Neidio i'r prif gynnwy

Dacarbazine 195

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw dacarbazine neu DTIC. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am Dacarbazine ar ddiwedd y llyfryn hwn.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi dacarbazine?

Triniaeth cemotherapi sy’n cael ei roi ar ffurf pigiad drwy ddrip yw dacarbazine.

Pam ydw i’n cael cemotherapi dacarbazine?

Mae’ch meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fyddaf yn cael dacarbazine?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael tri chylch o darcarbazine bob tair wythnos am rhwng dau a chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi i mewn i wythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.

Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

Cyn eich cemotherapi, byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog a thabledi steroid i chi yn y drip. Yna caiff y cemotherapi ei chwistrellu i mewn i diwbiau’r drip. 

Pa mor hir fyddaf yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad yn y clinig fel arfer. Bydd y driniaeth cemotherapi yn cymryd rhyw awr. Dylech ganiatáu 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

Os ydych yn byw’n bell i ffwrdd, mae’n bosibl y caiff eich cemotherapi ei drefnu ar gyfer yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig. Mae oedi bob amser rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi. Os yw’ch cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty am rhwng pedair a chwe awr.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd eich gwallt yn teneuo rywfaint.

Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch os hoffech gopi.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 6.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 6.

Poen yn y gwythiennau

Os ydych yn cael eich cemotherapi drwy wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich, mae’n bosibl y byddwch ychydig yn anghyfforddus ar adeg chwistrellu’r cemotherapi. Dywedwch wrth eich nyrs os bydd hyn yn digwydd.

Mae’n bosibl gosod llinyn PICC ar eich cyfer fel sy’n cael ei drafod ar dudalen 2. Bydd hyn yn atal unrhyw anghysur yn y gwythiennau. Os hoffech ragor o wybodaeth am linynnau PICC, siaradwch â’ch meddyg neu’ch nyrs.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r cemotherapi hwn. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 6.

Sgîl-effeithiau eraill a gwybodaeth 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Bod gennych ddolur rhydd

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.