeth y byddwch yn ei chael yn yr ysbyty gynnwys rhai o’r canlynol:

 

  • Chwistrellu cyffuriau i’r man dan sylw
  • Rhoi eli neu drochdrwyth ar y man dan sylw
  • Defnyddio gwres neu iâ ar y man dan sylw

 

Caiff y triniaethau hyn eu rhoi er mwyn atal neu leihau unrhyw niwed y gall y cemotherapi ei achosi.

 

Beth ddylwn ei wneud pan fyddaf yn mynd adref?

Gan ddibynnu ar ba gyffur cemotherapi sydd wedi achosi’r broblem, byddwn yn gofyn i chi ddilyn cyfarwyddiadau gwahanol. Caiff y cyffuriau cemotherapi eu rhannu ym mhedwar grŵp A, B, C a D. Mae cyfarwyddiadau ar gyfer pob grŵp ar dudalen 3 a thudalen 4.

 

Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn ticio pa gyfarwyddiadau y dylech eu dilyn. Dilynwch bob un o’r cyfarwyddiadau ar gyfer eich grŵp chi o gyffuriau.

 

 

 

 

 

 

 

    Cyffuriau cemotherapi Grŵp A  

 

Byddwn yn rhoi dau eli i chi fynd â nhw adref, sef eli dimethylsulfoxide (DMSO) ac eli hydrocortisone.  Dylech ledaenu haenen denau o eli i’r man dan sylw yn ofalus bob tair awr tra eich bod yn effro. Yn gyntaf, dylech ddefnyddio’r eli DMSO ac yna’r eli hydrocortisone dair awr yn ddiweddarach. Dylech barhau i ddefnyddio’r ddau eli bob yn ail bob tair awr am wythnos.

 

Dylech roi rhywbeth oer ar y man dan sylw am rhwng 15 ac 20 munud rhwng tair a phedair gwaith yn ystod y 24 awr cyntaf ar ôl yr elifiad. Gallwch ddefnyddio ‘pecyn oer’ masnachol neu ddefnyddio iâ wedi’i falu mewn bag plastig. Ni ddylech roi’r iâ ar y croen yn uniongyrchol ond ar ben haenen o rwyllen neu liain sychu llestri glân neu gas gobennydd.

 

Dylech geisio cadw eich braich yn yr awyr gyhyd â phosibl yn ystod y 24 awr cyntaf. Er ei bod yn anodd gwneud hyn drwy’r amser, gallech godi eich braich ar obenyddion neu glustogau wrth eistedd a phan fyddwch yn y gwely.

 

 

    Cyffuriau cemotherapi Grŵp B

 

Dylech ddefnyddio ffynhonnell wres, fel potel ddŵr poeth (gyda gorchudd) neu bad gwres trydanol ar y man dan sylw gyhyd â phosibl am y 24 awr cyntaf.

 

 

Dylech geisio codi eich braich gyhyd â phosibl yn ystod y 24 awr cyntaf. Er ei bod yn anodd gwneud hyn drwy’r amser, gallech godi eich braich ar obenyddion neu glustogau wrth eistedd a phan fyddwch yn y gwely.

 

 

   Cyffuriau cemotherapi Grŵp C

 

Dylech ddefnyddio ffynhonnell wres, fel potel ddŵr poeth (gyda gorchudd) neu bad gwres trydanol ar y man dan sylw gyhyd â phosibl am y 24 awr cyntaf.

 

Dylech geisio codi eich braich gyhyd â phosibl yn ystod y 24 awr cyntaf. Er ei bod yn anodd gwneud hyn drwy’r amser, gallech godi eich braich ar obenyddion neu glustogau wrth eistedd a phan fyddwch yn y gwely.

 

Byddwn yn rhoi eli gwrthlidiol i chi fynd ag ef adref. Dylech ledaenu haenen denau o eli i’r man dan sylw yn ofalus bedair gwaith y dydd am yr wythnos nesaf.

 

 

   Cyffuriau cemotherapi Grŵp D

 

Dylech roi rhywbeth oer ar y man dan sylw am rhwng 15 ac 20 munud rhwng tair a phedair gwaith yn ystod y 24 awr cyntaf ar ôl yr elifiad. Gallwch ddefnyddio ‘pecyn oer’ masnachol neu ddefnyddio iâ wedu’i falu mewn bag plastig. Ni ddylech roi’r iâ ar y croen yn uniongyrchol ond ar ben haenen o rwyllen neu liain sychu llestri glân neu gas gobennydd.

 

Os bydd elifiad o ran topotecan neu irinotecan wedi digwydd, byddwn yn rhoi eli hydrocortisone i chi fynd ag ef adref. Dylech ledaenu haenen denau o eli i’r man dan sylw ddwywaith y dydd am yr wythnos nesaf neu hyd nes y bydd unrhyw gochni wedi diflannu.

 

Pryd ddylwn i gysylltu â’r ysbyty?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd gennych unrhyw un o’r symptomau a ganlyn ym man yr elifiad neu’n agos ato:

 

 

  • Cochni neu chwyddo ar ôl y 48 awr cyntaf
  • Poen
  • Pothelli
  • Wlserau
  • Newidiadau i liw’r croen

 

 

Pwy fydd yn gwirio bod fy mraich yn gwella?

Bydd nyrs o Felindre yn trefnu amser i’ch ffonio chi ychydig ddyddiau ar ôl yr elifiad i weld sut hwyl sydd arnoch. Os bydd gennych unrhyw bryderon cyn i’r nyrs ffonio, mae croeso i chi gysylltu â ni. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 6 y daflen hon.

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael o:

 

 

Canolfan Ganser Felindre      029 2016 5888

Os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi

 

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

             

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Canolfan Ganser Felindre

Heol Felindre

Yr Eglwys Newydd

Caerdydd

CF14 2TL

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Mehefin 2006    

Adolygwyd Rhagfyr 2010