Neidio i'r prif gynnwy

ECF 4

Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o’r enw ECF.  Bydd yn esbonio beth yw’r driniaeth a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am ECF ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi ECF?

Mae cemotherapi ECF yn cynnwys tri chyffur:

E = Epirubicin

C = Cisplatin

F = 5-Fluorouracil (5-FU)

Pan gânt eu cyfuno, maent yn cael eu galw’n ECF yn fyr. 

Pam ydw i’n cael cemotherapi ECF?

Mae eich meddyg wedi argymell y math hwn o gemotherapi gan y gwyddom ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn dechrau fy nghemotherapi? 

Bydd angen cyfres o brofion gwaed arnoch cyn i chi ddechrau eich cemotherapi ECF. Mae un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu i wirio bod eich arennau yn gweithio’n ddigon da i ymdopi â chemotherapi. 

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

I gael eich cemotherapi, bydd angen rhoi tiwb main mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Caiff y tiwb hwn ei alw’n llinell PICC. Bydd eich llinyn PICC yn cael ei roi i mewn rhyw wythnos cyn i chi ddechrau eich cemotherapi fel arfer. Bydd yn aros i mewn am gwrs cyfan eich triniaeth. Bydd eich meddyg yn esbonio hyn i chi yn fanylach.  

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gael copi.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Caiff y rhain eu hadnabod fel cylchoedd.

Caiff yr epirubicin a’r cisplatin eu rhoi trwy eich llinyn PICC unwaith bob tair wythnos am hyd at chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Caiff rhan 5–FU eich triniaeth ei rhoi yn barhaol. Caiff y      5-FU ei roi mewn bag sy’n ffitio mewn pwmp bach cludadwy.

  • Caiff y pwmp hwn ei gysylltu wrth eich llinyn PICC
  • Mae’r pwmp yn ffitio mewn bag, y gallwch ei wisgo o gwmpas eich canol neu’i binio wrth eich dillad 
  • Bydd y pwmp yn gwacáu bob wythnos
  • Bydd angen i chi ddod yn ôl i’r ysbyty unwaith yr wythnos i gael pwmp newydd yn ei le 

Sut ydw i’n gofalu am y pwmp cludadwy?

Byddwn yn esbonio popeth am y pwmp, sut mae’n gweithio a sut i ofalu amdano. Byddwn yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi hefyd.

Pa mor aml fydd angen i mi fynd i’r ysbyty?

I gael triniaeth cemotherapi ECF, bydd angen i chi fynd i’r ysbyty bedair gwaith ym mhob cylch tair wythnos.

Apwyntiad cleifion allanol – bydd samplau o’ch gwaed yn cael eu cymryd a byddwn yn gwirio sut yr ydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut y mae’r cemotherapi yn effeithio arnoch. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, argymhellir eich cemotherapi. Mae’r apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

Diwrnod 1 apwyntiad cemotherapi – byddwch yn treulio tua saith awr ar un o’r mannau triniaeth achosion dydd. Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwch yn cael meddyginiaeth wrthgyfog, hylifau a chemotherapi.  

Diwrnod 8 apwyntiad cemotherapi – ar yr ymweliad hwn, bydd eich pwmp 5-FU yn cael ei newid. Ni ddylai’r ymweliad hwn fod yn hwy nag awr.

Diwrnod 15 apwyntiad cemotherapi – ar yr ymweliad hwn, bydd angen cymryd samplau o’ch gwaed a newid eich pwmp 5-FU. Gallai’r ymweliad hwn gymryd 2-3 awr.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle yn brin yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer. Nid yw mannau triniaeth yn addas i blant ifanc. 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt

Yn anffodus, bydd cemotherapi ECF yn achosi i chi golli’ch gwallt yn gyfan gwbl. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl pan fydd eich triniaeth wedi gorffen. Gellir defnyddio dull o’r enw  ‘oeri croen y pen’ (‘scalp cooling’) neu ‘gap oer’ (‘cold capping’) i atal gwallt rhag cael ei golli.  Gallwn drefnu wig os hoffech gael un. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am wigiau neu oeri croen y pen, siaradwch â’ch nyrs.  

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych ynghylch ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gael copi. 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda chemotherapi ECF. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi mewn 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Effaith ar eich arennau 

Gall cisplatin effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Bydd y prawf gwaed y byddwch yn ei gael cyn eich cemotherapi’n gwirio pa mor dda mae eich arennau’n gweithio ar ddechrau eich triniaeth. Byddwn hefyd yn eich monitro’n ofalus drwy gynnal profion gwaed rheolaidd drwy gydol eich triniaeth.

Rydym bob amser yn rhoi cisplatin gyda digonedd o hylifau yn y drip er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau am o leiaf ddeuddydd ar ôl pob triniaeth. Rydym yn awgrymu cwpan neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.

Sgîl-effeithiau eraill  

Gall epirubicin achosi problemau â’r galon. Os oes gennych gyflwr y galon neu’n cymryd unrhyw feddyginiaeth i’r galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau ar eich cemotherapi.  

Bydd epirubicin yn afliwio eich wrin yn goch am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi, ond nid yw hyn yn niweidiol. Os bydd hyn yn para mwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

Gallai cisplatin niweidio nerfau eich dwylo a’ch traed. Mae’n bosibl y byddwch yn colli rhywfaint o deimlad neu’n gweld newidiadau mewn synhwyriad fel goglais neu binnau bach. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’ch meddyg os bydd hyn yn digwydd fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

Gall cisplatin niweidio’r nerfau sy’n gyfrifol am y clyw hefyd, ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli rhywfaint o glyw a allai fod yn barhaol. 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn cenhedlu plentyn tra byddwch yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.  

Gall cemotherapi ECF gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith yn fwy na’r hyn sy’n arferol i chi mewn 24 awr
  • Os bydd eich wrin yn goch am fwy na 24 awr

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.