Neidio i'r prif gynnwy

Carboplatin and 5 Fluorouracil (5-FU) 270

Gwybodaeth am gemotherapi carboplatin a

5 fluorouracil (5-FU)

 

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs triniaeth cemotherapi o’r enw carboplatin a 5 fluorouracil (5-FU).  Bydd yn esbonio beth yw hyn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn ar ddiwedd y daflen hon.

 

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

 

 

Beth yw cemotherapi carboplatin a 5 fluorouracil (5-FU)?

Mae hwn yn gwrs o driniaeth sy’n cynnwys dau gyffur:

 

  • Carboplatin
  • 5 fluorouracil (5-FU)

 

 

Pam ydw i’n cael y cemotherapi hwn?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

 

 

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch o carboplatin a 5-FU bob tair wythnos am hyd at chwech chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

 

 

A fydd angen i mi aros yn yr ysbyty ar gyfer y driniaeth hon?

Er mwyn cael y driniaeth hon, bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am rhwng 4 a 5 diwrnod ar gyfer pob cylch cemotherapi. Eir â chi i’r uned cemotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae hon hefyd yn gyfarwydd fel Ward y Dywysoges Margaret.

 

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn dechrau fy nghemotherapi?

Bydd angen cyfres o brofion gwaed arnoch cyn i chi ddechrau eich cemotherapi. Mae un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu i wneud yn siwr bod eich arennau yn gweithio’n ddigon da i ymdopi â chemotherapi.

 

Sut caiff fy nhriniaeth ei rhoi?

Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Byddwch yn parhau i fod yn gysylltiedig â’r drip yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty. Caiff y drip ei atodi i stand cludadwy gydag olwynion er mwyn i chi allu symud o amgylch ardal y ward. Os bydd angen cymorth arnoch, bydd nyrs wrth law.

 

Caiff y carboplatin ei roi ar ddiwrnod cyntaf pob cylch a bydd fel arfer yn cael ei roi dros 1-2 awr ar uned arall yn yr ysbyty (adran cleifion allanol cemotherapi fel arfer). Caiff y 5-FU ei roi dros y pedwar diwrnod dilynol.

 

 

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl sy’n gysylltiedig â’m cemotherapi?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

 

Colli gwallt

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd gwallt rhai cleifion yn teneuo.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth gemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°C. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r cemotherapi hwn.  Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

 

Blinder a lludded

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

 

 

Sgîl-effeithiau eraill

Yn bur anaml, mae rhai pobl sy’n cael y cemotherapi hwn yn cael problemau ar y galon fel angina neu grychguriadau ar y galon. Os oes gennych gyflwr sy’n effeithio ar y galon neu’ch bod yn cymryd meddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau cemotherapi.

 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

 

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gallant fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Bod gennych ddolur rhydd

 

 

Adran fferyllol                         029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus                     0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd Hydref 2011