Neidio i'r prif gynnwy

Cisplatin a RT 180 a 243

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs triniaeth cemotherapi a radiotherapi cisplatin. Bydd yn esbonio ystyr y driniaeth a phryd a sut bydd yn cael ei rhoi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y llyfryn hwn.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’ a’r llyfryn am eich radiotherapi. Os nad ydych wedi cael y rhain, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Pam ydw i’n cael cemotherapi cisplatin ynghyd â radiotherapi?

Mae’ch meddyg wedi argymell y driniaeth hon gan ei bod yn hynod effeithiol o ran trin y math sydd gennych.

Gall triniaethau radiotherapi a chemotherapi roi canlyniadau gwell o’u rhoi gyda’i gilydd yn hytrach na thriniaeth sy’n cael ei rhoi’n unigol. Nod y driniaeth yw niweidio unrhyw gelloedd canser yn eich tiwmor neu’n agos ato, ac unrhyw gelloedd canser a allai fod wedi symud i rannau eraill o’ch corff.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nhriniaeth?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’n arferol cael pum triniaeth cisplatin unwaith yr wythnos. Byddwch yn cael eich cemotherapi yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd yn Felindre.

Byddwn yn rhoi eich radiotherapi i chi bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Am ba hyd fyddaf yn yr ysbyty? 

Mae’r driniaeth cemotherapi’n cymryd rhyw chwe awr. Dylech ganiatáu 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a thriniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn cael fy nghemotherapi? 

Bydd angen cyfres o brofion gwaed arnoch cyn dechrau eich cemotherapi. Mae un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu i wirio bod eich arennau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â’r cemotherapi. Byddwch hefyd yn cael profion gwaed wythnosol yn ystod eich triniaeth.

Sut caiff fy nhriniaeth ei rhoi?

Caiff cisplatin ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.

Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

Sut caiff fy radiotherapi ei roi? 

Mae’ch llyfryn radiotherapi’n cynnwys gwybodaeth am sut caiff eich triniaeth radiotherapi ei chynllunio, sut caiff ei rhoi a’r sgîl-effeithiau posibl y gallech eu dioddef. Os hoffech ragor o wybodaeth am eich radiotherapi, siaradwch â’ch radiograffwyr.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl sy’n gysylltiedig â’m cemotherapi?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, i rai cleifion bydd eu gwallt yn teneuo rywfaint.

Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi, dywedwch wrth eich radiograffydd pan fyddwch yn dod i gael eich radiotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Effaith ar eich arennau

Gall cisplatin effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Bydd y prawf gwaed a fyddwch yn ei gael cyn eich cemotherapi’n gwirio pa mor dda mae’ch arennau’n gweithio ar ddechrau’r driniaeth. Byddwn hefyd yn eich monitro’n ofalus drwy gymryd profion gwaed rheolaidd trwy gydol eich triniaeth.

Rydym bob amser yn rhoi cisplatin gyda digonedd o hylifau yn y drip er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau am o leiaf ddeuddydd ar ôl pob triniaeth. Rydym yn awgrymu cael cwpanaid neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.

Sgîl-effeithiau eraill

Gall cisplatin niweidio nerfau eich dwylo a’ch traed. Mae’n bosibl y bydd hyn yn arwain at ddiffyg teimlad neu newidiadau o ran synhwyriad fel goglais neu binnau bach. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth eich meddyg neu’ch radiograffydd os bydd hyn yn digwydd fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

Gall cisplatin effeithio hefyd ar y nerfau sy’n gyfrifol am eich clyw, ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli clyw i ryw raddau a allai fod yn barhaol. Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch radiograffydd os byddwch yn colli eich clyw o gwbl neu’n cael atseinio yn y clustiau.

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Bod gennych ddolur rhydd

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

Radiograffwyr Gwybodaeth 029 0261 5888 est. 6428

a Chymorth

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.