Neidio i'r prif gynnwy

EcarboF

Taflen wybodaeth am gemotherapi ECarboF cleifion preswyl

 

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o’r enw ECarboF. Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am ECarboF ar gael ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 


Beth yw cemotherapi ECarboF?

Mae cemotherapi ECarboF yn cynnwys tri chyffur:

  • Epirubicin
  • Carboplatin
  • 5-Fluorouracil (5-FU)

 

Mae’r tri chyffur cemotherapi hyn wedi cael eu defnyddio ers nifer o flynyddoedd. Pan maen nhw’n cael eu cyfuno, fe’u gelwir yn ECarboF yn fyr.

 

 

Pam ydw i’n cael cemotherapi ECarboF?

Mae eich meddyg wedi argymell cemotherapi ECarboF gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

 

Fydd angen i mi gael profion cyn cael fy nghemotherapi?

Bydd angen i chi gael cyfres o brofion gwaed cyn i chi ddechrau eich cemotherapi. Mae un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu ni i wirio bod eich arennau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â’r cemotherapi.

 

 

Pa mor aml fydda i’n cael cemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch o ECarboF bob tair wythnos am hyd at chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

 

 

A fydd angen i mi aros yn yr ysbyty ar gyfer y driniaeth hon?

Bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am bump neu chwe diwrnod yn ystod pob cylch o gemotherapi. Byddwch yn cael eich derbyn i’r uned cemotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae hon hefyd yn cael ei hadnabod fel Ward y Dywysoges Margaret.

 

 

 

 

Sut bydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?

Bydd eich cemotherapi’n cael ei roi trwy ddrip. Bydd y drip yn cael ei gysylltu i nodwydd fach a fydd yn cael ei gosod yng nghefn eich llaw neu yn eich braich. Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud wrth eich nyrs os yw’r drip yn dod yn anghyfforddus neu’n boenus.

 

Yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty byddwch yn cael eich cysylltu i’ch drip. Bydd y drip yn cael ei gysylltu i stand ag olwynion fel y gallwch symud o gwmpas y ward. Os oes angen help arnoch, bydd nyrs ar gael.

 

Mae’r cyffuriau cemotherapi epirubicin a carboplatin yn cael eu rhoi ar ddiwrnod cyntaf pob cylch. Mae’r 5-FU yn cael ei roi dros y pedwar diwrnod wedi hynny.

 

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl y gallech eu dioddef gydag ECarboF. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Colli Gwallt
Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda'r cemotherapi hwn. Mae hyn dros dro yn unig. Bydd eich gwallt yn tyfu'n ôl pan fydd eich triniaeth wedi gorffen. Gallwn drefnu wig os hoffech un, gofynnwch i'ch nyrs am fwy o wybodaeth. Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

 

 

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen7.

 

Dolur rhydd

Efallai y byddwch yn dioddef dolur rhydd. Os yw hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod chi’n yfed digon o hylif.  Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

 

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

 

Adwaith tebyg i alergedd

Mae nifer fach o gleifion yn dioddef adwaith tebyg i alergedd i carboplatin. Os yw hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn teimlo’n boeth neu’n wrid, yn cosi, yn benysgafn neu’n anhwylus yn gyffredinol, wrth gael carboplatin. Gellir trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os rydych yn dioddef unrhyw un o’r symptomau hyn.

 

Byddwn yn eich symud chi i un o’r unedau dydd i gael y carboplatin fel y gallwn eich monitro chi’n agos am unrhyw adwaith alergaidd.

 

 

Sgîl-effeithiau eraill

Mae rhai cleifion yn dioddef llygaid dolurus neu ddyfrllyd. Os mae hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs yn eich ymweliad nesaf â’r clinig.

 

Gall y cemotherapi hwn achosi rhai problemau ar y galon. Os oes gennych gyflwr ar y galon neu eich bod chi’n cymryd meddyginiaeth at y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau cemotherapi. 

 

Bydd epirubicin yn afliwio eich wrin yn goch am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi. Mae hyn yn gwbl ddiniwed. Os yw hyn yn para am fwy na 24 awr, cysylltwch â’ch meddyg neu nyrs.

 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl. 

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni. 

 

Gall cemotherapi ECarboF gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Eich bod yn agor eich perfedd 4 gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi o fewn 24 awr
  • Bod gennych wrin coch am fwy na 24 awr

 

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Medi 2008    

Adolygwyd Awst 2013