Neidio i'r prif gynnwy

Cisplatin and Capecitabine 363

Taflen wybodaeth am gemotherapi cisplatin a

capecitabine

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw cisplatin a capecitabine. Bydd yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd yn rhoi gwybod i chi hefyd, am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dylid darllen y daflen hon ochr yn ochr â’r daflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

Beth yw cemotherapi cisplatin a capecitabine?

Cwrs triniaeth yw hwn sy’n cynnwys dau gyffur:

  • Cisplatin – sy’n cael ei roi fel drip
  • Capecitabine – tabledi cemotherapi

 

Pam ydw i’n cael cemotherapi cisplatin a capecitabine?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch o cisplatin a capecitabine bob tair wythnos am hyd at chwe chylch. Gall hyn amrywio. Bydd eich meddyg yn trafod union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

 

Ym mhob cylch wythnos, byddwch yn cael y driniaeth cisplatin unwaith.  Dylech gymryd y tabledi capecitabine ddwywaith y dydd drwy gydol eich triniaeth.

 

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

Er mwyn cael eich triniaeth cemotherapi, bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty ddwywaith ym mhob cylch tair wythnos.

 

Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – byddwn yn cymryd samplau gwaed. Byddwn yn gweld sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhagnodi cemotherapi ar eich cyfer. Bydd yr apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

 

Apwyntiad cemotherapi – byddwch yn treulio rhyw saith awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Dylech ganiatáu hyd at awr yn ychwanegol ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog, hylifau a’ch cemotherapi cisplatin i chi mewn drip.  Byddwn yn rhoi tabledi capecitabine i chi, i fynd adref gyda chi.

 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

 

 

 

Sut dylwn i gymryd y tabledi capecitabine?

Dylech gymryd tabledi capecitabine ddwywaith y dydd (9-12 awr ar wahân). Dylech eu cymryd o fewn 30 munud ar ôl gorffen eich pryd bwyd. Dylech lyncu’r tabledi’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu.

Mae’n bwysig golchi eich dwylo’n drwyadl ar ôl cymryd eich tabledi.

 

Faint o dabledi fydd angen i mi eu cymryd?

Mae hyn yn amrywio. Mae tabledi o ddau gryfder gwahanol ar gael. 500mg yw’r tabledi mwy o faint a 150mg yw’r tabledi llai o faint. Bydd angen i chi gymryd cyfuniad o dabledi mawr a bach, fwy na thebyg. Bydd y nifer y bydd angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y bocsys. Cofiwch wirio pob bocs er mwyn gweld faint o dabledi y bydd angen i chi eu cymryd.

 

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn dwy awr i’r amser arferol, dylech eu cymryd nawr.
  • Os yw’n fwy na dwy awr yn hwyr, dylech golli’r ddos honno.

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol pan ddylai eich triniaeth fod wedi dod i ben. Mae’n bwysig hyd yn oed os ydych wedi colli unrhyw ddosiau, eich bod yn gorffen y driniaeth ar yr adeg a gynlluniwyd. 

 

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.

 

 

 

Sut dylwn i storio’r tabledi capecitabine?

Dylech storio eich tabledi yn eu pecynnau gwreiddiol mewn man diogel i ffwrdd o gyrraedd plant. Dylech eu storio mewn man oer a sych. Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty neu i’ch fferyllfa leol er mwyn iddynt gael gwared arnynt yn ddiogel.

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r driniaeth hon. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Colli gwallt

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn, ond bydd rhai cleifion yn sylwi bod eu gwallt yn teneuo rhywfaint.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn, gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog, rhowch y gorau i gymryd eich tabledi capecitabine, a chysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

 

Heintiau

Bydd eich risg o gael heintiau’n uwch, gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Os ydych chi’n dal haint tra bod eich celloedd gwaed gwyn yn isel, rydych chi mewn perygl o ddal sepsis, ac mae hyn yn gallu bygwth bywyd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° neu’n is na 35.5°. Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi ei chymryd os byddwch yn cael dolur rhydd.

 

Dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os:

  • byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr.
  • byddwch yn deffro yn ystod y nos gyda dolur rhydd.

 

Dylech gysylltu â ni hefyd os bydd gennych unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu gynnydd yn nifer y troeon y byddwch yn agor eich perfedd sy’n para mwy na thridiau.

 

Blinder a lludded

Efallai y byddwch yn teimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny, ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os ydych chi’n eich bod chi’n gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

Os bydd eich ceg yn ddolurus iawn, neu os byddwch yn ei chael yn anodd bwyta ac yfed, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dolur i’ch dwylo a’ch traed

Mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn, cochni a chwyddo i’ch dwylo neu’ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, rydym yn argymell eich bod chi’n defnyddio eli neu drochdrwyth di-bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn boenus.

