Neidio i'r prif gynnwy

Cisplatin a capecitabine (pen a Gwddf) 458

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw cisplatin a capecitabine. Bydd yn esbonio ystyr hwn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi cisplatin a capecitabine?

Cwrs triniaeth sy’n cynnwys dau gyffur yw hwn:

  • Cisplatin – sy’n cael ei roi fel drip
  • Capecitabine – tabledi cemotherapi 

Pam ydw i’n cael y cemotherapi hwn?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch cisplatin a capecitabine bob tair wythnos am hyd at chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Caiff y cisplatin ei roi ar ddiwrnod cyntaf pob cylch, yna byddwch yn cymryd y tabledi capecitabine am y pythefnos nesaf, cyn gorffwys am chwe diwrnod. 

A fydd angen i mi aros yn yr ysbyty ar gyfer y driniaeth hon?

Bydd angen i’r rhan fwyaf o gleifion aros yn yr ysbyty dros nos. Byddwn yn mynd â chi i’r uned cemotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae hon hefyd yn cael ei galw’n Ward y Dywysoges Margaret.

Mae’n bosibl y gall rhai cleifion gael y driniaeth hon fel claf allanol. Byddwch yn cael eich triniaeth yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd.

Bydd eich meddyg yn trafod sut caiff eich triniaeth ei rhoi.

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn cael fy nghemotherapi? 

Bydd angen cyfres o brofion gwaed arnoch cyn dechrau eich cemotherapi. Mae un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu i wirio bod eich arennau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â’r cemotherapi.

Sut caiff fy nhriniaeth ei rhoi?

Caiff eich cemotherapi cisplatin ei roi drwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Byddwch yn gysylltiedig â’r drip yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty. Caiff y drip ei atodi i stand cludadwy gydag olwynion felly byddwch yn gallu symud o gwmpas. Os bydd angen cymorth arnoch, bydd nyrs wrth law.

Caiff capecitabine ei roi fel tabledi am bythefnos, yn dechrau y diwrnod ar ôl eich cisplatin.

Sut dylwn i gymryd y tabledi capecitabine?

Dylech gymryd tabledi capecitabine ddwywaith y dydd, yn y bore ar ôl eich brecwast a chyda’r nos ar ôl eich swper. Dylech gymryd y tabledi o fewn 30 munud i orffen eich pryd bwyd. Dylech lyncu’r tabledi’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu. Mae’n bwysig golchi eich dwylo’n drwyadl ar ôl cymryd eich tabledi.

Faint o dabledi fydd angen i mi eu cymryd?

Mae hyn yn amrywio. Mae tabledi o ddau gryfder gwahanol ar gael. 500mg yw’r tabledi mwy o faint a 150mg yw’r tabledi llai o faint. Bydd angen i chi gymryd cyfuniad o dabledi mawr a bach, fwy na thebyg. Bydd y nifer y bydd angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y blychau. Cofiwch wirio pob blwch er mwyn gweld faint o dabledi y bydd angen i chi eu cymryd.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn dwy awr i’r amser arferol, dylech eu cymryd nawr.
  • Os yw’n fwy na dwy awr yn hwyr, dylech golli’r ddos honno.

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol pan ddylai eich triniaeth fod wedi dod i ben. Mae’n bwysig hyd yn oed os ydych wedi colli unrhyw ddosiau eich bod yn gorffen y driniaeth ar yr adeg a gynlluniwyd. 

Sut dylwn i gadw’r tabledi capecitabine?

Dylech gadw eich tabledi yn eu pecynnau gwreiddiol mewn man diogel i ffwrdd o gyrraedd plant. Dylech eu cadw mewn man oer a sych (islaw 30oC). Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i adran fferyllol yr ysbyty neu’ch siop fferyllydd leol er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd rhai cleifion yn sylwi bod eu gwallt yn teneuo rywfaint.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog pan fyddwch adref ar ôl eich cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi ei chymryd os byddwch yn cael dolur rhydd.

Dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os:

  • byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr.
  • byddwch yn deffro yn ystod y nos gyda dolur rhydd.

Dylech gysylltu â ni hefyd os bydd gennych unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu gynnydd yn nifer y troeon y byddwch yn agor eich perfedd sy’n para’n fwy na thridiau.

Blinder a lludded 

Efallai y byddwch yn teimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Os bydd eich ceg yn ddolurus iawn, neu os byddwch yn ei chael yn anodd bwyta ac yfed, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur i’ch dwylo a’ch traed

Mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn, cochni a chwyddo i’ch dwylo neu’ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, argymhellwn eich bod yn defnyddio eli neu drochdrwyth di-bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn boenus.

Effaith ar eich arennau

Gall cemotherapi cisplatin effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Bydd y prawf gwaed y byddwch yn ei gael cyn eich cemotherapi’n gwirio pa mor dda mae eich arennau’n gweithio ar ddechrau’r driniaeth. Byddwn hefyd yn eich monitro’n ofalus drwy gymryd profion gwaed rheolaidd drwy gydol eich triniaeth.

Rydym bob amser yn rhoi cisplatin gyda digonedd o hylifau yn y drip er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau am o leiaf ddeuddydd ar ôl pob triniaeth. Rydym yn awgrymu cael cwpanaid neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.

Sgîl-effeithiau eraill  

Gall cisplatin niweidio nerfau eich dwylo a’ch traed. Mae’n bosibl y byddwch yn colli teimlad neu’n cael newidiadau mewn synhwyriad fel goglais neu binnau bach. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig dweud wrth eich meddyg os bydd hyn yn digwydd fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

Gall cisplatin niweidio’r nerfau sy’n gyfrifol am glyw hefyd ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli eich clyw i ryw raddau a gallai hyn fod yn barhaol. Yn bur anaml, mae rhai pobl sy’n cymryd capecitabine yn cael problemau ar y galon fel angina neu grychguriadau ar y galon. Os oes gennych gyflwr ar eich calon neu’ch bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau cemotherapi.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Ydy hi’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill gyda capecitabine?

Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill. Mae nifer fach o feddyginiaethau y gallai fod angen i chi eu hosgoi. Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych yn cymryd tabledi warfarin.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr
  • Os byddwch yn agor eich perfedd yn fwy na’r hyn sy’n arferol i chi ac sy’n para’n fwy na thridiau
  • Bod gennych geg ddolurus iawn
  • Bod gennych draed neu ddwylo dolurus iawn

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.