Neidio i'r prif gynnwy

Docetaxel (Taxotere TM) 78,347 a 361

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw docetaxel neu Taxotere. Yr enw arferol ar y driniaeth hon yw Taxotere ond mae’n bosibl hefyd y byddwch yn clywed yr enw docetaxel. Bydd y daflen yn egluro beth yw Taxtotere a phryd a sut y caiff ei roi. Bydd hefyd yn egluro sgil effeithiau cyffredin y gallwch eu cael. Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am Taxotere ar ddiwedd y daflen hon. 

Dylid darllen y daflen hon ochr yn ochr â’r daflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, yna gofynnwch i’ch nyrs am gopi. 

Beth yw cemotherapi Taxotere?

Mae Taxotere’n gyffur cemotherapi sy’n tarddu o ddail yr Ywen Ewropeaidd. Mae eich meddyg wedi rhoi Taxotere am ei fod wedi dangos ei fod yn effeithiol i drin eich math chi o ganser.  

Pa mor aml byddaf i’n cael fy nghemotherapi Taxotere?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol mae’n cael ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Cylchredau  yw’r enw ar y rhain. Mae’n arferol cael cylchred o Taxotere bob tair wythnos am hyd at chwe chylchred. Bydd eich meddyg yn trafod union nifer y cylchredau y byddwch yn eu cael.

Caiff Taxotere ei roi’n wythnosol neu gyda chyffuriau cemotherapi eraill weithiau. Byddwn yn rhoi gwybodaeth bellach i chi os caiff eich Taxotere ei roi fel hyn. 

Pa mor aml byddaf i’n gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylchred. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gofyn sut ydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a all fod gennych. Rydym yn gwneud hyn fel y gallwn weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, caiff cemotherapi ei roi i chi.

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, mae’n bosibl y byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd hwn yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.

Mae gennym daflen sy’n egluro mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

Byddwn yn rhoi tabledi steroid i chi o’r enw dexamethasone. Mae’n rhaid i chi ddechrau eu cymryd y diwrnod cyn eich cemotherapi Taxotere. Mae hyn yn bwysig i atal rhai o sgil effeithiau’r driniaeth Taxotere. Dylid eu cymryd gyda bwyd, ar ôl brecwast a chinio. 

Am faint byddaf i yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad yn y clinig fel arfer. Bydd y driniaeth gemotherapi’n cymryd tua 1½  awr. Dylech ganiatáu 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

Os ydych yn byw ymhell i ffwrdd, gellir trefnu eich cemotherapi ar gyfer yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig. Mae oedi bob amser rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi. Os yw’ch cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty rhwng pedair a chwe awr.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n gyfyng yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer. Nid yw mannau triniaeth yn addas i blant bach.

Beth yw’r sgil effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cymryd y tabledi steroid dexamethasone i leihau rhai o’r sgil effeithiau sy’n gysylltiedig â chemotherapi Taxotere. Mae’n rhaid i chi gymryd y tabledi am dridiau, gan ddechrau ar y diwrnod cyn y byddwch yn cael eich cemotherapi Taxotere. Mae’n bwysig iawn eu cymryd yn unol â’r cyfarwyddiadau. 

Colli gwallt

Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Mae hyn dros dro’n unig. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben. Gellir defnyddio dull sy’n hysbys fel ‘oeri croen y pen’ neu ‘capio oer’ i atal colli’r gwallt weithiau. Gallwn drefnu wig os hoffech un. Os hoffech ragor o wybodaeth am oeri croen y pen neu wigiau, siaradwch â’ch nyrs.  

Mae gennym daflenni sy’n egluro mwy am ymdopi â cholli’r gwallt i chi. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi.

