Neidio i'r prif gynnwy

EOX 276

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi a elwir yn EOX. Bydd y daflen yn egluro beth yw hyn a phryd a sut y caiff ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am y sgil effeithiau cyffredin y gallwch eu cael. Mae rhifau ffôn i gysylltu a manylion am sut mae cael gwybodaeth bellach ar EOX yn cael eu rhoi ar ddiwedd y daflen.

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â’r daflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’.  Os nad ydych wedi cael y daflen hon yna cofiwch ofyn i’ch nyrs am gopi. 

Beth yw cemotherapi EOX?

Mae cemotherapi EOX yn cynnwys tri chyffur:

E = Epirubicin

O = Oxaliplatin

X = Capecitabine (a elwir hefyd yn Xeloda)

Pan gânt eu cyfuno fe’u gelwir yn EOX.

Pam ydw i’n cael cemotherapi EOX?

Mae’ch meddyg wedi argymell EOX am ei fod wedi dangos ei fod yn effeithiol wrth drin eich math chi o ganser. 

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn i mi gael fy nghemotherapi?

Bydd arnoch angen cyfres o brofion gwaed cyn i chi ddechrau ar eich cemotherapi.  Mae un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu i wirio bod eich arenau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â’r cemotherapi. 

Pa mor aml byddaf i’n cael fy nghemotherapi?  

Er mwyn i’r driniaeth fod ar ei mwyaf effeithiol mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Cylchredau yw’r enw ar y rhain. Mae’n arferol cael EOX bob tair wythnos am chwech i wyth cylchred.  Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi’r union nifer o gylchredau y byddwch yn eu cael. 

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Rhoddir epirubicin ac oxaliplatin trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu yn eich braich.  Fel arall efallai awgrymir y rhoddir tiwb bychan o’r enw PICC i mewn i wythïen fawr yn rhan uchaf eich braich.  Bydd yn aros ynoch chi drwy gydol cwrs eich triniaeth. Bydd eich meddyg yn egluro hyn wrthych yn fwy manwl.

Mae gennym daflen hefyd sy’n dweud mwy wrthych chi am linellau PICC.  Gofynnwch os hoffech gael copi. 

Rhoddir capecitabine ar ffurf tabledi.  Caiff y tabledi capecitabine eu cymryd ddwywaith y dydd drwy gydol cwrs y driniaeth.

Pa mor aml bydd rhaid i mi ddod i’r ysbyty?

Er mwyn cael cemotherapi EOX bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty dair gwaith ym mhob cylchred pythefnos. 

Apwyntiad clinig cleifion allanol

Bydd samplau gwaed yn cael eu cymryd gennych a byddwn yn cael gweld sut ydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a all fod gennych chi. Mae hyn fel y gallwn weld sut mae’r cemotherapi yn gweithio i chi. Os bydd eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, caiff eich cemotherapi ei ragnodi. Bydd yr apwyntiad hwn fel arfer ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi. 

Apwyntiad cemotherapi 

Yn yr apwyntiad hwn byddwch yn treulio tua 3 awr yn un o’r mannau triniaeth achosion dydd. Byddwch gystal â chaniatáu awr yn hirach ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth rhag salwch, wedyn eich cemotherapi epirubicin ac oxaliplatin.

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle’n gyfyng yn yr ystafelloedd aros a’r ystafelloedd triniaeth ac felly fel arfer nid oes lle i fwy nag un person. Nid yw’r mannau triniaeth yn lleoedd addas i blant ifanc. 

Sut dylwn i gymryd y tabledi capecitabine?

Dylid cymryd tabledi capecitabine ddwywaith y dydd, yn y bore ar ôl eich brecwast a chyda’r nos ar ôl eich cinio nos.  Dylech chi eu cymryd o fewn 30 munud o orffen eich pryd o fwyd.  Dylid llyncu’r tabledi’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr.  Ni ddylid eu cnoi na’u malu.  Os oes gennych unrhyw broblemau wrth lyncu eich tabledi siaradwch â’ch meddyg, nyrs neu fferyllydd i gael cyngor.

Mae’n bwysig golchi’ch dwylo ar ôl cymryd y tabledi.

Faint o dabledi fydd angen i mi eu cymryd?

