Neidio i'r prif gynnwy

Doxorubicin 82

Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o’r enw doxorubicin.  Bydd y daflen yn esbonio beth yw’r driniaeth a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am doxorubicin ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi doxorubicin?

Triniaeth cemotherapi sy’n cael ei rhoi trwy ddrip yw doxorubicin. 

Pam ydw i’n cael cemotherapi doxorubicin?

Mae eich meddyg wedi argymell doxorubicin gan y gwyddom ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Caiff y rhain eu hadnabod fel cylchoedd. Mae’n arferol cael cylch o doxorubicin bob tair wythnos am hyd at 6 chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut yr ydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut y mae’r cemotherapi yn effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, argymhellir eich cemotherapi.

Pa mor hir fyddaf i yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad clinig fel arfer. Bydd y driniaeth cemotherapi yn cymryd rhyw awr.  Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

Os ydych chi’n byw ym mhell i ffwrdd, gellir trefnu eich cemotherapi ar gyfer yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig. Mae oedi bob tro rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi. Os yw eich cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty rhwng pedair a chwe awr. 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle yn brin yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer. Nid yw mannau triniaeth yn addas i blant ifanc.

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Bydd y cemotherapi yn cael ei roi trwy ddrip mewn gwythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, gellir awgrymu bod tiwb main o’r enw PICC yn cael ei osod yn un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn aros yn ei le trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn gyda chi ymhellach.

 

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gael copi.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt

Yn anffodus, bydd y cemotherapi hwn yn achosi i chi golli’ch gwallt. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl pan fydd eich triniaeth wedi gorffen. Gellir defnyddio dull o’r enw  ‘oeri croen y pen’ neu ‘gap oer’ weithiau i atal gwallt rhag cael ei golli.  Gallwn drefnu wig os hoffech gael un. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am wigiau neu oeri croen y pen, siaradwch â’ch nyrs.  

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych ynghylch ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gael copi. 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r math hwn o gemotherapi. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi mewn 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen .

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Newidiadau yn lliw eich wrin

Bydd doxorubicin yn afliwio eich wrin yn goch am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi, ond nid yw hyn yn niweidiol. Os bydd hyn yn para mwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

Effeithiau ar eich calon

Gall doxorubicin achosi problemau â’r galon. Os oes gennych broblem ar y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau ar eich triniaeth. Dywedwch wrth eich meddyg os ydych chi’n sylwi eich bod yn dioddef o ddiffyg anadl, crychguriadau’r galon neu boen yn y frest.

Sgîl-effeithiau eraill

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn cenhedlu plentyn tra byddwch yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.  

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan y gallent fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Os bydd gennych ddolur rhydd 
  • Os bydd eich wrin wedi’i afliwio am fwy na 24 awr

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.