Neidio i'r prif gynnwy

doxorubicin ac olaratumab

987                                                                     

                          

Taflen wybodaeth ynghylch cemotherapi doxorubicin ac olaratumab

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o driniaeth o'r enw doxorubicin ac olaratumab.  Bydd y daflen yn egluro beth yw hyn, pryd a sut y caiff ei roi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am doxorubicin ar gael ar ddiwedd y daflen.

 

Dylai’r daflen hon gael ei darllen ochr yn ochr â'r ffolder 'Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy'n cael cemotherapi'.  Os nad ydych chi wedi cael y ffolder hon, gofynnwch i'ch nyrs am gopi.

 

Beth yw cemotherapi doxorubicin?

Mae doxorubicin yn driniaeth cemotherapi sy’n cael ei rhoi trwy ddrip.

 

Beth yw olaratumab?

Mae Olaratumab yn wrthgorff, sy’n cael ei alw’n wrthgorff monoclonaidd dynol, sy'n glynu wrth gelloedd canser gan eu hatal rhag tyfu.  Nid cemotherapi mohono. 

 

 

 

 

 

Pam rydw i'n cael triniaeth doxorubicin ac olaratumab?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi'r driniaeth am ei bod wedi’i gweld yn fwy effeithiol wrth drin eich math chi o ganser.

 

Pa mor aml fydda i’n cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i'r driniaeth hon fod yn fwyaf effeithiol, mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol.  Yr enw ar y rhain yw cylchoedd.  Mae eich triniaeth chi ar gylch 28 diwrnod. Fe gewch chi olaratumab a doxorubicin ar ddiwrnod 1 a dim ond olaratumab ar ddiwrnod 8. Bydd eich meddyg yn trafod union nifer y cylchoedd y byddwch chi’n eu cael.

 

Pa mor aml fydda i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch chi’n gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch, bob 28 diwrnod.  Yn y clinig fe gewch chi brofion gwaed a byddwn yn gofyn sut rydych chi’n teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Y rheswm am hyn yw er mwyn inni wirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi.  Os bydd eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, bydd eich triniaeth yn cael ei rhagnodi ar gyfer diwrnod 1. Byddwch chi hefyd yn cael profion gwaed ar gyfer cemotherapi diwrnod 8, y diwrnod cynt. Byddwn yn rhoi eich ffurflenni gwaed ichi pan fyddwch chi’n dod i gael triniaeth.

 

Pa mor hir fydda i yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi fel arfer ar ddiwrnod gwahanol i'ch apwyntiad yn y clinig.  Mae triniaeth diwrnod 1 yn cymryd tua phedair awr ac mae triniaeth diwrnod 8 yn cymryd tua thair awr.  Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf. Os byddwch chi’n cael oeri croen y pen ar ddiwrnod 1, caniatewch awr ychwanegol.

 

 

Ga i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

 

Mae croeso ichi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae’r lle yn gyfyng felly does dim lle i fwy nag un person fel arfer.  Dyw’r mannau triniaeth ddim yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Sut fydd fy nhriniaeth yn cael ei rhoi?

Bydd eich triniaeth yn cael ei rhoi trwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu yn eich braich.  Fel arall, os oes angen, efallai yr awgrymir bod tiwb mân o'r enw PICC yn cael ei osod mewn un o'r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich.  Gall y llinell hon aros yn ei lle ar gyfer eich triniaeth gyfan.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn yn fanylach os oes angen ac mae gennyn ni daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC.  

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd gyda'r driniaeth hon.  Gall y meddygon, y nyrsys ar thîm y fferyllfa roi cyngor ichi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Adweithiau yn ystod triniaeth olaratumab.

Mae'r rhan fwyaf o sgil-effeithiau sy’n gallu digwydd wrth roi olaratumab yn digwydd yn ystod y trwyth cyntaf pan gewch chi hyn yn y wythïen. Ond, mae hyn yn gallu digwydd weithiau ar ôl y trwyth cyntaf hefyd.

 

Os byddwch chi'n profi unrhyw un neu ragor o'r canlynol yn ystod y driniaeth, dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith:

 

  • Teimlo'n boeth ac yn llawn twymyn
  • Gwrido
  • Oerni neu grynu
  • Pendro neu lewygu
  • Problemau anadlu

 

Byddwn yn gallu rhoi meddyginiaeth ichi i atal y symptomau. Yn anaml fe all adwaith i driniaeth fygwth bywyd. Ond gan amlaf mae'n hawdd gwrth-droi hyn os caiff ei drin ar unwaith.

 

Haint

Rydych mewn mwy o berygl o gael heintiau oherwydd gall eich celloedd gwaed gwyn, sy'n helpu i ymladd heintiau, gael eu lleihau gan y driniaeth hon. 

Os byddwch yn datblygu haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych mewn perygl o sepsis, gall hyn fod yn fygythiol.

