Neidio i'r prif gynnwy

Cisplatin a capecitabine gyda RT 363

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi sy’n cael ei roi gyda radiotherapi. Bydd yn esbonio ystyr hwn a sut a phryd y caiff ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi cisplatin a capecitabine ynghyd â radiotherapi?

Triniaeth gyfunol yw hon. Mae’n cynnwys dau gyffur cemotherapi a chwrs radiotherapi: 

  • Cisplatin – cemotherapi sy’n cael ei roi fel drip bob tair wythnos
  • Capecitabine – tabledi cemotherapi sy’n cael eu cymryd ddwywaith y dydd am bum niwrnod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Radiotherapi – yn cael ei roi pum niwrnod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener 

Pam ydw i’n cael y driniaeth hon?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r driniaeth hon gan ei bod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych. Gall triniaethau radiotherapi a chemotherapi roi canlyniadau gwell o’u rhoi gyda’i gilydd yn hytrach na’r naill triniaeth neu’r llall wedi’i rhoi’n unigol. Nod y driniaeth yw niweidio unrhyw gelloedd canser yn eich tiwmor neu’n agos ato ac unrhyw gelloedd canser a allai fod wedi symud i rannau eraill o’ch corff.

Am ba hyd fydd fy nhriniaeth yn para?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn eu cael eu galw’n gylchoedd. Mae cylch cemotherapi cisplatin a capecitabine yn para tair wythnos. Gall nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael amrywio. Bydd eich meddyg yn trafod hyn gyda chi.

Caiff eich radiotherapi ei roi bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi am ba hyd y byddwch eich triniaeth yn para.

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

Er mwyn cael eich cemotherapi, bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty ddwywaith ym mhob cylch tair wythnos.

Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – byddwn yn cymryd samplau gwaed a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhagnodi cemotherapi ar eich cyfer. Bydd yr apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

Apwyntiad cemotherapi – Byddwch yn treulio rhyw saith awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Dylech ganiatáu awr ychwanegol ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn roi meddyginiaeth wrthgyfog, hylifau a cisplatin i chi mewn drip. Byddwn yn rhoi cyflenwad o dabledi capecitabine i chi fynd â nhw adref gyda chi.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

Pan fyddwch yn dechrau eich radiotherapi, byddwch yn yn ymweld â’r ysbyty bob dydd (o ddydd Llun i ddydd Gwener). Mae eich llyfryn radiotherapi’n rhoi gwybod i chi sut caiff eich triniaeth radiotherapi ei chynllunio, sut caiff ei rhoi a’r sgîl-effeithiau posibl y gallech eu dioddef. Os hoffech ragor o wybodaeth am eich radiotherapi, siaradwch â’ch radiograffwyr.

Sut dylwn i gymryd y tabledi capecitabine?

Dylech gymryd tabledi capecitabine ddwywaith y dydd (o ddydd Llun i ddydd Gwener ar yr un diwrnodau â’ch radiotherapi). Dylech eu cymryd yn y bore ar ôl eich brecwast a chyda’r nos ar ôl eich swper. Dylech eu cymryd o fewn 30 munud i or

ffen eich pryd bwyd. Dylech eu llyncu’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu. Mae’n bwysig golchi eich dwylo’n drwyadl ar ôl cymryd eich tabledi.

Os caiff eich radiotherapi ei ganslo am unrhyw reswm, er enghraifft, peiriant yn torri neu ŵyl y banc, ni ddylech gymryd eich tabledi cemotherapi. Pan fydd eich radiotherapi’n ailddechrau, dylech ddechrau cymryd eich tabledi

Faint o dabledi fydd angen i mi eu cymryd?

Mae hyn yn amrywio. Mae tabledi o ddau gryfder gwahanol ar gael. 500mg yw’r tabledi mwy o faint a 150mg yw’r tabledi llai o faint. Bydd angen i chi gymryd cyfuniad o dabledi mawr a bach, fwy na thebyg. Bydd y nifer y bydd angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y blychau. Cofiwch wirio pob blwch er mwyn gweld faint o dabledi y bydd angen i chi eu cymryd.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn dwy awr i’r amser arferol, dylech eu cymryd nawr.
  • Os yw’n fwy na dwy awr yn hwyr, dylech golli’r ddos honno.