Mae hyn yn amrywio ar gyfer pob unigolyn.  Mae 2 dabled o wahanol gryfderau sydd o wahanol feintiau.  Mae’r tabledi mawr yn 500mg ac mae’r tabledi bach yn 150mg.  Efallai bydd rhaid i chi gymryd cyfuniad o dabledi mawr a bach.  Caiff y nifer sydd angen i chi eu cymryd ei farcio’n glir ar y blychau.  Cofiwch wirio pob blwch i weld faint o dabledi mae angen i chi eu cymryd.

Beth ddylwn i ei wneud os anghofiaf gymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn 2 awr i’r amser arferol, cymerwch nhw ar unwaith.
  • Os yw’n fwy na 2 awr yn hwyr, ewch heb y ddos hon

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol pan ddylai eich triniaeth fod wedi dod i ben.  Mae’n bwysig, hyd yn oed os ydych chi heb gael unrhyw ddosys, eich bod yn gorffen y driniaeth ar yr amser a gynlluniwyd.  

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Sut dylwn i gadw fy nhabledi capecitabine?

Storiwch eich tabledi yn eu pecynnau gwreiddiol mewn lle diogel o afael plant.  Dylid eu cadw mewn lle sych ac oer (yn is na 30˚canradd).  Dylid dychwelyd unrhyw dabledi na chafodd eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty neu i’ch fferyllydd lleol i gael gwared arnynt yn ddiogel.  

Beth yw’r sgil effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil effeithiau posibl sy’n gallu digwydd gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.  

Colli gwallt

Yn anffodus byddwch yn colli’ch gwallt gyda’r cemotherapi hwn.  Dim ond dros dro y bydd hynny.  Bydd eich gwallt yn tyfu yn ei ôl pan ddaw’ch triniaeth i ben.  Weithiau gellir defnyddio dull o’r enw ‘oeri croen y pen’ neu ‘ wisgo cap oer’ i atal colli’r gwallt.  Gallwn drefnu gwallt gosod os mynnwch hynny.  Os hoffech chi ragor o wybodaeth am oeri croen y pen neu am wallt gosod siaradwch â’ch nyrs.  

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Byddwch gystal â gofyn i’ch nyrs am gopi.  

Salwch 

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin y dyddiau hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaeth rhag salwch i chi sydd fel arfer yn effeithiol dros ben. Os byddwch yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er gwaethaf cymryd meddyginiaeth rhag salwch yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.  

Haint      

Mae’ch risg o ddal heintiau yn uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre yn syth os bydd gennych unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i’r ffliw neu wres uwch na 37.5°canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10. 

Dolur rhydd

Efallai bydd gennych ddolur rhydd.  Os bydd hyn yn digwydd mae’n bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau.  Byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi ei gymryd os cewch chi ddolur rhydd.  

Dylech chi stopio cymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith:

  • Os cewch eich corff i lawr bedair gwaith neu’n fwy yn fwy na’r hyn sy’n arferol i chi.
  • Os cewch chi eich deffro gyda’r nos gan ddolur rhydd.   

Dylech chi hefyd gysylltu â ni os oes gennych unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu gynnydd mewn cael eich corff i lawr a hynny’n parhau am fwy na thridiau.

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig nag arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen i chi wneud, ond ewch ynghylch eich gweithgareddau arferol os teimlwch y gallwch. Bydd rhai pobl yn ei chael yn fuddiol i wneud ymarfer ysgafn yn ogystal â chael gorffwys

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu eich bod yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen gemotherapi gyffredinol. Gall eich meddyg roi cegolchion neu feddyginiaeth i rwystro neu glirio unrhyw haint.  

Os bydd eich ceg yn mynd yn boenus iawn neu eich bod yn ei chael yn anodd bwyta ac yfed, stopiwch gymryd eich tabledi a chysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

Dolur yn eich dwylo a’ch traed

Gallwch gael poen ysgafn, cochni a chwyddo yn eich dwylo neu’ch traed. Os digwydd hyn rydym yn argymell defnyddio eli neu drwyth heb bersawr yn rheolaidd. Byddwch gystal â chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn mynd yn boenus. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

Poen yn y gwythiennau

Efallai byddwch yn cael anghysur ar hyd yr wythïen pan gaiff y cemotherapi hwn ei roi mewn drip.  Gellir atal hyn drwy gael llinell PICC wedi ei rhoi i mewn.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth byddwch gystal â siarad â’ch nyrs neu â’ch meddyg. 