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft symptomau tebyg i ffliw neu dymheredd uwch na 37.5°canradd.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Colli gwallt

Yn anffodus fe fyddwch chi’n colli’ch gwallt gyda chemotherapi doxorubicin.  Bydd eich gwallt yn tyfu'n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben.  Weithiau mae modd defnyddio dull o’r enw 'oeri croen y pen' neu 'gap oer' i atal colli gwallt.  Os hoffech chi gael wig, mae yna ragor o wybodaeth yn y daflen ar ymdopi â cholli gwallt.  Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am oeri croen y pen neu wigiau siaradwch â'ch nyrs. 

 

Mae gennyn ni daflen sy'n dweud mwy wrthoch chi am ymdopi â cholli gwallt.  Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech chi gael copi.

 

Cyfogi

Mae cyfogi a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn gan ein bod ni’n rhoi meddyginiaethau gwrth-gyfogi ichi, sydd fel arfer yn hynod effeithiol.  Os byddwch chi’n cyfogi fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrth-gyfogi yn rheolaidd pan fyddwch chi gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud ichi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl.  Mae rhai pobl yn ei chael hi'n fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys. Os ydych chi'n teimlo'n flinedig iawn, rydyn ni’n argymell na ddylech chi yrru na gweithredu peiriannau.

 

Ceg ddolurus

Efallai y bydd eich ceg yn mynd yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach.  Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol.  Efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cegolch neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint.

 

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Gall rhai cleifion brofi myalgia oherwydd yr olaratumab, hynny yw poen yn y cyhyrau neu'r cymalau.   Os oes gennych chi boenladdwyr gartref yn barod, efallai y byddwch chi'n gweld bod y rhain yn lleddfu'r boen.  Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen. 

 

 

 

 

Newidiadau yn lliw eich wrin

Bydd doxorubicin yn rhoi lliw coch ar eich wrin yn ddiniwed am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi.  Os bydd hyn yn para fwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.

 

Effeithiau ar eich calon

Mae doxorubicin yn gallu achosi problemau gyda'r galon.  Os oes gennych chi broblem ar y galon yn barod, dywedwch wrth eich meddyg cyn ichi ddechrau triniaeth.  Dywedwch wrth eich meddyg os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw ddiffyg anadl, crychguriadau'r galon neu boen yn y frest.

 

Niwed i'r croen a’r feinwe

Gall doxorubicin niweidio'r croen a'r ardal gyfagos os bydd yn gollwng y tu allan i'ch gwythïen.  Yr enw ar hyn yw elifiad.  Mae'n eithriadol o brin ond mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthon ni ar unwaith os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw chwyddo, poen neu losgi yn y fan lle mae’r drip wedi’i osod.  Os bydd hyn yn digwydd tra bo’r cemotherapi yn cael ei roi, dywedwch wrth eich nyrs.  Os byddwch chi’n sylwi ar boen, chwyddo neu gochni pan fyddwch chi gartref, cysylltwch â ni ar unwaith. Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Dolur rhydd

Dyw dolur rhydd ddim yn gyffredin gyda'r driniaeth hon.  Ond os byddwch chi’n ysgarthu bedair neu fwy o weithiau mewn 24 awr yn fwy na'r hyn sy'n arferol ichi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Clotiau Gwaed

Gall diagnosis o ganser gynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), a gall cael triniaeth canser gynyddu'r risg hon ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwyddo yn eich coes, neu ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Gall clotiau gwaed fod yn ddifrifol iawn.  Fodd bynnag, fel arfer gellir trin y rhan fwyaf o glotiau'n llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu’ch nyrs roi mwy o wybodaeth i chi

 

Sgil-effeithiau eraill

Weithiau mae cleifion yn profi cur pen gyda'r driniaeth hon.

 

Weithiau mae menywod yn gweld bod triniaeth cemotherapi yn effeithio ar eu mislif.  Gall y mislif fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed beidio yn gyfan gwbl. 

 

Mae'n bwysig nad ydych chi'n beichiogi nac yn cenhedlu plentyn fel tad tra byddwch chi'n cael triniaeth ac am dri mis wedyn gan y gallai hyn niweidio'r babi heb ei eni. Yn yr un modd, rydyn ni’n argymell na ddylech chi fwydo ar y fron yn ystod y driniaeth nac am dri mis wedyn.

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin iawn a rhai yr adroddir arnynt yn gyffredin (ni allwn restru'r holl sgil-effeithiau cyffredin). I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a'r sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd i’w cael gan fferyllfa Felindre a/neu ar y we yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref a bod angen cyngor arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch chi:

  • yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • â dolur rhydd
  • ag wrin sydd wedi’i afliwio am fwy na 24 awr

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan     0808 808 0000

Llinell gymorth canser                         0808 808 1010

rhadffôn Tenovus

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg.

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.