 

Problemau croen

Bydd rhai cleifion yn datblygu croen sych neu frech.  Fel arfer, gall hyn gael ei drin yn hawdd gyda rhywfaint o hylif neu eli di-bersawr.  Yn anaml iawn, gall y frech hon fod yn ddifrifol.  Os ydych yn datblygu brech gyda phothelli neu frech sy’n boenus, dylech roi'r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a ffonio Canolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen hon.

 

Problemau ar y galon

Yn bur anaml, mae rhai pobl sy’n cael cemotherapi capecitabine yn cael problemau ar y galon. Os oes gennych gyflwr ar y galon neu eich bod chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau cemotherapi. Os oes gennych unrhyw boen yn eich brest, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a gofyn am sylw meddygol brys. Peidiwch â chymryd eich capecitabine eto tan y byddwch wedi siarad â’r tîm yn Felindre.

 

Effaith ar eich arennau

Gall cemotherapi cisplatin effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Bydd y prawf gwaed y byddwch yn ei gael cyn eich cemotherapi’n gwirio pa mor dda mae eich arennau’n gweithio ar ddechrau’r driniaeth. Byddwn yn eich monitro’n ofalus hefyd drwy gymryd profion gwaed rheolaidd drwy gydol eich triniaeth.

 

Rydym bob amser yn rhoi cisplatin gyda digonedd o hylifau yn y drip er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae’n bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau am o leiaf deuddydd hefyd ar ôl pob triniaeth. Rydym yn awgrymu cael cwpanaid neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.

 

Clotiau gwaed

Mae diagnosis o ganser yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu clot gwaed (thrombosis), ac mae triniaeth canser yn gallu cynyddu'r risg hwn ymhellach.  Mae'n bwysig dweud wrth eich meddyg ar unwaith os oes gennych symptomau fel poen, cochni a chwydd yn eich coes, neu os ydych yn dioddef o ddiffyg anadl a phoen yn y frest. 

 

Mae clotiau gwaed yn gallu bod yn ddifrifol iawn ond fel arfer, gellir trin y rhan fwyaf o glotiau yn llwyddiannus gyda chyffuriau i deneuo'r gwaed.  Gall eich meddyg neu eich nyrs roi mwy o wybodaeth i chi.

 

Sgîl-effeithiau eraill 

Gall cisplatin niweidio nerfau eich dwylo a’ch traed. Mae’n bosibl y byddwch yn colli teimlad neu’n cael newidiadau mewn synhwyriad fel goglais neu binnau bach. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig dweud wrth eich meddyg os bydd hyn yn digwydd, fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

 

Gall cisplatin niweidio’r nerfau sy’n gyfrifol am glyw hefyd, ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli eich clyw i ryw raddau, a gallai hyn fod yn barhaol.

 

Weithiau, bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi, gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

 

Ydy hi’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill gyda capecitabine?

Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu eich fferyllydd os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill. Mae nifer fach o feddyginiaethau y gallai fod angen i chi eu hosgoi. Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu eich fferyllydd os ydych yn cymryd tabledi warfarin.

 

Weithiau, mae cyffuriau canser yn gallu cael sgîl-effeithiau difrifol iawn, sydd weithiau, ond dim yn aml iawn, yn gallu peryglu bywyd. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych chi’n pryderu am unrhyw sgîl-effeithiau.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin, a rhai sydd wedi eu cofnodi fel bod yn gyffredin iawn (ni allwn restru'r holl sgîl-effeithiau cyffredin).  I gael rhagor o wybodaeth am y rhain ac am y sgîl-effeithiau llai cyffredin, dylech gyfeirio at y taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion, sydd ar gael o fferyllfa Felindre a/neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk. Weithiau, gall cleifion ei chael hi'n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gopi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr
  • Os byddwch yn agor eich perfedd yn fwy na’r hyn sy’n arferol i chi ac sy’n para’n fwy na thridiau
  • Bod gennych geg ddolurus iawn
  • Bod gennych draed neu ddwylo dolurus iawn
  • Os ydych wedi gorfod rhoi’r gorau i gymryd capecitabine oherwydd poen yn y frest

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

Llinell gymorth rhadffôn Macmillan            0808 808 0000

7 diwrnod yr wythnos 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

Llinell gymorth canser

rhadffôn Tenovus                          0808 808 1010

7 diwrnod yr wythnos 8am – 8pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

 

 

 

Mae’r daflen hon wedi cael ei hysgrifennu gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth, ac wedi cael ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Mae’r wybodaeth yn cael ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Adolygwyd Tachwedd 2015