Difrod i’r nerfau yn eich dwylo a’ch traed

Efallai bydd oxaliplatin yn achosi goglais neu ddiffyg teimlad yn eich bysedd neu ym mysedd eich traed.  Mae 85 - 95% o bobl yn cael profiad o hyn i ryw raddau.  Caiff hyn ei sbarduno’n aml gan oerni, er enghraifft, pan fyddwch yn agor yr oergell neu’n gafael mewn diod oer.  Efallai byddwch yn ei chael yn anodd clymu botymau neu godi pethau bach.  

Ni fydd hyn fel arfer yn parhau am fwy na 7 niwrnod rhwng triniaethau.  Os yw’r broblem hon gennych dywedwch wrthym yn eich apwyntiad clinig nesaf.

Teimlad annifyr yn eich gwddf

Mae oxaliplatin yn achosi teimlad annifyr yn y gwddf mewn nifer fach o gleifion.  Efallai bydd hyn yn arwain at deimlad o dyndra yn y gwddf neu fethu ag anadlu. Bydd hyn yn digwydd ar adeg y driniaeth neu o fewn ychydig o oriau o’r driniaeth.  Efallai bydd oerni yn achosi hyn felly dylech chi osgoi diodydd rhewllyd o oer am 24 awr ar ôl y driniaeth.

Dywedwch wrth eich nyrs os byddwch yn dioddef o hyn wrth gael eich triniaeth.  Os bydd yn digwydd ar ôl i chi adael yr ysbyty cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

Sgil effeithiau eraill

Efallai bydd epirubicin yn achosi rhywfaint o broblemau i’r galon.  Os oes gennych gyflwr ar y galon, neu os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer y galon, dwedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau cemotherapi.  

Mae epirubicin yn ddiddrwg ond bydd yn lliwio eich wrin yn goch am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi.  Os bydd hyn yn parhau am fwy na 24 awr cysylltwch â’ch meddyg neu â’ch nyrs.

Mae nifer fach o gleifion yn cael anystwythder yn y genau yn ystod yr ychydig o ddyddiau cyntaf ar ôl cael yr oxaliplatin.  Fel arfer dim ond am ychydig o ddyddiau mae hyn yn parhau.  Os bydd hyn yn digwydd dwedwch wrthym yn eich ymweliad nesaf â’r clinig.

Bydd merched weithiau yn canfod bod triniaeth cemotherapi yn effeithio ar eu mislif. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu ddod i ben yn gyfan gwbl hyd yn oed. 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi neu’n cenhedlu plentyn pan fyddwch dan driniaeth cemotherapi gan y gall cemotherapi niweidio’r baban yn y groth.  

Gall cemotherapi EOX gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Mae’n well osgoi golau haul cryf, gwisgo het a defnyddio eli rhag haul. 

Taflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn, am nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau. Gallant hefyd fod yn anodd eu darllen. Fodd bynnag, gofynnwch os hoffech gael copi.      

Rhifau ffôn i gysylltu  

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn mynd yn sâl gartref ac angen sylw brys ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft dylech ffonio os byddwch:

  • Yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr 
  • Â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • Yn cael eich corff i lawr 4 gwaith neu’n fwy o fewn 24 awr yn fwy na’r hyn sy’n arferol i chi
  • Yn cael hyd at 3 achos o’r dolur rhydd o fewn 24 awr ond mae hyn yn parhau am fwy na thridiau
  • Â cheg ddolurus iawn
  • Â dwylo neu draed dolurus iawn
  • Â thyndra yn eich gwddf neu’n methu ag anadlu

Yr Adran Fferylliaeth 029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – Dydd Gwener 9am – 5pm am ymholiadau am eich meddyginiaeth 

Llinell gymorth canser  0808 808 1010

Tenovus - rhadffôn

Dydd Llun – Dydd Gwener 9am – 4.30pm am ymholiadau cyffredinol am ganser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi ei seilio ar dystiolaeth. Mae hi wedi ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru’n flynyddol.