Neidio i'r prif gynnwy

Epirubicin, Cyclophosphamide a Paclitaxel

A1023, A1601, A1228, A1229

 

Taflen wybodaeth ynghylch cemotherapi Epirubicin, Cyclophosphamide a Paclitaxel

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gemotherapi Epirubicin, Cyclophosphamide a Paclitaxel.  Bydd yn egluro beth yw hwn a phryd a sut mae’n cael ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau posibl.  Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am Epirubicin, Cyclophosphamide a Paclitaxel ar gael ar ddiwedd y daflen.

 

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â'r ffolder 'Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy'n cael cemotherapi'.  Os nad ydych chi wedi cael y ffolder hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

Mae eich 'tîm arbenigol' yn cyfeirio at eich tîm oncoleg yng Nghanolfan Ganser Felindre sy'n cynnwys meddygon, nyrsys arbenigol a rhagnodwyr annibynnol anfeddygol a all fod yn nyrs neu'n fferyllydd.

 

Beth yw Epirubicin, Cyclophosphamide a Paclitaxel?

Mae hwn yn gwrs o driniaeth sy'n cynnwys tri chyffur.

Epirubicin a Cyclophosphamide (EC) am hyd at bedwar cylch ac wedyn Paclitaxel am hyd at bedwar cylch.

 

Mae’r holl gemotherapïau hyn yn cael eu rhoi trwy ddrip i mewn i wythïen.

 

 

Pam rydw i'n cael Epirubicin, Cyclophosphamide a Paclitaxel?

Mae eich tîm wedi rhagnodi'r cemotherapi hwn am ei fod wedi’i weld yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser.

 

 

Pa mor aml fydda i’n cael fy Epirubicin, Cyclophosphamide a Paclitaxel?

Er mwyn i'r driniaeth hon fod yn fwyaf effeithiol mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol.  Yr enw ar y rhain yw cylchoedd. 

Byddwch chi’n cael naill ai:

 

Epirubicin a Cyclophosphamide (EC) bob pythefnos.  Yn dilyn yr EC byddwch chi’n cael paclitaxel bob pythefnos. Bydd y driniaeth yn cymryd tua 16 wythnos 

 

Neu

 

Epirubicin a Cyclophosphamide (EC) bob tair wythnos. Yn dilyn yr EC byddwch chi’n paclitaxel bob wythnos. Bydd y driniaeth yn cymryd tua 18 wythnos.

 

 

Bydd y tîm yn esbonio pa mor aml y byddwch chi’n cael eich triniaeth a sawl cylch gewch chi. 

 

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch chi’n cael eich adolygu gan eich tîm arbenigol cyn pob cylch.  Byddwch chi naill ai'n gweld eich tîm arbenigol mewn clinig neu yn siarad â nhw'n rhithwir.

 

Byddwch chi’n cael profion gwaed cyn pob triniaeth a byddwn yn gwirio sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r cemotherapi yn effeithio arnoch chi.  Os bydd eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, bydd eich cemotherapi yn cael ei ragnodi.

 

 

Sut fydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?

Bydd eich triniaeth yn cael ei rhoi trwy ddrip i mewn i wythïen. Efallai y byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o'r enw llinell PICC, neu linell ganolog amgen, yn cael eu gosod. Bydd y llinellau hyn yn aros yn eu lle trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn gyda chi ac yn rhoi taflen ichi, os oes angen.

 

 

Ble fydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?

Mae’r triniaethau yn cael eu rhoi yn y mannau triniaeth achosion dydd yng Nghanolfan Ganser Felindre, neu yn un o'n Clinigau Allgymorth SACT.  

 

 

Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?

Bydd eich triniaeth ar ddiwrnod gwahanol i'ch apwyntiad clinig.  Bydd eich triniaeth yn cymryd tua:

  • dwy awr ar gyfer y CE
  • tair awr ar gyfer y paclitaxel wythnosol
  • pum awr ar gyfer y paclitaxel bob pythefnos

Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf. Os dewiswch ddefnyddio system oeri croen y pen bydd angen ichi ganiatáu awr a hanner yn ychwanegol ar gyfer pob ymweliad i gael triniaeth.

 

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng felly dim ond digon o le ar gyfer un person arall sydd.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd. Gall y tîm roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

 

Colli gwallt

Mae EC a Paclitaxel yn achosi colli gwallt. Rhywbeth dros dro yn unig yw hyn.  Bydd eich gwallt yn tyfu'n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben.  Mae modd defnyddio dull o’r enw 'oeri croen y pen' neu 'gap oer' i atal colli gwallt.  Gallwn drefnu wig os hoffech chi gael un.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wigiau neu oeri croen y pen, siaradwch â'ch nyrs. 

 

 

Cyfogi

Mae cyfogi a chwydu yn sgil-effeithiau hysbys i’r driniaeth hon. Ond, byddwn ni’n rhoi meddyginiaethau gwrth-gyfogi ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol.  Os byddwch chi'n teimlo'n gyfoglyd yn barhaus neu os byddwch chi'n cyfogi fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrth-gyfogi yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen. 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis, gall hyn fod yn fygythiol.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch chi’n datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd neu os yw eich tymheredd yn is na 35.5°.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Efallai y cewch chi bigiad i roi hwb i'ch celloedd gwaed gwyn gyda'r nod o leihau’ch risg o gael haint. Mae’r pigiad yn cael ei roi ichi gartref yn y dyddiau ar ôl i'ch cemotherapi ddod i ben a gall gael ei roi gan nyrs gymunedol, perthynas neu gennych chi’ch hun. Bydd eich tîm arbenigol yn esbonio hyn ymhellach.