Salwch

Mae cyfogi a chwydu’n anghyffredin y dyddiau hyn gan ein bod yn rhoi meddyginiaeth rhag salwch i chi sy’n effeithiol dros ben fel arfer. Os byddwch yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth rhag salwch reolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth gemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

Haint

Mae’ch risg o ddal heintiau yn uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°C.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, os cewch eich corff i lawr bedair gwaith neu fwy mewn 24 awr sy’n fwy na’r hyn sy’n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig nag arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny, ond dylech barhau i wneud eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny. Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol i wneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn boenus neu y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen gemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg am roi cegolchion neu feddyginiaeth i atal neu glirio unrhyw haint.

Ataliad dŵr 

Mae’n bosibl y byddwch yn dioddef o atal dŵr sy’n gallu arwain at eich pigyrnau a’ch coesau’n chwyddo. Yn bur anaml, gall hyn arwain at fod yn fyr eich gwynt oherwydd hylif ar yr ysgyfaint. Mae’r tabledi steroid yn atal hyn rhag digwydd fel arfer. Os bydd yn digwydd, nid yw’n ddifrifol fel arfer a bydd yn stopio pan fydd eich triniaeth yn dod i ben. Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os bydd hyn yn broblem. 

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Mae’n bosibl y bydd rhai cleifion yn cael myalgia sef poen yn y cyhyrau neu’r cymalau. Gall hyn fod yn ddifrifol weithiau ond bydd ond yn parhau ychydig ddiwrnodau. Os oes gennych dabledi lleddfu poen gartref, mae’n bosibl y byddant yn lleddfu’r boen i chi. Os na fydd hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.  

Adweithiau tebyg i alergedd 

Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith tebyg i alergedd i Taxotere. Mae’r tabledi steroid yn atal hyn fel arfer. Os bydd yn digwydd, mae hyn fel arfer tra bo’r drip yn trwytho. Mae’r symptomau yn cynnwys: 

  • teimlo’n boeth ac yn cochi  
  • cosi 
  • penysgafnder 
  • teimlo’n sâl ar y cyfan   

Mae modd trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch yn cael unrhyw rai o’r symptomau hyn.   

Sgil effeithiau eraill

Mae’n bosibl y byddwch yn cael afliwio a rhychau i ewinedd eich bysedd ac ewinedd eich bysedd traed. Mae’n bosibl y bydd rhai cleifion yn colli eu hewinedd dros dro. 

Mae’n bosibl y bydd croen eich dwylo a’ch traed yn sych ac yn denau. Gellir rheoli hyn fel arfer drwy ddefnyddio lleithydd di-bersawr. 

Yn bur anaml, mae’r cemotherapi hwn yn effeithio ar y nerfau i’ch dwylo a’ch traed. Mae hyn yn arwain at golli teimlad neu synhwyriad gwahanol megis ‘pinnau bach’ neu ‘oglais’. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y symptomau’n diflannu o fewn ychydig fisoedd i’ch triniaeth ddod i ben. 

Gall y cemotherapi gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref a gwisgo het a defnyddio eli haul pan fyddwch yn yr haul. 

Weithiau mae menywod yn gweld bod triniaeth gemotherapi’n effeithio ar y mislif. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed, ddod i ben yn gyfan gwbl. 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi neu’n cenhedlu plentyn  wrth gael triniaeth gemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban yn y groth.  

Taflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion

Mae copïau o daflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau, a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn mynd yn sâl gartref a bod angen sylw brys arnoch ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os byddwch:

  • Yn sâl fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • Â thymheredd o 37.5°C neu’n uwch
  • Â dolur rhydd
  • Ag wrin coch am fwy na 24 awr

Yr Adran Fferylliaeth 029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun– Dydd Gwener 9am – 5pm am ymholiadau am eich meddyginiaethau

Llinell gymorth canser                    0808 808 1010

Tenovus - rhadffôn

Dydd Llun – ddydd Gwener 9am – 4.30pm am ymholiadau cyffredinol am ganser

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi ei seilio ar dystiolaeth. Mae hi wedi ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru’n flynyddol.