Neidio i'r prif gynnwy

Carboplatin - canser y ceilliau 91

Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth am gemotherapi carboplatin.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am doxorubicin ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw carboplatin a pham ydw i’n ei gael?

Mae carboplatin yn gemotherapi a ddefnyddir i drin eich math chi o ganser y ceilliau (seminoma). Mae un dos o carboplatin ar ôl llawdriniaeth yn lleihau’r posibilrwydd y bydd eich canser yn dod yn ôl.

A fydd angen i mi gael unrhyw brofion cyn i mi gael fy nghemotherapi?

Cyn y gellir rhoi eich triniaeth i chi, byddwch yn cael prawf gweithrediad yr arennau (EDTA). Mae hyn yn helpu i ni gyfrif y dos cywir o carboplatin ar eich cyfer.

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Bydd carboplatin yn cael ei roi trwy ddrip mewn gwythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Caniatewch ryw 1½ awr ar gyfer eich apwyntiad. Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle yn brin, felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer. Nid yw mannau triniaeth yn addas i blant ifanc.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt

Mae’n anghyffredin iawn colli gwallt gyda carboplatin.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch am 3 – 4 wythnos ar ôl eich cemotherapi gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. 

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi mewn 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. 

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol. 

Ffrwythlondeb 

Efallai y bydd gostyngiad yn faint o sberm yr ydych yn ei gynhyrchu am ychydig fisoedd, ond ni fydd y driniaeth yn effeithio ar eich ffrwythlondeb yn barhaol. Mae’n bwysig nad ydych yn cenhedlu plentyn tra byddwch yn cael triniaeth cemotherapi, ac am o leiaf 6 mis ar ôl hynny, gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.  

Adwaith alergaidd

Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith alergaidd tra byddant yn cael carboplatin. Os yw hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn teimlo’n boeth neu’n cael chwiwiau poeth, cosi, teimlo’n benysgafn neu’n gyffredinol sâl. Caiff hyn ei drin yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch yn teimlo’n sâl.

Gall carboplatin gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul. 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan y gallent fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Os bydd gennych ddolur rhydd 

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Nyrs Arbenigol Wroleg 029 2061 5888 est. 6991

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.