 

 

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda'r driniaeth hon.  Ond, os byddwch chi’n ysgarthu bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Blinder a lludded

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys

 

Adwaith o fath alergaidd

Mae nifer fach o gleifion yn profi adwaith i paclitaxel sy’n debyg i adwaith alergaidd.  Os bydd hyn yn digwydd efallai y byddwch chi’n teimlo'n boeth neu'n wridog, yn cosi, yn benysgafn neu'n sâl yn gyffredinol wrth gael paclitaxel.  Mae modd trin hyn yn hawdd.  Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r symptomau uchod.

 

 

 

Niwed i'r croen a’r feinwe

Gall rhai cyffuriau cemotherapi niweidio'r croen a'r ardal gyfagos os byddan nhw’n gollwng y tu allan i'ch gwythïen.  Yr enw ar hyn yw elifiad.  Mae'n eithriadol o brin ond mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthon ni ar unwaith os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw chwyddo, poen neu losgi yn y fan lle mae’r drip wedi’i osod.  Os bydd hyn yn digwydd tra bo’r cemotherapi yn cael ei roi, dywedwch wrth eich nyrs.  Os byddwch chi’n sylwi ar boen, chwyddo neu gochni pan fyddwch chi gartref, cysylltwch â ni ar unwaith  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

 

Poen yn y gwythiennau a fflebitis

Gall cemotherapi epirubicin achosi rhywfaint o lid i'r wythïen wrth iddo gael ei chwistrellu. Os ydych chi'n cael triniaeth trwy nodwydd a drip yn eich llaw neu’ch braich efallai y byddwch chi'n sylwi ar rywfaint o anghysur adeg y pigiadau cemotherapi.  Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os bydd hyn yn digwydd. 

 

I nifer fach o gleifion gall y llid hwn yn y gwythiennau arwain at rywfaint o dynerwch, caledwch a chreithiau yn yr wythïen a all bara am wythnosau neu fisoedd ar ôl y driniaeth. Mae modd lleihau'r risg o hyn trwy newid y fraich y mae’r cemotherapi yn cael ei roi ynddi bob yn ail. Bydd cael cemotherapi trwy linell PICC yn atal y broblem hon.

 

 

Newidiadau yn lliw eich wrin

Bydd epirubicin yn rhoi lliw coch ar eich wrin yn ddiniwed am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi.  Os bydd hyn yn para fwy na 24 awr, cysylltwch â'r llinell gymorth triniaeth. Mae'r rhif ar ddiwedd y daflen.

 

 

Effeithiau ar eich calon

Mae epirubicin yn gallu achosi problemau gyda'r galon i nifer fach o gleifion.  Os oes gennych chi broblem ar y galon yn barod, dywedwch wrth y tîm cyn ichi ddechrau triniaeth.  Os cewch chi unrhyw broblemau newydd gyda diffyg anadl, crychguriadau'r galon neu boen yn y frest dylech geisio sylw meddygol brys.

 

 

Effeithiau ar nerfau eich dwylo a'ch traed

Gall Paclitaxel effeithio ar nerfau eich dwylo a'ch traed.  Gall hyn arwain at golli teimlad, tinglo neu binnau bach.  Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â'r clinig oherwydd efallai y bydd angen inni newid eich triniaeth.

 

Gall y symptomau hyn gynyddu wrth ichi gael mwy o gylchoedd o gemotherapi. Os cewch chi’r symptomau hyn, mae'n bwysig bod yn hynod ofalus wrth amlygu'ch dwylo a'ch traed i dymheredd poeth neu oer. Mae'r symptomau hyn fel arfer yn diflannu o fewn ychydig fisoedd ar ôl gorffen eich triniaeth.

 

 

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Ar ôl paclitaxel gall rhai cleifion brofi myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu'r cymalau. Gall hyn fod yn ddifrifol weithiau ond dim ond am ychydig ddyddiau y bydd yn para.  Os oes gennych chi boenladdwyr gartref yn barod, efallai y byddwch chi'n gweld bod y rhain yn lleddfu'r boen.  Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

 

Beichiogrwydd a bwydo ar y fron

Mae'n bwysig nad ydych chi’n beichiogi nac yn cenhedlu plentyn fel tad yn ystod eich cwrs o driniaeth cemotherapi, neu am o leiaf chwe mis ar ôl y driniaeth.  Y rheswm am hyn yw y gall cemotherapi niweidio plentyn sydd heb ei eni.

 

Rydyn ni’n cynghori na ddylech chi fwydo ar y fron yn ystod cemotherapi gan y gallai'r cyffuriau gael eu trosglwyddo i faban trwy laeth y fron.

 

 

Risg o glotiau gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig ceisio cymorth meddygol ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi

 

Yr alcohol mewn paclitaxel

Mae paclitaxel yn cynnwys alcohol. Os yw cael alcohol yn broblem ichi, dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd. Mae’n bosibl y bydd lefel yr alcohol yn eich gwaed yn uwch na’r terfyn cyfreithiol ar ôl ichi gael paclitaxel. Peidiwch â gyrru na gweithredu peiriannau am ychydig oriau ar ôl cael y driniaeth hon, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n iawn.

 

 

 

 

Sgil-effeithiau eraill:

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i'r haul.  Mae'n well osgoi heulwen gryf a gwisgo het a defnyddio eli atal haul pan fyddwch chi yn yr haul.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre                           029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.  Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • â dolur rhydd

 

Adran fferylliaeth                    029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun-dydd Gwener 9am-5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan            0808 808 0000

 

Llinell gymorth canser rhadffôn Tenovus 0808 808 1010

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'r wybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

Wedi’i pharatoi Mawrth 2023

 

plain-english (3)