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol pan ddylai eich triniaeth fod wedi dod i ben. Mae’n bwysig hyd yn oed os ydych wedi colli unrhyw ddosiau eich bod yn gorffen y driniaeth ar yr adeg a gynlluniwyd. 

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chyngor Ganser Felindre am gyngor.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

Sut dylwn i gadw’r tabledi capecitabine?

Dylech gadw eich tabledi yn eu pecynnau gwreiddiol mewn man diogel i ffwrdd o gyrraedd plant. Dylech eu cadw mewn man oer a sych. Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i adran fferyllol yr ysbyty neu’ch siop fferyllydd leol er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd rhai cleifion yn sylwi bod eu gwallt yn teneuo rywfaint.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog, rhowch y gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi ei chymryd os byddwch yn cael dolur rhydd.

Dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os:

  • byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr.
  • byddwch yn deffro yn ystod y nos gyda dolur rhydd.

Dylech gysylltu â ni hefyd os bydd gennych unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu gynnydd yn nifer y troeon y byddwch yn agor eich perfedd sy’n para’n fwy na thridiau.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Os bydd eich ceg yn ddolurus iawn, neu os byddwch yn ei chael yn anodd bwyta ac yfed, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

Dolur i’ch dwylo a’ch traed

Mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn, cochni a chwyddo i’ch dwylo neu’ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, argymhellwn eich bod yn defnyddio eli neu drochdrwyth di-bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn boenus.

Problemau ar y galon

Yn bur anaml, mae rhai pobl sy’n cael cemotherapi capecitabine yn cael problemau ar y galon. Os oes gennych gyflwr ar y galon neu’ch bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau cemotherapi. Os oes gennych unrhyw boen yn eich brest, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a gofyn am sylw meddygol brys. Peidiwch â chymryd eich capecitabine eto hyd nes byddwch wedi siarad â’r tîm yn Felindre.

Effaith ar eich arennau

Gall cisplatin effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Bydd y prawf gwaed y byddwch yn ei gael cyn eich cemotherapi’n gwirio pa mor dda mae eich arennau’n gweithio ar ddechrau’r driniaeth. Byddwn hefyd yn eich monitro’n ofalus drwy gymryd profion gwaed rheolaidd drwy gydol eich triniaeth.

Rydym bob amser yn rhoi cisplatin gyda digonedd o hylifau yn y drip er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau am o leiaf ddeuddydd ar ôl pob triniaeth. Rydym yn awgrymu cael cwpanaid neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.

Sgîl-effeithiau eraill  

Gall cisplatin niweidio nerfau eich dwylo a’ch traed. Mae’n bosibl y byddwch yn colli teimlad neu’n cael newidiadau mewn synhwyriad fel goglais neu binnau bach. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig dweud wrth eich meddyg os bydd hyn yn digwydd fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

Gall cisplatin niweidio’r nerfau sy’n gyfrifol am glyw hefyd ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli eich clyw i ryw raddau a gallai hyn fod yn barhaol.

Bydd rhai cleifion yn cael llygaid dolurus neu ddyfrllyd. Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig os bydd hyn yn digwydd.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Ydy hi’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill gyda capecitabine?

Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill. Mae nifer fach o feddyginiaethau y gallai fod angen i chi eu hosgoi. Dywedwch wrth eich meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd os ydych yn cymryd tabledi warfarin.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr
  • Os byddwch yn agor eich perfedd yn fwy na’r hyn sy’n arferol i chi ac sy’n para’n fwy na thridiau
  • Bod gennych geg ddolurus iawn
  • Bod gennych draed neu ddwylo dolurus iawn
  • Os ydych wedi gorfod rhoi’r gorau i gymryd capecitabine oherwydd poen yn y frest

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.