Neidio i'r prif gynnwy

CCEP 248

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw CCEP. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am CCEP ar ddiwedd y llyfryn hwn.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi  CCEP? 

Triniaeth cemotherapi sy’n cynnwys pedwar cyffur yw hon. Tri chyffur cemotherapi sy’n cael eu rhoi fel tabledi yw’r rhain:

  • Lomustine
  • Cyclophosphamide
  • Etoposide 

Tabled steroid o’r enw prednisolone yw’r pedwerydd cyffur.

CCEP yw’r enw ar hwn fel arfer. 

Pam ydw i’n cael cemotherapi CCEP? 

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nhriniaeth? 

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn gyfarwydd fel cylchoedd. Mae’n arferol cael cylch triniaeth bob pedair wythnos am rhwng pedwar a chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael gyda chi.

Ym mhob cylch pedair wythnos, bydd angen i chi gymryd y tabledi fel y’i disgrifir isod. Mae’r holl dabledi’n dechrau ar un diwrnod. Bydd nifer y tabledi y bydd angen i chi eu cymryd yn amrywio i bob un. Bydd faint o dabledi y bydd angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y blychau. Cofiwch wirio pob blwch i weld faint o dabledi y bydd angen i chi eu cymryd.

  • Dylech gymryd y tabledi lomustine am ddiwrnod. 
  • Dylech gymryd tabledi cyclophosphamide unwaith y dydd am hyd at 10 diwrnod. 
  • Dylech gymryd tabledi etoposide unwaith neu ddwywaith y dydd am 10 diwrnod.  
  • Dylech gymryd y tabledi prednisolone unwaith y dydd am bum niwrnod. 

Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol? 

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn i ni wirio sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch. Os bydd eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, caiff cemotherapi ei ragnodi ar eich cyfer.

Sut dylwn gymryd fy nhabledi cemotherapi? 

Dylech lyncu’r tabledi cemotherapi yn gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu. Bydd faint y bydd angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y blwch. Mae’n bwysig eich bod yn golchi eich dwylo’n drwyadl ar ôl cymryd eich tabledi cemotherapi.

Dylech gymryd lomustine cyn mynd i’r gwely, neu â stumog wag (awr ar ôl bwyta). Dylech gymryd y tabled gwrthgyfog (ondansetron) a’r tabled cysgu (temazepam) 30 munud cyn cymryd y tabledi. Bydd hyn yn lleihau’r risg o chwydu.  

Dylech gymryd tabledi cyclophosphamide unwaith y dydd. Gallwch ddewis pa adeg o’r dydd rydych am eu cymryd, ond ceisiwch gymryd y tabledi tua’r un pryd bob dydd. Bydd angen i rai cleifion gymryd nifer wahanol o dabledi bob yn ail ddiwrnod (er enghraifft 100 mg un diwrnod, 150 mg y diwrnod nesaf). Byddwn yn esbonio hyn i chi a bydd wedi’i farcio’n glir ar y label.

Dylech gymryd tabledi etoposide unwaith neu ddwywaith y dydd. Dylech gymryd y ddos gyntaf yn y bore. Os bydd angen i chi gymryd ail ddos, dylech wneud hyn gyda’r nos. Dylech gymryd y tabledi â stumog wag, felly rhyw awr cyn neu ar ôl bwyta.

Sut dylwn gymryd fy nhabledi prednisolone?

Dylech gymryd y tabledi prednisolone am bum niwrnod, gan ddechrau ar yr un diwrnod â’ch cemotherapi. Bydd angen i chi gymryd 12 tabled bob dydd. Dylech gymryd y rhain yn y bore ar ôl eich brecwast.

Beth ddylwn ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi? 

Os yw o fewn dwy awr i’r amser arferol, dylech eu cymryd ar unwaith. Os yw’n hwyrach na dwy awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. 

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi? 

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. 

Sut dylwn gadw fy nhabledi? 

Dylech gadw eich tabledi yn eu pecynnau gwreiddiol mewn man diogel i ffwrdd o gyrraedd plant. Dylech eu cadw mewn man oer a sych. Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio at adran fferyllol yr ysbyty neu’ch siop fferyllydd leol er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Mae hyn dros dro yn unig. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben. Gallwn drefnu wig os hoffech un, gofynnwch i’ch nyrs am ragor o wybodaeth.

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith am gyngor os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda CCEP. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Blinder a lludded 

Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Systitis (llid y bledren)

Gall cyclophosphamide lidio eich pledren ac achosi systitis weithiau. Gall hyn fod yn anghyfforddus. Er mwyn osgoi hyn, argymhellwn eich bod yn yfed o leiaf ddau litr y dydd (12 cwpan) ac ystod eich triniaeth ac am yr ychydig ddiwrnodau cyntaf ar ôl cwblhau eich triniaeth. Mae symptomau systitis yn cynnwys:

  • llosgi neu boen wrth basio dŵr
  • yr angen i basio dŵr ar frys neu’n aml 
  • gwaed yn eich wrin 
  • poen yn rhan isaf eich cefn. 

Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os bydd gennych unrhyw un o’r symptomau hyn. Gallwn roi meddyginiaeth i chi i helpu hyn. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am sampl o wrin er mwyn sicrhau nad oes gennych haint.

Sgîl-effeithiau eraill 

Mae’n bosibl y bydd nifer fach o bobl yn cael problemau ar yr ysgyfaint ar ôl triniaeth lomustine. Os byddwch yn datblygu peswch sych neu’n sylwi eich bod ychydig yn fyr o wynt, dywedwch pan fyddwch yn ymweld â’r ysbyty y tro nesaf. Os ydych o fyr iawn o wynt, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre neu gofynnwch am sylw meddyg ar unwaith.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Sgîl-effeithiau tabledi prednisolone 

Pan fyddwch yn cymryd y tabledi hyn, mae’n bosibl y byddwch yn sylwi ar nifer o sgîl-effeithiau gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Awydd cynyddol am fwyd 
  • Diffyg traul 
  • Hwyliau ansad, sensitifedd ac anhawster cysgu 
  • Mae’n bosibl y byddwch yn fwy sychedig ac yn pasio dŵr yn fwy na’r arfer. Gallai hyn fod yn arwydd o gynnydd yn lefelau’r siwgr yn eich gwaed. Os ydych yn ddiabetig, gallai hyn fod yn broblem benodol. Dylech drafod hyn gyda’ch meddyg neu’ch nyrs.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Bod gennych ddolur rhydd

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.